Swyddi Gwag
Pennaeth Profiad Ymwelwyr a Datblygu Busnes
Ceidwad Cadw (De Cymru)
Dyddiad cau 16:00 29 May 2024
Tasgau Allweddol
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm dan arweiniad Prif Geidwad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel i ymwelwyr.
Ceidwad Cadw (Gogledd Cymru)
Dyddiad cau 16:00 29 May 2024
Tasgau Allweddol
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm dan arweiniad Prif Geidwad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel i ymwelwyr.
Syrfëwr yr Ystâd Hanesyddol
Dyddiad cau 10/06/2024, 16:00
Tasgau Allweddol
Dyma swydd i weithiwr proffesiynol cymwys/ rhannol gymwys neu brofiadol ym maes eiddo. Ei rôl yw cefnogi’r gwaith o reoli buddiannau eiddo hanesyddol Cadw sydd yng Ngofal y Wladwriaeth. Bydd deiliad y swydd yn atebol i Bennaeth Ystâd Hanesyddol Cadw ac yn aelod o adran Ystadau'r gangen Eiddo mewn Gofal.
Gwneud cais
Tîm recriwtio
- Ebost
Mae gweithio i Cadw yn rhoi cyfle i chi chwarae eich rhan wrth ofalu am amgylchedd hanesyddol Cymru.
Boed hynny’n gwneud gwaith cadwraeth arbenigol, yn cynghori perchnogion eiddo hanesyddol ar yr arferion gorau o ran gwaith cynnal a chadw neu’n croesawu ymwelwyr i un o’r safleoedd arbennig yr ydym yn gofalu amdanynt.
Mae Cadw yn un o asiantaethau Llywodraeth Cymru, felly mae’r bobl sy’n gweithio yma yn weision sifil. Rydym yn cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi a datblygu, cynlluniau pensiwn, lwfans gwyliau hael, gweithio hyblyg (yn dibynnu ar eich rôl). A’r cyfle wrth gwrs i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy’n falch o gadw asedau hanesyddol Cymru yn ‘daclus’ er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer nifer o swyddi a bydd hyn yn cael ei nodi yn yr hysbyseb ar gyfer y swydd. Rydym yn annog ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg ac, os ydych chi’n siaradwr Cymraeg, gallwch ddisgwyl amgylchedd gwaith dwyieithog a gwybodaeth a gwasanaethau AD sydd ar gael yn ddwyieithog.
Mae ein swyddi yn cynnwys:
- Saer Maen
- Ceidwad
- Arbenigwr cadwraeth
- Archaeolegydd
- Arolygydd Adeiladau Hanesyddol
Rydym hefyd yn cyflogi pobl sy’n ymwneud â:
gwaith achos, ystadau, digwyddiadau, cyfleusterau, cyllid, grantiau, iechyd a diogelwch, AD, dehongli, dysgu gydol oes, marchnata, ffotograffiaeth, cyhoeddiadau, manwerthu, datblygu’r we a hyd yn oed trefnu priodasau!
Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored yn unol ag egwyddorion recriwtio’r gwasanaeth sifil. Gellir dod o hyd i fanylion am swyddi gwag drwy fynd i Swyddi a swyddi gwag | LLYW. CYMRU.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i ni ac eisiau cael gwybod pan fydd cyfleoedd yn codi, ewch i wefan recriwtio Llywodraeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer hysbysiadau swyddi.
Fel rhan o Lywodraeth Cymru, mae'r gydberthynas sydd gennym â'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Yn ein barn ni, y ffordd orau o gyflawni ein nodau yw sicrhau bod y rheolwyr a'r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
- PCS
- Prospect
- FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
- cyflog
- telerau ac amodau
- polisïau a gweithdrefnau
- newid sefydliadol.
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.