Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i gleifion mewnol

Arwydd gwybodaeth

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i cadw'n ddiogel tra yn yr ysbyty yn ystod COVID-19 yma (agor mewn dolen newydd)

Gall arhosiad yn yr ysbyty fod yn gyfnod anodd i chi a'r rheiny sy'n agos atoch. Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am yr hyn y dylech ei ddisgwyl yn ystod eich arhosiad, yn ogystal â'r hyn a ddylai ddigwydd pan fydd yn bryd i chi adael.

Ein nod yw darparu'r safon orau o ofal i chi, a bydd y staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'ch gwneud yn gartrefol ac i sicrhau bod eich arhosiad yn un mor ddymunol a chyfforddus â phosibl. Mae croeso i chi ofyn i unrhyw aelod o staff am unrhyw beth sy'n peri pryder i chi.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: