English

Mae’r adran hon o ganllawiau statudol yn cyfeirio’n benodol at addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae’r adran crynodeb o ddeddfwriaeth yn nodi gofynion Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae AHY yn chwarae rôl hollbwysig o ran rhoi mynediad i ddysgu i rai o’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Unedau cyfeirio disgyblion sefydliadau addysg bellach, ysgolion arbennig annibynnol a sefydliadau yn y trydydd sector. Gall dysgu yn y lleoliadau hyn hefyd cael ei gyfuno ag addysg ran-amser mewn ysgol brif ffrwd fel rhan o becyn o fesurau a gynlluniwyd i ddarparu addysg addas. Felly, mae AHY yn aml yn gofyn am fwy o hyblygrwydd nag addysg brif ffrwd. Mae AHY yn ymwneud â chynnydd addysgol, ond rhaid iddo hefyd ganolbwyntio ar helpu dysgwyr i fynd i’r afael â goresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at ddarpariaeth brif ffrwd a chymryd rhan lawn mewn addysg.

Mae’r adran hon ar gyfer AHY yn nodi’r hyn sydd ei angen yn ychwanegol at yr hyn a nodir ar gyfer pob dysgwr yng nghanllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, gan fod egwyddorion cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm ac asesu fwy neu lai yr un fath ar gyfer lleoliadau prif ffrwd ac AHY, mae dolenni ar gyfer rhannau eraill o’r canllawiau fframwaith hefyd wedi’u cynnwys yma.

Ym mhob lleoliad addysg, gan gynnwys lleoliadau AHY, bydd cynllunio’r cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion cynllunio cwricwlwm. Fodd bynnag, mae dysgwyr sy’n mynychu lleoliadau AHY yn wynebu rhwystrau sylweddol i ddysgu. Maen nhw’n mynychu lleoliadau AHY am resymau amrywiol ac maen nhw yn aml wedi profi heriau yn eu bywydau sy’n fwy na rhai llawer o’u cyfoedion. Felly, dylai’r elfennau canlynol gryfhau’r gwaith o gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm ar gyfer AHY: 

  • meithrin a chryfhau iechyd a lles pob dysgwr
  • cydweithio systematig rhwng y dysgwr, rhieni/gofalwyr, ysgol a darparwyr AHY
  • mynediad i gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr
  • cefnogi ailintegreiddio neu bontio dysgwyr sy’n derbyn AHY i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol a/neu eu cefnogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu’r byd gwaith

Meithrin a chryfhau iechyd a lles

Mae’n hanfodol bod y cwricwlwm yn cael ei gynllunio i gefnogi a diwallu anghenion lles meddyliol, emosiynol, corfforol a chymdeithasol dysgwyr. Ni fydd dysgwyr yn dysgu’n effeithiol oni bai eu bod nhw’n fodlon ac yn ddiogel: mae lles yn hanfodol i alluogi dysgu.

Gall cynnydd dysgwyr ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles effeithio ar eu cynnydd ehangach. 

Mae’r Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn cynnwys canllawiau ar gyfer datblygu cynllun gweithredu, gan ddefnyddio astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer dda.

Cydweithio systematig

Wrth drefnu, cynllunio a gweithredu cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy’n derbyn AHY, yn ogystal ag ystyried materion yn ymwneud â thystiolaeth, arbenigedd a datblygu ar y cyd yn gyffredinol, rhaid hefyd gydweithio â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys:

  • dysgwyr a rhieni/gofalwyr
  • ymarferwyr o ysgolion a lleoliadau blaenorol a phresennol y dysgwyr yn ogystal ag ysgolion a lleoliadau byddan nhw’n eu mynychu yn y dyfodol
  • pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion a’r pennaeth/athro/athrawes sy’n gyfrifol am yr uned cyfeirio disgyblion
  • yr awdurdod lleol a’r darparwyr a gomisiynwyd gan yr awdurdod lleol

Bydd y consortia rhanbarthol yn gallu helpu cefnogi’r gwaith cydweithredol hwn. 

Mae dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gofyn am gynnwys y dysgwr ar bob cam mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno.

Gall gweithio gyda gwasanaethau partner ac asiantaethau, megis iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau troseddau ieuenctid, yn ogystal â gwasanaethau ataliol, therapiwtig ac ieuenctid, helpu diwallu anghenion unigol dysgwr.

Mae cydweithio o’r fath yn arwain at ddealltwriaeth gyffredin rhwng rhanddeiliaid ynghylch yr hyn sydd ei angen i gynllunio, dylunio a gweithredu’r cwricwlwm er mwyn adlewyrchu anghenion pob dysgwr unigol. Mae hyn yn cynnwys trefniadau ar gyfer materion fel dynodi rolau a phennu cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu a sicrhau ansawdd y cwricwlwm.

Mynediad i gwricwlwm cynhwysol

Datblygwyd Cwricwlwm i Gymru i fod yn hygyrch i bawb. Dylai cynllunio, dylunio a gweithredu’r cwricwlwm mewn unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau AHY eraill gael ei arwain gan anghenion. Dylai hefyd ddarparu llwybr cynnydd clir i gefnogi pob dysgwr.

Cwricwlwm

Mandadol

Mae’r adran crynodeb deddfwriaeth yn nodi gofynion Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. 

O ran unedau cyfeirio disgyblion, y cam cyntaf yw i’r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a’r athro/athrawes sy’n gyfrifol gynllunio cwricwlwm i’r uned cyfeirio disgyblion sy’n ateb y gofynion canlynol, sef ei fod yn: 

  • sicrhau darpariaeth cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben; sy’n eang ac yn gytbwys, sy’n addas ar gyfer oedrannau, galluoedd a doniau’r dysgwyr, ac sy’n cynnig cynnydd priodol
  • sicrhau dysgu ar gyfer y dysgwyr unigol sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd; sy’n cwmpasu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n briodol yn ddatblygiadol; ac sy’n cwmpasu’r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles
  • sicrhau bod darpariaeth y cwricwlwm, os yw’n rhesymol bosibl ac yn briodol, yn cynnwys dysgu ac addysgu yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill (Celfyddydau Mynegiannol; Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; a Gwyddoniaeth a Thechnoleg) a’r elfennau mandadol eraill (Cymraeg, Saesneg, A chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg)

Ar ôl cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer y lleoliad, y cam nesaf yw ystyried sut y gellir sicrhau pob un o’r gofynion uchod ar gyfer pob dysgwr. Rhaid i’r athro/athrawes sy’n gyfrifol hefyd ystyried anghenion dysgu ychwanegol (ADY) y dysgwyr. 

Ar gyfer AHY sy’n cael ei darparu mewn lleoliad heblaw am uned cyfeirio disgyblion, y cam cyntaf i’r awdurdod lleol yw sicrhau’r canlynol:

  • darpariaeth cwricwlwm sy’n galluogi’r dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben; sy’n eang ac yn gytbwys; sy’n addas ar gyfer oedrannau, galluoedd a doniau’r dysgwyr; ac sy’n cynnig cynnydd priodol
  • dysgu sy’n datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd; sy’n cwmpasu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n briodol yn ddatblygiadol; ac sy’n cwmpasu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, a’r cyfancyn belled ag y bo’n briodol i’r dysgwr unigol
  • bod darpariaeth y cwricwlwm yn cynnwys addysgu a dysgu yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill ac elfennau mandadol eraill y cwricwlwm, os yw’n rhesymol bosibl ac yn briodol gwneud hynny

Ar ôl cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer y lleoliad, y cam nesaf yw ystyried sut y gellir sicrhau pob un o’r gofynion uchod ar gyfer pob dysgwr gan hefyd ystyried anghenion dysgu ychwanegol (ADY) y dysgwyr. 

Mae asesu sy’n cefnogi cynnydd ar hyd continwwm dysgu o 3 i 16 oed yn ganolog i Gwricwlwm i Gymru. 

Mae’n ofynnol i unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr AHY eraill roi trefniadau asesu ar waith sy’n: 

  • asesu’r cynnydd a wneir gan ddysgwyr mewn perthynas â’r cwricwlwm a ddyfeisiwyd ar gyfer pob dysgwr  
  • ystyried y camau nesaf yng nghynnydd y dysgwyr ynghyd â’r dysgu ac addysgu sydd eu hangen i wneud y cynnydd hwnnw

Rhaid adolygu’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn barhaus. 

Cefnogi ailintegreiddio a phontio

Mae cefnogi taith dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16 yn hanfodol i gynnydd dysgwyr. Dylai cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm gefnogi ailintegreiddio a/neu bontio i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol a/neu gefnogi dysgwyr i symud ymlaen at addysg bellach, hyfforddiant neu’r byd gwaith.  

Dylai cynllunio i alluogi ailintegreiddio neu bontio gael ei seilio ar asesu anghenion dysgwyr. Dylid addasu’r cynllunio dros amser i adlewyrchu newidiadau i anghenion a blaenoriaethau dysgwyr. Bydd ystyriaethau allweddol yn cynnwys:

  • darpariaeth ar y cyd wedi’i theilwra i gefnogi pontio
  • asesu a chynnydd
  • trefniadau ymarferol megis ynghylch rolau, cyfrifoldebau ac adnoddau
  • sicrhau ansawdd y ddarpariaeth

Mae angen ystyried bob math o adegau pontio yn ofalus ar y cyd â’r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau y gall dysgwyr adeiladu ar eu dysgu a pharhau i ddatblygu a symud ymlaen ar eu llwybr dysgu.

Dylai cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fynd i’r afael yn benodol ag asesu sy’n cefnogi cynnydd.   

Drwy ystyried y cwestiynau a ofynnwyd yn yr adran cynllunio eich cwricwlwm: cyflwyniad, dylai pawb sy’n rhan o’r gwaith ddatblygu gweledigaeth ar gyfer eu cwricwlwm eu hunain. Wrth gynllunio’r cwricwlwm mae’r cwestiynau hyn yn allweddol: 

  • Beth y dylem ei addysgu a pham?
  • Sut y dylem ei addysgu?
  • Sut bydd hyn yn cefnogi ein dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben?

Mae cwestiynau pellach isod i helpu’r rhai sy’n ymwneud â darpariaeth AHY i ystyried cynllunio a dylunio cwricwlwm ac i ystyried eu dysgu a’u haddysgu.

Meithrin a chryfhau iechyd a lles pob dysgwr 

  • Sut ydyn ni’n cynllunio, monitro, gwerthuso ac yna ddatblygu ein darpariaeth iechyd a lles ymhellach?
  • Sut ydyn ni’n adnabod, monitro a diwallu anghenion iechyd a lles dysgwyr yn barhaus?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau mynediad at gymorth addas, gan gynnwys sefydliadau lleol a gwasanaethau arbenigol?
  • Pa mor effeithiol yw’r ddarpariaeth o ran cefnogi iechyd a lles pob dysgwr?

Cydweithio systematig rhwng dysgwyr, rhieni/gofalwyr, ysgolion a darparwyr AHY

  • Sut ydyn ni’n gweithio gyda dysgwyr a’u teuluoedd tuag at yr un nodau?
  • Sut ydyn ni’n penderfynu pwy sydd angen cyfrannu a beth fydd eu rolau penodol?
  • Sut ydyn ni’n gweithio gydag asiantaethau partner, gan gynnwys ysgolion prif ffrwd, i gefnogi cynnydd?
  • Sut ydyn ni’n datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd?
  • Pa mor effeithiol yw’r cydweithio hwn wrth gefnogi dysgwyr?

Mynediad at gwricwlwm cynhwysol sy’n canolbwyntio ar anghenion unigol pob dysgwr 

  • Sut ydyn ni’n sicrhau dyfnder ac ehangder addas mewn dysgu a phrofiadau tra’n diwallu anghenion a diddordebau unigolion?
  • Pa mor effeithiol yw ein cwricwlwm yn ennyn diddordeb pob dysgwr?
  • Sut ydyn ni’n sicrhau bod yr holl ddysgu’n cyfrannu at gynnydd?
  • Sut ydyn ni’n cefnogi dealltwriaeth dysgwyr o sut y bydd y cwricwlwm yn eu cefnogi i wireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys trwy eu helpu i ennill cymwysterau?
  • Pa mor effeithiol yw asesu wrth gefnogi cynnydd dysgwyr?

Cefnogi ailintegreiddio a/neu bontio dysgwyr sy’n derbyn AHY i ddarpariaeth brif ffrwd neu arbenigol, a/neu eu galluogi i symud ymlaen tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu’r fyd gwaith

  • Pa ddysgu fydd yn hanfodol i alluogi ailintegreiddio i leoliad prif ffrwd neu i gefnogi pontio arall?  
  • Pa mor dda y mae cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cefnogi ailintegreiddio a/neu bontio? 
  • Sut ydyn ni’n sicrhau dealltwriaeth gyffredin o rolau a chyfrifoldebau pawb sy’n gysylltiedig? 
  • Pa mor effeithiol yw ein cwricwlwm a’n hasesu o ran cefnogi ailintegreiddio a/neu pontio dysgwyr?