English

Cyhoeddwyd y canllawiau hyn ym mis Mai 2020 yn wreiddiol gyda'r teitl Ffrydio byw – arferion ac egwyddorion diogelu i ymarferwyr addysg yn ystod pandemig COVID-19 pan oedd y rhan fwyaf o ymarferwyr yn gweithio gartref. Roedd y ddogfen hon yn rhan o'r rhaglen parhad dysgu 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ ac fe'i bwriedir ar gyfer ysgolion a lleoliadau a gynhelir yng Nghymru.

Ym mis Medi 2020 cafodd y canllawiau eu diweddaru a'u hail-gyhoeddi i adlewyrchu achosion lle mae ymarferwyr a dysgwyr yn ôl yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, mae'n dal i gadw canllawiau ar weithio a dysgu o amgylchedd cartref. Maent wedi eu hymestyn hefyd i gynnwys canllawiau ar gyfer ymarferwyr eraill a sefydliadau allanol sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau a gynhelir a'u dysgwyr.

Ym mis Ionawr 2021, diweddarwyd ac ailgyhoeddwyd y canllawiau ymhellach er mwyn ystyried adborth gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Cafodd yr adran a oedd wedi amlinellu'n flaenorol nifer yr ymarferwyr sy'n ofynnol ar gyfer ffrydio byw ei dileu er mwyn caniatáu hyblygrwydd a phenderfyniadau lleol. Wrth ddatblygu eu dull o ffrydio byw a fideo-gynadledda, rhaid i ysgolion gynnal asesiad risg ac adolygu eu prosesau a'u gweithdrefnau diogelu (gan gynnwys dulliau adrodd) er mwyn sicrhau diogelwch eu dysgwyr a'u staff.

Mae diogelu yn un o egwyddorion hanfodol dysgu digidol. Diogelwch a lles dysgwyr yw'r ystyriaeth bwysicaf, ac mae hynny’n cael blaenoriaeth dros yr holl ystyriaethau eraill.

Os bydd ysgol neu leoliad a gynhelir yn dewis defnyddio ffrydio byw neu fideo-gynadledda, rhaid i gyrff llywodraethu, penaethiaid a staff roi ystyriaeth lawn i ganllawiau diogelu cenedlaethol a pholisïau diogelu lleol.

Mewn cyfnod lle fu erioed yn bwysicach addasu a defnyddio ffyrdd arloesol o ddysgu, mae Cymru mewn sefyllfa dda erbyn hyn i ddarparu rhaglen ddysgu ddigidol o safon fyd-eang ar ôl buddsoddi'n helaeth mewn dysgu digidol ers 2012.

Drwy Hwb, y platfform dysgu digidol ar gyfer Cymru, mae gan ddysgwyr ac ymarferwyr o ysgolion a lleoliadau a gynhelir fynediad at amrywiaeth o adnoddau dysgu ar-lein megis Microsoft Teams yn Microsoft Office 365 a Google Meet yn G-suite for Education. Mae defnyddio'r cymwysiadau hyn drwy Hwb yn gallu darparu profiad rhyngweithiol, a chyfle i gydweithio ac ymgysylltu mewn ffordd ddiogel a hygyrch. Mae canllawiau ymarferol newydd ar gael yn ein Canolfan Gymorth i’ch helpu i ddechrau defnyddio Microsoft Teams a Google Meet. I gael rhagor o wybodaeth am yr adnoddau amrywiol sydd ar gael drwy Hwb a sut gallant gefnogi dysgu digidol, trowch at yr adran Dysgu cyfunol ar Hwb.

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth am sut gellir defnyddio fideo-gynadledda a ffrydio byw yn ddiogel.

Mae'r canllawiau hyn o ddefnydd hefyd i ymarferwyr eraill fel therapyddion, seicolegwyr addysg, cydlynwyr anghenion addysgol arbennig (SENCo)/cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (ALNCo), cynorthwywyr cymorth a chynorthwywyr addysgu, gweithwyr ieuenctid, staff cymorth ieuenctid, staff ymgynghorol dysgu sy'n cefnogi dysgwyr a gwasanaethau peripatetig.

  • Gall penderfyniadau ar lefel ysgol neu leoliad a gynhelir bennu a yw fideo-gynadledda neu ffrydio byw'n ffordd briodol i chi gynnal gwersi gyda’ch dysgwyr.
  • Pan fydd ysgol neu leoliad a gynhelir yn defnyddio fideo-gynadledda neu ffrydio byw, rhaid i gyrff llywodraethu, penaethiaid a staff roi ystyriaeth lawn i ganllawiau diogelu cenedlaethol a pholisïau diogelu lleol.
  • Ym mhob ysgol a lleoliad a gynhelir, mae'r holl atebolrwydd yn nwylo'r pennaeth a'r corff llywodraethu neu'r unigolion/cyrff cyfatebol. Felly, rhaid dilyn y canllawiau hyn ochr yn ochr â chanllawiau awdurdodau lleol.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn argymell:
    • y dylai pob gwers/sesiwn fideo-gynadledda neu wedi'i ffrydio'n fyw gael ei chynnal drwy Hwb gan ddefnyddio Microsoft Teams neu Google Meet, yn hytrach na darparwr allanol, neu drwy weithrediad yr ysgol/lleoliad o Google/Microsoft 365
    • bod yr ymarferydd yn defnyddio dyfais sydd wedi’i darparu gan yr ysgol/lleoliad. Ni ddylai staff ysgol neu leoliad ddefnyddio eu hoffer personol eu hunain o dan unrhyw amgylchiadau
    • y dylid rhoi sylw dyledus i'r ystyriaethau a amlinellir yn y canllawiau hyn er mwyn sicrhau bod dysgwyr ac ymarferwyr yn cael eu gwarchod a’u diogelu’n briodol.

Mae'n ddefnyddiol nodi'r gwahaniaeth rhwng fideo-gynadledda a ffrydio byw a'u defnydd a'r manteision a fwriedir fel y gallwch ddewis y fformat priodol ar gyfer eich gweithgaredd. 

Mae fideo-gynadledda yn ddull cydamserol sy'n cynnwys sawl parti gyda'r opsiwn i bob cyfranogwr ddefnyddio camera a sain. Mae gofyn i'r holl gyfranogwyr gymryd rhan ar yr un pryd. Gellir fideo-gynadledda drwy Hwb gan ddefnyddio Google Meet neu Microsoft Teams Meeting.

Defnydd posibl

  • Hwyluso cyfarfodydd staff.
  • Lle na ellir cynnal cyfarfod ffisegol megis cynnal sesiwn dal i fyny ar les neu gynnal apwyntiad AAA/ADY.
  • Cyflwyno sesiynau bugeiliol neu addysgu mewn grwpiau bach.
  • Darparu gwersi dosbarth.
  • Cysylltu dau safle o ddysgu cydamserol, er enghraifft, dwy ystafell ddosbarth ar safleoedd gwahanol.

Manteision a fwriedir

  • Yn cynnig cyfle i gyfranogwyr gael cyswllt wyneb yn wyneb mewn amser real.
  • Hwyluso rhyngweithio.
  • Effeithiau cadarnhaol o ran ymgysylltiad a lles dysgwyr.
  • Defnyddiol ar gyfer cadw mewn cysylltiad â dysgwyr.
  • Mae’r dysgwyr yn cael adborth yn y fan a’r lle ac mae’r adborth yn rhyngweithiol.
  • Defnyddiol mewn ardaloedd lle mae mynediad at bynciau neu gyrsiau penodol yn gyfyngedig am resymau daearyddol.
  • Yn galluogi cymorth unigol.
  • Gellir ei ddefnyddio i alluogi plant a phobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u cyfoedion a chymryd rhan mewn dysgu grwp, er enghraifft, trafodaethau.

Mae digwyddiadau ffrydio byw yn ddull anghydamserol sy'n cynnwys llif fideo gan ddarlledwr i wylwyr. Ni ellir gweld na chlywed gwylwyr er y gall fod yn bosibl rhyngweithio drwy negeseuon wedi'u teipio. Gellir gwylio digwyddiadau a gaiff eu ffrydio'n fyw yn fyw neu gellir cael mynediad atynt ar ôl iddynt gael eu recordio. Gellir ffrydio gwersi byw ar Hwb gan ddefnyddio Microsoft Teams Live Events.

Defnydd posibl

  • Cyflwyno gwersi dosbarth i ddysgwyr.
  • Cyflwyno darlithoedd neu wasanaethau ysgol ar raddfa fawr.
  • Cyflwyno gweminarau.

Manteision

  • Mae digwyddiadau sy'n cael eu ffrydio'n fyw yn cynnig hyblygrwydd gan y gellir cael gafael ar y gwersi ar adeg sy'n gyfleus i ddysgwr a/neu eu teulu.
  • Gallai fod yn haws i rieni/gofalwyr a dysgwyr ymdopi gartref.
  • Er nad oes rhyngweithio geiriol neu weledol ar gael i'r gwyliwr, os yw'n gwylio'n fyw, efallai y gall cyfranogwyr ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun sy'n galluogi rhywfaint o ryngweithio.

Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at wersi a sesiynau fideo-gynadledda a ffrydio byw. At ddibenion y canllawiau hyn:

  • mae gwers yn cyfeirio at gyflwyno gwers ystafell ddosbarth – boed hynny drwy fideo-gynadledda neu drwy ddigwyddiad sy'n cael ei ffrydio'n fyw
  • mae sesiwn yn cyfeirio at enghreifftiau y tu allan i wers arferol lle gall fod dim ond un dysgwr yn bresennol, megis sesiwn dal i fyny ar les gyda dysgwr neu apwyntiad anghenion addysgol arbennig (AAA)/angen dysgu ychwanegol (ADY).

Sylwch fod y term dysgwr yn cael ei ddefnyddio drwy'r ddogfen i ddisgrifio plant a phobl ifanc mewn sefyllfaoedd gwers a/neu sesiwn.

  • Boed y dysgwyr gartref neu yn yr ystafell ddosbarth, diogelu dysgwyr a’u lles yw’r ystyriaeth bwysicaf, ac mae hynny’n cael blaenoriaeth dros bob ystyriaeth arall.
  • Dylech barhau i ddilyn polisïau diogelu’r ysgol neu'r lleoliad bob amser. Dylid ymdrin â phob mater sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein yn yr un ffordd ag y byddech yn ymdrin â mater sy’n ymwneud ag addysgu neu ryngweithio wyneb yn wyneb.
  • Dylai polisïau’r ysgol/lleoliad a gynhelir ar gyfer diogelwch ar-lein, lles staff a dysgwyr, diogelu a dysgu o bell, adlewyrchu sut bydd fideo-gynadledda a ffrydio byw yn cael eu cynnal a'u monitro. Mae adnodd 360 degree safe Cymru ar gael am ddim ar Hwb, a'i bwrpas yw helpu ysgolion a lleoliadau i adolygu eu polisi a'u harferion diogelwch ar-lein.
  • Rhaid dilyn y polisïau a'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am achosion o gamddefnyddio bob amser. Fel yr amlinellir yn y canllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel, mae gan ymarferwyr ddyletswydd i roi gwybod os oes plentyn mewn perygl (gan gynnwys cam-drin ar-lein) o dan adran 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
  • Os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu am blentyn, dylech eu trafod â’r Swyddog Diogelu Dynodedig (DSP) ar gyfer yr ysgol neu leoliad, gan sicrhau eich bod yn rhoi gwybod am eich pryderon cyn gynted â phosib.
  • Os na allwch chi am unrhyw reswm gysylltu â’r Swyddog Diogelu Dynodedig ar gyfer eich ysgol neu leoliad, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Plant eich awdurdod lleol a rhowch wybod am eich pryderon.
  • Os ydych chi’n meddwl bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl y funud honno, cysylltwch â’r heddlu ar 999.
  • I gael rhagor o gyngor ar ddiogelu yn ystod y cyfnod hwn, ewch i dudalen Cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor ar adnabod achosion o gam-drin a chefnogi datgelu ac adrodd am bryderon. Ceir dolenni hefyd i wybodaeth ac adnoddau i gefnogi lles ac atal cam-drin.
  • I gael rhagor o adnoddau, canllawiau a gwybodaeth am gadw'n ddiogel ar-lein, ewch i ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.

Mae nifer o ystyriaethau allweddol i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o fideo-gynadledda a ffrydio byw. Nodir y rhain isod.

I benderfynu a ddylid defnyddio fideo-gynadledda neu ddigwyddiad ffrydio byw, rhaid i ymarferwyr addysg ac ymarferwyr eraill ystyried:

  • diben, manteision, cyfyngiadau a phriodoldeb gwers fideo-gynadledda neu gwers/sesiwn ffrydio byw
  • priodoldeb i bob dysgwr yn seiliedig ar ei amgylchiadau unigol
  • pa ddysgwyr fydd ar gael, e.e. a fydd pob dysgwr ar gael? A fydd angen i rai ymuno neu adael ar adegau gwahanol?
  • nifer y dysgwyr mewn gwers neu sesiwn
  • hyd ac amser gwersi a sesiynau, gan sicrhau bod yr hyd a’r amser yn briodol i'r dysgwyr dan sylw
  • y cysylltedd a'r dyfeisiau sydd ar gael i ddysgwyr ac aelodau staff.

Os penderfynir bod gwers/sesiwn fideo-gynadledda neu ffrydio byw'n addas ac yn briodol i'r ymarferydd a'r dysgwyr, dylid gwneud y canlynol fel rhan o unrhyw baratoadau.

  • Gofyn am awdurdodiad gan uwch dîm arwain eich ysgol neu'r lleoliad cyn cynnal gwersi/sesiynau fideo-gynadledda neu ffrydio byw a rhoi gwybod iddynt am yr amserlen a drefnwyd ar gyfer pob gwers/sesiwn.
  • Os ydych chi’n dewis defnyddio fideo-gynadledda gofalwch fod y wers yn cael ei chynllunio ymlaen llaw, a dylid rhoi digon o rybudd i ddysgwyr a rhieni a gofalwyr yn ôl yr angen.
  • Sicrhewch fod cytundebau defnydd priodol ar waith ar gyfer pob dysgwr sy'n cymryd rhan mewn gwersi/sesiynau fideo-gynadledda a ffrydio byw a bod y cytundebau hyn yn cael eu cyfleu'n glir i ddysgwyr a'u rhannu gyda rhieni a gofalwyr. Bydd y cytundeb yn egluro disgwyliadau clir gan bob parti, ac yn nodi'r camau a fydd yn cael eu cymryd os torrir y cytundeb. Darllenwch y cytundeb enghreifftiol i’w ddefnyddio gyda dosbarthiadau ar-lein (Atodiad 2).
  • Dylech gadw cofnod canolog o'r holl ddigwyddiadau ar-lein ynghyd â rhestr o fynychwyr.
  • Dylech sicrhau bod gan yr holl ddysgwyr fynediad at y cymwysiadau meddalwedd angenrheidiol (megis Microsoft Teams) – gellir hwyluso hyn drwy blatfform Hwb.
  • Dylech wneud yn siwr bod yr holl gynnwys yn briodol, ac ar gyfer unrhyw dasgau a fydd yn golygu gwneud ymchwil ar-lein, gwneud yn siwr bod y gwefannau’n addas cyn y wers.
  • Os yw’r wers yn cynnwys tasgau, cofiwch y gall fod angen mwy o amser ar rai dysgwyr nag eraill.
  • Dylech ymgyfarwyddo â swyddogaethau Microsoft Teams neu Google Meet a sut i ddefnyddio'r adnodd a ddewisir yn effeithiol (mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghanolfan Cymorth Hwb ar Microsoft Teams a Google Meet).

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Dylech fagu hyder drwy ddod yn gyfarwydd â'r swyddogaethau ar Google Meet/Microsoft Teams ac ymarfer gydag aelodau eraill o'r staff.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Gallai dau ymarferydd uno dau ddosbarth mewn gwers ar-lein. Gall un ymarferydd gyflwyno’r wers tra bod y llall yn rheoli'r sgwrs.

Mae’n hanfodol eich bod yn ystyried lleoliad a gosodiadau camera a sain yn ofalus er mwyn bod yn broffesiynol ac yn gyfrifol bob amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fydd ymarferwyr neu ddysgwyr gartref. Rhaid i ymarferwyr ystyried y canlynol.

Lleoliad

Os yw ymarferydd yn arwain neu os yw dysgwr yn ymuno â galwad fideo-gynadledda neu ffrydio byw o bell:

  • dewis leoliad niwtral sy'n briodol ac yn ddiogel, e.e. ystafell fyw, stydi neu gegin
  • annog y dysgwyr i weithio mewn man cymunedol addas yn y cartref, lle maent yn teimlo’n gyfforddus, ac yng nghwmni eu rhiant/gofalwr os oes modd
  • leihau’r posibilrwydd y bydd aelodau eraill o’r aelwyd neu anifeiliaid anwes yn tarfu ar y wers.

Gosodiadau'r camera

  • Dylech ystyried yn ofalus beth sydd i’w weld o flaen y camera, h.y. gwnewch yn siwr bod y cefndir yn edrych yn broffesiynol, ac nad yw’n cynnwys lluniau na gwybodaeth na ddylid eu rhannu neu a allai gael eu hystyried yn amhriodol.
  • Efallai y byddai’n ddefnyddiol gofyn i ‘gyfaill beirniadol’ edrych ar beth sydd i’w weld o flaen y camera.
  • Lle bo modd, argymhellir bod ymarferwyr a dysgwyr yn newid eu cefndir fel arfer safonol.
  • Dylech fod yn ymwybodol na fydd pob dysgwr eisiau defnyddio'i gamera – ddylech chi ddim gorfodi neb i ddefnyddio'r camera.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Gall ymarferwyr a dysgwyr ddylunio a lanlwytho eu cefndir eu hunain yn Microsoft Teams. Gallai hyn fod yn weithgaredd dosbarth cyfranogol.

Sain

Mae’n well defnyddio clustffonau gyda microffon (fel y rhai sydd ar gael gyda llawer o ffonau symudol) er mwyn clywed y sain yn glir.

Dylai ymarferwyr sy’n ffrydio’n fyw barhau i weithio yn yr un ffordd broffesiynol ag y byddent yn yr ystafell ddosbarth. Dylai ymarferwyr wneud y canlynol.

  • Cadw at safonau proffesiynol o ran gwisg pan fyddan nhw o flaen y camera.
  • Bod yn ymwybodol bod sylwadau’n cael eu clywed gan nifer o ddysgwyr mewn amgylchedd ar-lein, ac y byddai’n hawdd iddynt gael eu camddehongli.
  • Dod â’r sesiwn i ben i bawb, gan wneud yn siwr nad oes dysgwyr yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain a heb oruchwyliaeth mewn gwers/sesiwn ar ôl i’r ymarferydd adael.
  • Bod yn ymwybodol o’r angen am gyfrinachedd; yn enwedig wrth ffrydio gwers yn fyw o leoliad lle mae oedolion neu blant eraill yn bresennol.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Dylai'r ymarferwyr ymuno â'r wers/sesiwn cyn yr amser a drefnwyd i sicrhau cysylltiad priodol ac adolygu’r cynllun ar gyfer gwersi er mwyn iddynt deimlo eu bod yn barod ar gyfer gwers/sesiwn effeithiol.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Gall ymarferydd fod yn gyd-beilot trwy ymuno â'r wers/sesiwn ond does dim rhaid iddo ddefnyddio'r camera na'r microffon.

Mae’r gallu i recordio ar gael ar Microsoft Teams a Google Meet, sy’n caniatáu i’r ymarferydd recordio’r wers neu’r sesiwn.

Gan y bydd recordiad o sesiwn fideogynadledda neu ffrydio byw ymarferwyr a/neu ddysgwyr yn cynnwys data personol ac, o bosibl, data categori arbennig, dylai uwch dìm rheoli ysgolion a lleoliadau ddatblygu polisi ar gyfer recordio a ffrydio sesiynau byw. Wrth ddatblygu’r polisi hwn, dylid gofyn am farn Swyddog Diogelu Data’r ysgol neu’r lleoliad er mwyn sicrhau bod y broses o storio a rhannu recordiadau yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r Deyrnas Unedig. 

Bydd hyn yn cynnwys nodi’r dibenion y mae’r ysgol neu’r lleoliad yn prosesu’r data ar eu cyfer, y sail cyfreithiol y maent yn dibynnu arni yn ogystal â pharchu hawliau data personol ymarferwyr a dysgwyr. Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Wrth recordio gwersi byw, dylai ymarferwyr a dysgwyr gydymffurfio â pholisi’r ysgol neu’r lleoliad ar gyfer recordio sesiynau a gwersi byw, ynghyd â phob polisi arall perthnasol gan yr ysgol neu’r lleoliad.

Awgrym gwych – Os ydych yn bwriadu recordio gwers neu sesiwn i’w rhannu â dysgwyr yn nes ymlaen, dylid gwneud hyn fel digwyddiad ffrydio byw neu wers wedi’i recordio ymlaen llaw, heb ddysgwyr yn bresennol.

Am ragor o wybodaeth a chymorth ynghylch recordio gwersi byw, ewch i’r adran Recordio yn y Parth Gwersi Byw ar Hwb.

Sylwer: ni ddylid defnyddio unrhyw recordiadau ar gyfer y gwerthuso athrawon.

Dylid disgwyl ‘safon ymddygiad ystafell ddosbarth’ bob tro. Fel yn yr ystafell ddosbarth, dylid ymdrin ag unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol.

Mae nodi esiamplau o ymddygiadau priodol a disgwyliadau o’r cychwyn yn hanfodol i sicrhau bod y wers neu’r sesiwn yn effeithiol ac yn drefnus. Dylai ymarferwyr wneud y canlynol.

  • Dweud yn glir bod disgwyl i’r holl gyfranogwyr gynnal safon ymddygiad ystafell ddosbarth  bob amser.
  • Sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o’r ymddygiadau disgwyliedig a’r gofynion, gan gynnwys y lleoliad i ymuno â’r wers neu’r sesiwn a’r wisg briodol.
  • Creu rheolau sylfaenol a chytuno arnynt er mwyn adlewyrchu safon yr ymddygiad disgwyliedig ar sail polisi rheoli ymddygiad presennol yr ysgol neu’r lleoliad.
  • Esbonio’r rheolau wrth gyflwyno’r wers/sesiwn, er enghraifft pwy all siarad, sut i ofyn cwestiwn  neu ofyn am help.
  • Os mai hwn yw’r tro cyntaf y mae’r gwersi/sesiynau yn cael eu cyflwyno ar-lein, efallai y bydd yn cymryd peth amser i ymgyfarwyddo â’r amgylchedd newydd. Bydd defnyddio’r cyfleuster sgwrsio yn caniatáu cynnal trafodaeth strwythuredig gyda’r rhai sy’n bresennol.
  • Atgoffa dysgwyr am y rheolau y cytunwyd arnynt ar ddechrau pob gwers neu sesiwn (Atodiad 2), ac amlinellu sut y gallant fynegi pryderon os oes angen hynny.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Ystyriwch ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio, tewi/dad-dewi a chodi llaw/dwylo wedi’i chodi yn Microsoft Teams i wneud y gorau o'r wers.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Sicrhau bod pob un o'r dysgwyr yn 'fynychwyr' ac nid yn 'gyflwynwyr’. Os byddwch chi’n gofyn i ddysgwr rannu ei sgrin ac unrhyw waith y mae'n ei wneud, gwnewch ef yn gyflwynydd. Ar ôl iddo ddangos gwaith, ac ati, dylech ei newid yn ôl i fynychwr. Mae hyn yn helpu i reoli'r wers.

Awgrym gwych ar gyfer arfer effeithiol

Gallwch greu neu addasu siarter dosbarth gyda'r dysgwyr fel gweithgaredd cyfranogol. Gall hawliau plant ddarparu sail i ddatblygu ei egwyddorion allweddol, gan gynnwys yr hawl i:

  • fod yn ddiogel
  • ddysgu
  • fynegi barn
  • gydraddoldeb a pheidio â dioddef gwahaniaethu
  • breifatrwydd
  • ddatblygu doniau a sgiliau i'r eithaf.

Gallai dysgwyr ddatblygu rhestr o elfennau allweddol ymddygiad fideo-gynadledda sy'n cynnal eu hawliau a hawliau pobl eraill. Gellir cyfeirio at hyn drwy gydol y wers/sesiwn.

Efallai y bydd yna achosion lle bydd ysgol neu leoliad am wneud defnydd o fanteision fideo-gynadledda neu ffrydio byw i gysylltu â safle arall. Gallai achosion o'r fath gynnwys y canlynol.

  • Mae ysgol neu leoliad yn dymuno cysylltu ag ystafell ddosbarth arall yn eu hysgol neu leoliad er mwyn hwyluso cadw pellter cymdeithasol.
  • Mae ysgol neu leoliad yn dymuno cysylltu â dysgwyr lle mae rhai yn yr ysgol neu'r lleoliad ac mae rhai gartref.
  • Mae ysgol neu leoliad yn dymuno cysylltu â dosbarthiadau eraill er mwyn hwyluso gwers neu sesiwn rhwng gwahanol grwpiau blwyddyn, er enghraifft er mwyn galluogi'r cyngor ysgol neu grwpiau cyfranogol eraill i gael cyfarfod.

Ym mhob achos, dylai ysgolion a lleoliadau gadw at y canllawiau a amlinellir yn y ddogfen hon.

Gall fod achlysuron pan fydd ysgolion neu leoliadau'n dymuno fideo-gynadledda neu ffrydio'n fyw gyda sefydliadau allanol. Er enghraifft i gyflwyno gwers gerddoriaeth gyda cherddor/grwp o gerddorion.

Dylid ymdrin â’r gwersi/sesiynau hyn drwy ddefnyddio'r un protocolau diogelu ag unrhyw fideo-gynadledda neu wers ffrydio byw arall ac fel yr eglurir yn y canllawiau hyn, a chyda'r pwyntiau ychwanegol argymhellwyd hefyd.

  • Dylai'r ymarferydd greu a rheoli'r sesiwn, gan wahodd y sefydliad allanol i fod yn gyfranogwr gwadd.
  • Dylai'r ymarferydd bennu disgwyliadau'n glir a chyfleu'r disgwyliadau sydd yn y canllawiau hyn i'r darparwr allanol.
  • Dylai'r ymarferydd sicrhau ei fod yn dod â’r wers/sesiwn i ben i bawb pan fydd y wers/sesiwn ar ben.
  • Dylai nifer y staff sydd eu hangen fod yr un fath ag ar gyfer unrhyw wers/sesiwn fideo-gynadledda neu ffrydio byw, a nodir uchod yn yr adran ‘Nifer yr ymarferwyr sydd eu hangen’.
  • Bydd gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â darparu sesiynau ar-lein gyda dysgwyr a/neu eu teuluoedd wedi derbyn arweiniad clir gan eu cymdeithasau proffesiynol a/neu eu cyflogwyr a dylent eu dilyn law yn llaw â'r canllawiau hyn.

Mae gan bawb mewn gwasanaethau addysg sy’n dod i gysylltiad â phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd ran i’w chwarae o ran diogelu. Os bydd ymarferydd, aelod staff neu ddysgwr yn wynebu problem yn ymwneud â fideo-gynadledda neu ffrydio byw, dylech ymdrin â hynny yn yr un modd ag y byddech chi'n ymdrin ag unrhyw ddigwyddiad mewn ysgol neu leoliad.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu am blentyn, dylech eu trafod â’r Swyddog Diogelu Dynodedig ar gyfer eich ysgol neu leoliad, gan sicrhau eich bod chi’n rhoi gwybod am eich pryderon cyn gynted â phosibl.

Os na allwch chi am unrhyw reswm gysylltu â’r Swyddog Diogelu Dynodedig ar gyfer eich ysgol neu leoliad, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau Plant eich awdurdod lleol a rhowch wybod am eich pryderon.

Os ydych chi’n meddwl bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl y funud honno, cysylltwch â’r heddlu ar 999.

Mae canllawiau ymarferol newydd ar gael yn ein Canolfan Gymorth i’ch helpu i ddechrau defnyddio Microsoft Teams a Google Meet.

Yn ddelfrydol, byddai dysgwyr yn mewngofnodi i’r dosbarth o fan cymunedol yn eu cartref. Mewn rhai amgylchiadau, gallai hyn roi baich afresymol ar y lleoedd sy’n cael eu defnyddio gan y teulu.

Dylai ymarferwyr asesu pob sefyllfa, a thrafod â’u Swyddog Diogelu Dynodedig neu’r pennaeth os ydyn nhw’n anghyfforddus â'r lleoliad(au) mae dysgwyr yn mewngofnodi ohonynt. 

Mae’r holl safonau ymddygiad arferol yn berthnasol yn yr ystafell ddosbarth ar-lein. Er na fydd dysgwyr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth arferol, lle bo modd, dylid ymdrin â materion a fydd yn codi yn yr un ffordd ag y byddech chi wedi ymdrin â nhw petai'r un peth wedi digwydd mewn amgylchedd ystafell ddosbarth arferol. Gofynnwch i uwch dîm arwain eich ysgol neu leoliad am gymorth os oes angen.

Gall ymarferwyr dynnu enwau dysgwyr o’r rhestr o gyfranogwyr (dileu) os maent yn ymddwyn yn amhriodol. I wneud hynny yn Microsoft Teams, agorwch y rhestr o gyfranogwyr, a chlicio ar yr X wrth ymyl enw’r unigolyn rydych am ei ddileu. I ddileu rhywun yn Google Meet, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.

  1. Ar y dde, ewch i People.
  2. Pwyntiwch at yr unigolyn, ac yna cliciwch ar y saeth Back.
  3. Cliciwch ar Remove.

Os bydd rhywbeth amhriodol yn cael ei rannu ar y sgrin, dylai ymarferwyr ddod â’r sesiwn i ben cyn gynted â phosibl a chodi'r mater gyda’r Swyddog Diogelu Dynodedig. Yna, gellir cysylltu â’r holl ddysgwyr a oedd yn yr ystafell cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad i egluro beth ddigwyddodd, a beth yw'r trefniadau ar gyfer gwersi/sesiynau yn y dyfodol.

Yn unol â’r canllawiau diogelu, bydd yn rhaid i'r ymarferydd ysgrifennu cofnod llawn yn y ffordd arferol.

Dylech ymdrin â hyn yn yr un ffordd ag y byddech chi mewn ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ac yn unol â’r rheolau a gytunwyd hefyd (Atodiad 2). Dylai gosod disgwyliad clir ar y dechrau helpu i leihau hyn.

Dylai ymarferwyr blaenoriaethu lles dysgwyr. Os bydd angen i ddysgwr drafod mater difrifol, gellir gwneud hyn yn unol â pholisi a gweithdrefnau diogelu'r ysgol.

Os yn ystod cyswllt ar-lein gyda dysgwr y bydd ymarferydd yn gweld neu'n clywed unrhyw beth yn y cefndir sy'n peri pryder iddo, neu os yw ymddygiad y dysgwr yn achosi pryder iddo, mae'n rhaid iddo gyfeirio'r mater at y Swyddog Diogelu Dynodedig a dilyn polisi diogelu arferol eu hysgolion.

Mae'r canlynol yn gytundeb enghreifftiol rhwng ymarferwyr a dysgwyr wrth ddefnyddio fideo-gynadledda a/neu ffrydio byw. Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau am addasu neu adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau ei bod yn briodol yn benodol i'w dysgwyr, e.e. drwy addasu'r iaith i'w gwneud yn addas ar gyfer oedran/gallu eu dysgwyr, gan ychwanegu lluniau neu fersiwn symbolau ar gyfer plant iau neu'r rhai ag ADY, drwy ddefnyddio ymrwymiadau geirio fel 'Byddaf'.

Mae ymarferwyr yn cytuno i:

  • drafod rolau a chyfrifoldebau gyda'r dysgwyr ar ddechrau pob gwers/sesiwn
  • rhoi gwybod i uwch dîm rheoli’r ysgol, y dysgwyr a'r rhieni/gofalwyr am unrhyw wersi/sesiynau sydd wedi’u trefnu, gwersi/sesiynau sydd wedi’u canslo neu newid i drefniadau
  • sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r holl weithdrefnau a pholisïau diweddaraf perthnasol, gan gynnwys polisïau diogelu data, diogelu a diogelwch ar-lein
  • sicrhau na fydd sefyllfa un-i-un yn digwydd ar ôl i ddosbarth ar-lein ddod i ben, drwy ddatgysylltu pawb ar ddiwedd y wers/sesiwn.

Mae dysgwyr yn cytuno i:

  • fod yn brydlon ar gyfer pob gwers/sesiwn fideo-gynadledda
  • cael gafael ar y ffeiliau perthnasol ar gyfer pob gwers/sesiwn ymlaen llaw, a gwneud yn siwr bod y deunyddiau wrth law
  • gwneud yn siwr bod pob addasydd pwer a gliniadur yn barod cyn i’r wers/sesiwn ddechrau, a’u bod wedi mewngofnodi i’r wers/sesiwn
  • dangos parch tuag at bawb yn yr ystafell ddosbarth ar-lein
  • gwisgo’n addas ar gyfer pob gwers/sesiwn, gan gofio dangos parch tuag at bobl eraill
  • sicrhau eu bod yn mewngofnodi o leoliad addas a newid eu lleoliad 'cefndir' fel y cytunwyd gyda'r ymarferydd
  • ceisio cyfrannu at y wers/sesiwn mewn ffordd gadarnhaol, a pheidio â tharfu arni ar unrhyw adeg
  • peidio â rhannu lluniau o'r sesiwn neu wers.

Cyflwyniad

Mae datblygu cymhwysedd digidol dysgwyr wedi bod yn flaenoriaeth bwysig yn ein hysgol ers i'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gael ei gyhoeddi. Rydym wedi buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol i ddatblygu hyfforddiant a gwybodaeth i'r staff o ran defnyddio technoleg i ddysgu sgiliau TGCh penodol ac i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ddatblygu addysgeg effeithiol. I'r perwyl hwn, mae'r holl staff yn gwneud defnydd helaeth o'r adnoddau yn Hwb, yn enwedig Microsoft Office 365 a Google Classroom. Bu’r staff yn gweithio mewn grwpiau triad i ddatblygu arbenigedd yn y ffordd y gellir defnyddio’r gwahanol gymwysiadau a gwnaethon nhw rannu eu gwybodaeth gyda phob aelod arall o staff yn ystod sesiynau gyda’r hwyr a diwrnodau HMS.

