Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Pa fath o gwrs?

Lefelau dysgu

Mae cyrsiau Cymraeg ar gael ar sawl lefel dysgu - o ddechreuwyr i ddysgwyr profiadol.  Gwyliwch ein fideo i gael blas ar y lefelau - mae mwy o fanylion ar gael yma.

Mae'r mwyafrif o gyrsiau yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd.

Gallwch chwilio am gwrs fesul lefel:

 

Enw'r lefel Disgrifiad Dod o hyd i gwrs

Mynediad

Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau a diddordebau. Cyrsiau Mynediad

Sylfaen

Mae'r lefel yma yn adeiladu ar lefel Mynediad ac yn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg. Cyrsiau Sylfaen

Canolradd

Yn addas ar gyfer pobl sy'n gyfarwydd gyda phrif batrymau'r Gymraeg.  Mae mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando ar y lefel yma. Cyrsiau Canolradd

Uwch

Bydd cyfle i drafod pob math o bynciau a themâu
ar y lefel yma. Y prif nod yw creu siaradwyr hyderus. 
Cyrsiau Uwch

Hyfedredd

Mae'r cyrsiau yma, sy'n addas ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr Cymraeg, yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y dosbarth. Gall y cyrsiau ganolbwyntio ar sgiliau llafar neu ysgrifenedig. Cyrsiau Hyfedredd

Dulliau dysgu

Dosbarth rhithiol

Dosbarth

Cyrsiau Hunan-Astudio

Cyrsiau Cyfunol

Cyrsiau Preswyl

Dysgu Cymdeithasol

Darparwyr cyrsiau

Mae cyrsiau Cymraeg yn cael eu cynnal gan 11 darparwr cyrsiau ledled Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Gallwch chwilio am gwrs fesul rhanbarth darparwr:

Darparwr cyrsiau

Rhanbarth darparwr

Caerdydd

Nedd Port Talbot ac Abertawe

Bro Morgannwg

Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr

Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent a Sir Fynwy

Sir Benfro

Sir Gâr

Y Canolbarth a Sir Gâr

 

Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy

Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam

Cenedlaethol      

 

Cymraeg Gwaith

Cymraeg Gwaith

Mae cynllun Cymraeg Gwaith yn cefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith. Beth am ddechrau trwy roi cynnig ar ein cyrsiau blasu ar-lein sy'n rhad ac am ddim yma?

Clwb Cwtsh

Clwb Cwtsh

 

Dych chi wedi clywed am Clwb Cwtsh? Cyrsiau blasu Cymraeg rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd yw Clwb Cwtsh. Mae mwy o wybodaeth am sesiynau Clwb Cwtsh ar gael yma.

Cyrsiau Preswyl

Nant Gwrtheyrn

Mae cyrsiau preswyl fel arfer ar gael yn Nant Gwrtheyrn, sef y ganolfan iaith a diwylliant ym Mhenrhyn Llŷn, ond ar hyn o bryd, cyrsiau mewn dosbarthiadau rhithiol sy'n cael eu cynnal.