ASau Arfon yn talu teyrnged i nyrsys lleol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams a'r Aelod o'r Senedd Sian Gwenllian wedi ailddatgan eu diolchgarwch i nyrsys lleol sy'n gweithio ar reng flaen y frwydr yn erbyn Coronafeirws, gan dalu teyrnged i'r rheini sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac yn gofalu am gleifion ledled cymunedau Arfon.

Wrth siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, dywedodd Mr Williams a Ms Gwenllian fod y pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at y pwysau sydd ar staff rheng flaen y GIG, sy'n peryglu eu bywydau eu hunain ac yn aberthu amser gwerthfawr gyda'u teuluoedd eu hunain i ofalu am bobl eraill.

Hefyd, galwodd Hywel Williams AS unwaith eto am roi dinasyddiaeth Brydeinig i holl weithwyr y GIG sydd ddim yn dod o Brydain ac sy'n brwydro yn erbyn y coronafeirws, gan ddweud mai'r gwir syml yw na allai gwasanaethau megis y GIG weithio heb gyfraniad staff gofal iechyd o lawer o wahanol wledydd. 

Mae'r BMA (Cymru) (Cymdeithas Feddygol Prydain) wedi cefnogi ei alwad.

Meddai Hywel Williams AS,

'Mae hwn yn gyfle i fyfyrio ar ymroddiad diflino nyrsys a chynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio i ddarparu gofal ledled Arfon drwy gydol y flwyddyn.

'Mae Covid-19 wedi tynnu sylw at y pwysau sydd ar wasanaethau iechyd lleol ac ymroddiad diwyro'r staff rheng flaen, sy'n peryglu eu bywydau eu hunain ac yn aberthu amser gwerthfawr gyda'u teuluoedd eu hunain i ofalu am bobl eraill.'

'O Fangor i Bontnewydd, mae nyrsys ledled Arfon yn gwneud gwaith na fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ei wneud, drwy ofalu am gleifion yn yr ysbyty neu drwy ymweld â phobl wael ac oedrannus yn ein cymunedau.'  

'Rwy'n gwybod am nyrsys sydd wedi gorfod gwneud aberthau personol mawr i ddiogelu eu teuluoedd wrth ofalu am gleifion Covid-19, fel treulio wythnosau ar wahân i'w teuluoedd eu hunain mewn llety arall.' 

'Rwy’n gobeithio y gwnaiff nyrsys ledled Arfon gymryd amser i fyfyrio ar eu cyfraniad aruthrol, ac i deimlo balchder personol yn y gwahaniaeth y maent yn ei wneud.'

'Hefyd, yn syml, allai ein GIG lleol a'u gwasanaethau cymorth ddim gweithio heb gyfraniad enfawr ac aberth staff gofal iechyd o lawer o wahanol wledydd.'

'Mae miloedd o weithwyr allweddol o'r tu hwnt i Brydain yn gweithio ar y rheng flaen ar hyn o bryd yn y frwydr yn erbyn y feirws angheuol hwn, a llawer ohonynt yn cefnogi ymdrechion arwrol staff GIG Cymru yn Ysbyty Gwynedd.'

'Y lleiaf y maent yn ei haeddu yw tawelwch meddwl i wybod y caiff y bywyd y maent wedi'i adeiladu iddynt eu hunain a'u teuluoedd yn y DU ei ddiogelu, ac yn anad dim, ein bod wir yn gwerthfawrogi eu haberth.'

Meddai Sian Gwenllian AS

'Fel cymdeithas, mae gennym ddyled enfawr i gynifer o weithwyr allweddol - o feddygon i athrawon, o weithwyr gofal i fferyllwyr, cynorthwywyr dosbarth a gyrwyr lorïau.'

 

'Heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, rydym yn canolbwyntio ar y nyrsys a'r cynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio yn ein hysbytai ac yn y gymuned.'

 

'Hoffwn ychwanegu fy niolch mwyaf gwresog iddynt am eu gwaith sy'n anhygoel o werthfawr bob amser, ond yn enwedig yn ystod yr argyfwng Covid-19 hwn.' 

 

'Maent yn peryglu eu bywydau eu hunain wrth ofalu am bobl eraill. Maent yn haeddu ein parch llwyr, ac rwy'n eu cymeradwyo bob un.'


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd