Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Blasu Ar-lein

Gallwch chi ddechrau dysgu Cymraeg trwy ddilyn cyrsiau blasu ar-lein. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae rhai cyrsiau wedi eu teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, er enghraifft Iechyd a Gofal. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs - proses hawdd iawn (gallwch ddewis ‘Arall’ fel cyflogwr wrth greu cyfrif). Pob hwyl gyda’r dysgu!

Cwrs 'Croeso'

Mae’r cwrs yma yn cyflwyno geirfa ac ymadroddion syml.

  • Mae'r cwrs ar gael yn rhad ac am ddim i bawb.
  • Mae'r cwrs Croeso yn cynnwys Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).

Cliciwch ar y dde i gael mynediad at y Cwrs 'Croeso'.

Cwrs 'Croeso Nôl'

Mae'r Cwrs 'Croeso Nôl' yn ddilyniant i'r Cwrs 'Croeso'. Mae'r cwrs ar gael yn rhad ac am ddim i bawb.

Mae'r cwrs 'Croeso Nôl' yn cynnwys Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).

Cliciwch ar y chwith i gael mynediad at y Cwrs 'Croeso Nôl'.

Cwrs 'Gwella'

Os ydych chi eisoes yn rhugl yn y Gymraeg, dyma gyfle i chi ennill hyder wrth ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg - yn enwedig wrth ysgrifennu. Mae’r cwrs ar gael i bawb, ac yn rhad ac am ddim.

Mae'n cynnwys Rhan 1 (5 uned, tua 5 awr) a Rhan 2 (5 uned, tua 5 awr).

Cliciwch ar y ddolen ar y dde i ddechrau arni!

Cyrsiau Sectorol

Yn ogystal â'r cyrsiau cyffredinol uchod, 'dyn ni wedi datblygu cyfres o gyrsiau Blasu Ar-lein ar gyfer sectorau penodol. Mae cynnwys y mwyafrif o'r rhain yn debyg i gynnwys y cwrs 'Croeso', ond bod pob un wedi'i deilwra'n arbennig i'r sector dan sylw. Os ydych chi'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn y sectorau isod, neu gyda diddordeb dysgu sgiliau Cymraeg ar gyfer y sectorau, cliciwch ar y dolenni isod i ddechrau arni!