English icon English

Gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd ar-lein

Volunteers and those unable to work from home can order a lateral flow self-test kit online

O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, bydd gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd a fydd yn cael ei ddanfon yn syth i’w cartref. Gall pobl archebu prawf yma: https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer y coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt yn rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae’n bosibl nad yw 1 o bob 3 o bobl sydd â COVID-19 yn dangos unrhyw symptomau, sy’n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobl yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol. Dylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws hunanynysu ac archebu prawf drwy ffonio 119 neu ar-lein.

Mae hunanbrofion llif unffordd hefyd ar gael i’w casglu o rai safleoedd profi ledled Cymru. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae manylion y safleoedd casglu a’u hamseroedd agor ar gael yma: https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Fel mater o drefn, gall pob person gasglu, neu archebu i’w cartref, ddau becyn o saith hunan-brawf llif unffordd i’w defnyddio gartref. Argymhellir y dylid gwneud y profion ddwywaith yr wythnos, gan gofnodi pob canlyniad ar borthol Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Hoffem ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu profi ac rydyn ni’n arbennig o awyddus i helpu pobl sy’n gwirfoddoli neu sy’n methu gweithio gartref i gael eu profi’n rheolaidd.

Wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau, bydd profi pobl asymptomatig yn rheolaidd yn arf ychwanegol i helpu i atal lledaeniad y feirws a diogelu Cymru.”