Beth yw Dangos?


Prosiect i’ch helpu i ddangos i bobl eraill fod llawer o ffyrdd o wella eu sefyllfa ariannol yng Nghymru, ac i ddangos i chi sut i leddfu eu pryderon am hawlio.


Mae Dangos 2023 wedi cychwyn. Mae'r rownd hon yn cynnwys cyrsiau rhagarweiniol a chanolradd / gloywi. Sesiynau newydd nawr ar gymorth ar gyfer 'Plant a phobl ifanc', 'Pobl hŷn' a'r 'Rhai sydd angen gofal'


Cliciwch ar y botwm ar waelod y dudalen hon.


Ar gyfer cyrsiau canolradd mewnol, bydd sesiynau hefyd yn canolbwyntio ar bobl sy'n gweithio ym maes tai, gofal cymdeithasol, gofal iechyd, a budd-daliadau.


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch info@dangos.cymru


Pam mae angen hyn?


Mae ar filoedd o bobl yng Nghymru angen y cymorth y gallai ychydig o arian ychwanegol ei roi iddyn nhw: ychydig mwy o wres neu fwyd, llai o angen benthyca arian gan fenthycwyr diwrnod cyflog drud neu esgidiau newydd ar gyfer yr ysgol.

 

Ar yr un pryd, dydy miliynau o bunnoedd y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw ddim yn cael eu hawlio. Dydy pobl ddim yn manteisio ar gymorth arall sydd ar gael i bobl sy’n wynebu argyfwng sydyn oherwydd nad ydyn nhw’n gwybod amdano


Ar gyfer pwy?


Bydd Dangos yn rhoi gwybodaeth i bobl fel chi, sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd ag eraill y gall fod angen cymorth arnyn nhw, er mwyn i chi ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael. Bydd yn dangos ffyrdd o annog pobl i dderbyn y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo a bydd yn dangos i chi o ble y gallwch gael cymorth arbenigol i bobl sydd mewn angen


Sut mae’n gwneud hynny?


Drwy sesiwn ar-lein am ddim, yn ogystal â phecyn gwybodaeth am ddim a mynediad at e-ddysgu manwl am ddim am fudd-daliadau lles.






Sut ydw i’n gwybod a yw’n addas i mi?


Os ydych chi’n gweithio yng Nghymru, yn gyflogedig neu’n wirfoddol, gyda phobl y gall fod angen cymorth arnyn nhw i gael rhagor o arian, mae’n addas i chi.


Pwy sy’n rhoi’r sesiynau?


Mae’r sesiynau yn cael eu rhoi gan arbenigwyr profiadol ar fudd-daliadau, ac mae’r pecynnau gwybodaeth a’r e-ddysgu yn cael eu rhoi gan Ferret, sef prif arbenigwyr Ewrop ar fudd-daliadau. Mae Dangos yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.



Pwy ddylai fod yn rhan o Dangos?

"Rwyf wedi bod yn gwneud gwaith yn nhai pobl am ychydig o flynyddoedd. Weithiau maen nhw’n oer iawn a hoffwn wybod a oes unrhyw ffordd o gael rhagor o arian am wres."


Gweithiwr cynnal a chadw mewn cymdeithas tai



"Rydym yn ceisio sicrhau bod gan bobl rywbeth i’w fwyta pan maen nhw’n dod atom ni. Hoffwn fod yn gallu awgrymu’n gyflym bethau y gallen nhw eu gwneud yn y tymor hwy."


Gwirfoddolwr mewn banc bwyd




Share by: