English

Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir am ei fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny. At ddefnydd y canlynol y mae yn bennaf:

  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar yng Nghymru
  • athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu'r rhai mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy'n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg gynnar
  • sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
  • arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir nad ydyn nhw’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ond y mae'n ofynnol, o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, iddyn nhw ymarfer yn unol â gofynion statudol y cwricwlwm

Wrth gyflawni dyletswydd statudol Llywodraeth Cymru, mae'r cwricwlwm hwn yn bodloni'r gofynion canlynol:

  • mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm
  • mae'n eang ac yn gytbwys
  • mae’n addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • mae'n darparu llwybr cynnydd priodol i bob dysgwr

Mae'r cwricwlwm hwn hefyd yn:

  • cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad
  • cwmpasu'r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig
  • adlewyrchu egwyddorion cynnydd
  • cwmpasu elfennau gorfodol y cwricwlwm, gan gynnwys y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Dylai lleoliadau sy'n dewis mabwysiadu'r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n briodol yn ddatblygiadol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.

Mae rhagor o wybodaeth, ar ffurf cwestiynau cyffredin, ar ddysgu sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar gael.

Os hoffech fersiwn testun plaen o’r ddogfen hon, cysylltwch â CwricwlwmiGymru@llyw.cymru