Datblygu ein defnydd o Microsoft Teams a Google Classroom drwy Hwb

Ddwy flynedd yn ôl, fe ddechreuon ni gydgrynhoi ein gwybodaeth a datblygu ein polisi TGCh. Rhan o hyn oedd cytuno y byddem, drwy Hwb, yn defnyddio Google Classroom fel platfform ar gyfer dysgwyr o'r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 3 a Microsoft Teams (Teams) gyda dysgwyr ym Mlynnyddoedd 4 i 6.

Paratoi ar gyfer dysgu o bell

Pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg fod yr ysgol yn cau ar 20 Mawrth 2020, roedd ein hysgol mewn sefyllfa dda i ddatblygu dysgu o bell. Roedd dysgwyr ym Mlynyddoedd 4 i 6 yn gyfarwydd iawn â Teams. Roedden nhw wedi arfer ag athrawon yn gosod gwaith iddynt ar Teams ac roedden nhw wedi arfer postio eu gwaith cartref ar Teams a chael adborth. Defnyddiwyd Teams bob dydd i bostio gwaith i ddysgwyr fel rhan o'n hymgyrch i leihau faint o bapur a ddefnyddir ac i leihau llwyth gwaith athrawon.

Yn ystod yr wythnos cyn cau'r ysgol, treuliodd y staff lawer o'r amser yn sicrhau bod y dysgwyr yn hyderus wrth ddefnyddio Teams a Google Classroom. Gweithiodd pawb o'r staff gyda'i gilydd i sicrhau ein bod ni i gyd yn gwybod sut i greu cyfarfodydd o bell ar-lein a fideo-gynadledda gan ddefnyddio Teams. Roedd yn sgil newydd i ni i gyd a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd ymarfer o bell rhwng pob un o'r ystafelloedd dosbarth, gan ddilyn y canllawiau a anfonwyd atom gan Hwb.

Cynhyrchodd ein cydlynwyr TGCh ganllawiau syml i rieni/gofalwyr ar sut i ddefnyddio Teams a Google Classroom drwy Hwb ac eglurwyd drwy gylchlythyrau y byddai gwaith yn cael ei osod i'r dysgwyr bob dydd ac y byddai'r athrawon Cyfnod Allweddol 2 ar-lein bob dydd rhwng 10am a hanner dydd. Esboniwyd hyn wrth y dysgwyr hefyd.

Defnyddio ffrydio byw

Defnyddiodd athrawon a chynorthwywyr addysgu o Flynyddoedd 4 i 6 ffrydio byw drwy Teams i gyflwyno gwersi mathemateg dyddiol i ddechrau. Cafodd y gwersi eu gwahaniaethu ddwy ffordd a chymerodd yr athro dosbarth un sesiwn a chymerodd y cynorthwyydd addysgu'r llall. Prynwyd byrddau gwyn A3 bach gan yr ysgol er mwyn i'r staff eu defnyddio i arddangos dulliau ac ati, ond yn raddol sylweddolodd y staff fod platfform Teams yn cynnwys bwrdd gwyn ac fe ddysgon nhw sut i rannu sgriniau a defnyddio PowerPoint o fewn Teams. Defnyddiodd yr athrawon y tab 'Insights' i weld pa ddysgwyr a oedd yn cymryd rhan neu a oedd angen cymorth ychwanegol arnynt gan ei fod yn dangos pa ddysgwyr oedd ddim yn mynychu neu ddim yn defnyddio’r adnoddau.

Nesaf, dechreuodd y staff ffrydio gwersi celf yn fyw hefyd gan ddefnyddio cyflwyniadau PowerPoint oedd yn egluro technegau penodol a ddefnyddir wrth argraffu, mewn collage ac ar gyfer modelu 3D. Roedd gwersi sillafu'n cael eu cyflwyno'n fyw hefyd, yn ogystal â rhai gwersi Saesneg a oedd yn canolbwyntio ar ysgrifennu a nodweddion genre penodol. Roedd athrawon yn y grwpiau blwyddyn hyn yn gallu gosod tasgau cydweithredol mewn gwyddoniaeth a daearyddiaeth drwy roi'r dysgwyr mewn grwpiau a gosod gwahanol dasgau iddynt drwy ddefnyddio'r swyddogaeth sianel yn Teams. Dysgodd y dysgwyr yn gyflym sut i ddefnyddio'r swyddogaeth sgwrsio i ofyn am unrhyw gymorth ychwanegol.

Yn achos Blwyddyn 3, roedd yr athrawes ar-lein rhwng 10am a hanner dydd a gwahoddwyd pob rhiant/gofalwr a dysgwr i siarad â hi os oedden nhw am wneud hynny i gael cymorth gyda'r tasgau dysgu a lanlwythwyd ganddi'r diwrnod hwnnw.

Yn achos y Cyfnod Sylfaen, roedd y staff yn darparu sesiynau amser stori byw ac arbrofion gwyddoniaeth byw ac yn gwahodd y plant i ymuno â sesiynau dal fyny byw. Roedden nhw ar-lein drwy gydol y dydd yn rhoi cyngor ac yn ymateb i ymholiadau gan rieni/gofalwyr drwy gyfrwng Hwbmail, drwy neges J2e a thrwy negeseuon preifat drwy Google Classroom.

Drwy gydol y dydd, roedd dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 yn gallu gwneud galwadau fideo i'w hathro a'u ffrindiau yn eu dosbarth. Sefydlwyd 'sianeli cyfeillgarwch' pwrpasol ar gyfer pob dosbarth fel y gallen nhw weld a siarad â'u ffrindiau o bell. Digwyddodd hyn o ganlyniad i adborth gan rieni/gofalwyr a ddywedodd bod y plant yn colli agweddau cymdeithasol ar yr ysgol.

Roedd staff yn cyfarfod o bell bob wythnos drwy Teams i drafod problemau, unrhyw swyddogaethau newydd yr oeddent wedi'u darganfod, ac i sicrhau dulliau cyson rhwng dosbarthiadau.

Pan ddychwelon ni i'r ysgol ar 29 Mehefin 2020, parhaodd staff i gyflwyno gwersi ar-lein rhwng y dysgwyr hynny oedd gartref a'r rhai oedd yn yr ysgol y diwrnod hwnnw. Roedd y plant i gyd yn cael sesiwn ‘dal fyny’ ddyddiol, gwers fathemateg, storïau a chyfle i chwarae gemau iaith. Roedd dysgwyr Blwyddyn 6 yn gweithio mewn ystafelloedd 'ymneilltuo' drwy Teams fel rhan o'u gwersi dyddiol ac yna roedden nhw'n dod yn ôl at ei gilydd fel dosbarth cyfan i rannu'r hyn roedden nhw wedi'i ddysgu.

Ymateb ac ymgysylltu gan rieni/gofalwyr a dysgwyr

Mae'r ymateb gan rieni/gofalwyr a dysgwyr wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Rydym wedi annog adborth o holiaduron, o gyswllt e-bost uniongyrchol a galwadau ffôn. Aethom i'r afael â chynifer o'r materion a godwyd gan rieni/gofalwyr i'r graddau yr oedd modd, y prif un ar y dechrau oedd nad oedd ganddyn nhw ddyfeisiau addas ar gyfer eu plant tra bod y rhieni/gofalwyr yn gweithio gartref eu hunain.

Rhoddwyd 68 o ddyfeisiau ar fenthyg a rhannwyd fideos yn ogystal â manylion cyswllt e-bost ein haelod staff sy'n ‘arbenigwr TG’ i helpu gydag anawsterau technegol. Cafodd rhai o’r gwersi eu recordio fel bod modd i rieni/gofalwyr a dysgwyr fynd yn ôl atyn nhw neu eu gwylio ar amserau mwy cyfleus. Ymunodd rhieni/gofalwyr â’r wers yn aml iawn, neu roedden nhw yn y cefndir, ac roedden nhw’n gallu gofyn am eglurhad o ran disgwyliadau a methodoleg benodol neu am esboniadau.

Gan ein bod wedi defnyddio Teams a Google Classroom roedd yn hawdd iawn gweld yn glir pwy oedd yn cymryd rhan yn y gwersi byw a'r aseiniadau eraill a roddwyd i'r plant. Roedd y staff yn gallu ffonio rhieni/gofalwyr a chynnig cefnogaeth unigol i'w helpu i ymgysylltu â'r dysgu ar-lein.

Roedd rhieni/gofalwyr yn ddiolchgar iawn y byddai athrawon yn cyflwyno gwersi ar-lein eu hunain gan fod llawer yn dweud wrthym fod eu plant yn llawer hapusach yn ymgysylltu pan oedd eu hathro neu eu cynorthwyydd addysgu eu hunain yn cyflwyno'r wers. Roedd rhai rhieni/gofalwyr wedi ei chael hi'n anodd cael eu plant i ddysgu fel arall.

Fe wnaethon ni ddarganfod bod ychydig o blant yn gweld y syniad o fod o flaen camera yn anodd ac nad oedden nhw'n gyfforddus yn siarad neu'n gofyn am help yn yr hyn oedd yn teimlo iddyn nhw fel fforwm cyhoeddus iawn. Roedd y cynorthwyydd addysgu'n trefnu sesiynau grwp bach yn arbennig ar gyfer y dysgwyr hyn, a dangoswyd iddyn nhw sut i ddiffodd eu camera os oedden nhw am wneud hynny.

Roedd gallu gweld eu cyd-ddysgwyr bob dydd yn gryn atyniad i lawer o ddysgwyr hefyd ac roedd y dysgwyr eu hunain yn annog ei gilydd i ymuno â'r gwersi. Roedd yna deimlad gwirioneddol o golli cyfle os nad oedd dysgwr yn ymuno mewn gwers yn enwedig ymhlith y dysgwyr hyn.

Fodd bynnag, bu'n rhaid i ni osod rheolau sylfaenol ar gyfer y plant. Er enghraifft, roedd yn rhaid iddyn nhw fod wedi gwisgo (dim pyjamas) ac roedd rhaid i'r bechgyn wisgo crys T neu debyg. Doedden nhw ddim yn cael bod yn eu hystafell wely ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddweud wrth eu rhieni/gofalwyr eu bod yn cael gwersi ar-lein. Cawsant eu dysgu i dewi eu microffonau a dim ond ei droi ymlaen pan oedden nhw am siarad yn ogystal â defnyddio'r swyddogaeth 'codi llaw' os oedden nhw eisiau siarad. Roedd un neu ddau o'r plant yn cyffroi gormod ar-lein ac yn ymddwyn mewn ffordd orgyfarwydd am eu bod gartref ac nid yn yr ysgol ac roedd yn rhaid eu hatgoffa bod y rheolau cwrteisi yn dal i fod yn berthnasol. Fel dewis olaf, roedd gan staff yr opsiwn o gael gwared ar unrhyw un nad oedd yn cydweithredu o'r cyfarfod. Yn ffodus, ni fu'n rhaid gwneud hyn hyd yma!

Erbyn Mehefin 2020, roedd gennym ymgysylltiad rheolaidd o tua 92% o ddysgwyr o'r Dosbarth derbyn i Flwyddyn 6. Roedd yr ymgysylltu ymhlith dysgwyr meithrin yn 60%.