Ymgynghoriad ar ofynion cofrestru arfaethedig pob ceidwad adar ym Mhrydain Fawr

Closed 31 May 2023

Opened 7 Mar 2023

Overview

Rydym yn ceisio eich barn ar ein cynlluniau i'w gwneud yn orfodol i bob ceidwad[1] dofednod[2] ac adar caeth eraill[3] gofrestru ei aderyn/adar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Ar hyn o bryd, mae'n orfodol i berson sy’n geidwad 50 neu ragor o ddofednod mewn unrhyw safle unigol gofrestru ei adar ar gofrestr dofednod Prydain Fawr drwy ddarparu gwybodaeth benodedig am yr adar. Mae'r wybodaeth ar y gofrestr dofednod yn bwysig i atal a rheoli brigiadau o achosion clefyd adar hysbysadwy (fel ffliw adar a chlefyd Newcastle). Mae ffliw adar yn glefyd feirysol hynod heintus sy'n effeithio ar adar domestig ac adar gwyllt.

Defnyddir yr wybodaeth ar y gofrestr i wneud y canlynol:

  • cyfathrebu â cheidwaid pan fo risg uwch o ymlediad ffliw adar, ac yn ystod brigiadau o achosion o ffliw adar a chlefyd Newcastle, ar fesurau y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu iechyd eu hadar, ac i atal y clefyd rhag lledaenu 
  • bodloni’r mesurau rheoli clefydau a nodir mewn deddfwriaeth ddomestig[4] a Strategaeth Rheoli Clefydau Adar Hysbysadwy ar gyfer Prydain Fawr, megis cynnal gweithgareddau gwyliadwriaeth mewn unrhyw barth cyfyngedig yn dilyn cadarnhad o achosion o glefyd
  • bodloni gofynion rhyddid rhag clefydau’r UE at ddibenion masnachu yn dilyn achosion o glefyd ym Mhrydain Fawr

[1]Mae “ceidwad” yn golygu'r unigolyn sydd â’r cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddofednod neu adar caeth eraill ar unrhyw safle.

[2] Mae “dofednod” yn golygu pob aderyn sy’n cael ei fagu neu ei gadw mewn caethiwed ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau i’w bwyta, ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill, ar gyfer ailstocio cyflenwadau helgig, neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu’r categorïau hyn o adar.

[3]Mae “adar caeth eraill” yng Nghymru a Lloegr yn golygu unrhyw aderyn a gedwir mewn caethiwed nad yw'n ddofednod ac sy'n cynnwys aderyn anwes ac unrhyw aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, bridio neu ei werthu; neu

 Yn yr Alban, mae adar caeth eraill yn golygu unrhyw aderyn, ac eithrio dofednod, a gedwir mewn caethiwed, gan gynnwys unrhyw aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd a chystadlaethau (fel adar addurniadol a cholomennod rasio).

[4] Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006, fel y’i diwygiwyd yn Lloegr, Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006, fel y'i diwygiwyd yng Nghymru, a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006, fel y'i diwygiwyd yn yr Alban.

Why your views matter

Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar gynigion y llywodraeth i fynnu bod pob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill yn cofrestru ei adar. Mae tri opsiwn yn cael eu hystyried, gan gynnwys opsiwn gwneud dim.

Mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf am leoliad safleoedd adar yn cynyddu effeithiolrwydd gweithgareddau a gyflawnir gan y llywodraeth, megis asesiadau risg, olrhain ymchwiliadau, a rhannu cyfathrebiadau â cheidwaid ar sut i ddiogelu eu hadar.

Byddai diweddariadau blynyddol gorfodol i wybodaeth gofrestru ar gyfer pob ceidwad yn gwella cywirdeb data i helpu i atal a rheoli clefydau, er y nodir na fyddai cofrestriad blynyddol o reidrwydd yn cyfateb i'r cylch cynhyrchu ar gyfer pob system.

Bydd y newidiadau arfaethedig yn diwygio’r gofynion cofrestru dofednod presennol ar gyfer ceidwaid â 50 a mwy o ddofednod ac yn ymestyn hyn i bob ceidwad adar. Mae cynigion yr ymgynghoriad yn symud yr argymhelliad ymlaen o adolygiad 2018 y Fonesig Glenys Stacey a gynhaliwyd ar gyfer Lloegr a’r gwersi a nodwyd o’r brigiad o achosion ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) H5N1 (a elwir hefyd yn ffliw adar) yn 2021/2022 ac achosion HPAI blaenorol.

Er bod polisi iechyd anifeiliaid yn fater datganoledig, mae llywodraeth y DU, llywodraeth yr Alban a llywodraeth Cymru wedi cytuno i gydweithio i sicrhau bod gwybodaeth ddigonol am bob safle adar yn cael ei chasglu ledled Prydain Fawr. Dim ond ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) y bydd y diwygiadau penodol a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn cael effaith.

Ar hyn o bryd, mae'n orfodol i berson sy’n geidwad 50 neu ragor o ddofednod mewn unrhyw safle unigol gofrestru ei adar ar gofrestr dofednod Prydain Fawr drwy ddarparu gwybodaeth benodedig am yr adar. Mae'r wybodaeth ar y gofrestr yn galluogi'r llywodraeth i gyfathrebu â cheidwaid dofednod yn gyflym, i reoli unrhyw achosion posibl o glefyd, ac i gyflawni gweithgareddau cysylltiedig ag achosion o’r fath yn effeithiol.

Caiff eich hymatebion eu defnyddio er mwyn helpu i fireinio cynigion a llywio penderfyniadau polisi ynghylch sut y bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag unrhyw newid deddfwriaethol dilynol.

Audiences

  • Charities/Voluntary Organisations
  • Trade Unions
  • Food Business Operators
  • Food Industry
  • Vets
  • Operators of animal gatherings
  • Livestock show ground operators
  • Government Departments
  • Government Agencies
  • Devolved Administrations
  • Coastal local authorities
  • National Park Authorities
  • Local Authorities
  • Consumer Groups
  • Pet Owners
  • Pet Interest Groups
  • Veterinarians
  • Local Authorities
  • All Defra staff and ALBs
  • Families
  • Farmers
  • SME businesses
  • Tenant Farmers
  • Agricultural Landlords
  • Trading Standards Officers
  • Environmental Health Officers
  • Stakeholders

Interests

  • Animals
  • Egg industry
  • Poultry industry
  • Poultry
  • Animal diseases
  • Meat Industry
  • Pets
  • Wildlife management
  • Protecting wildlife
  • Non-native species
  • Circus animals
  • Zoos