Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn arwain y ffordd yn fyd eang o ran deddfu ar gyfer datblygu cynaliadwy a chodeiddio meddwl yn hirdymor fel ymddygiad cynaliadwy o fewn cyfraith Cymru. Mae’r fframwaith cyfreithiol yn galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio, fframio a herio’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer dinasyddion yng Nghymru heddiw gyda’r nod o helpu i sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn dilyn prosiect ymchwil blwyddyn o hyd sy’n ymchwilio i’r defnydd o arferion dyfodoleg a rhagargoeli ar draws Llywodraeth Cymru, mae’r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn falch o gyhoeddi adroddiad Dr Laura De Vito, Rhagargoeli ar gyfer llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn cynnwys canlyniadau cyfres o brosiectau peilot sydd wedi’u cynllunio i wella gallu dyfodoleg a rhagargoeli yn Llywodraeth Cymru, ymatebion manwl gan swyddogion sy’n gweithio mewn sawl llywodraeth genedlaethol arall a set o argymhellion sydd â’r nod o ddatblygu a gwreiddio arferion dyfodoleg a rhagargoeli yng Nghymru ymhellach. Cefnogwyd y gwaith hwn gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â dyfodoleg a rhagargoeli, mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg defnyddiol iawn o wahanol arferion, technegau a chyfleoedd ar gyfer dysgu pellach.
Fel y dywedodd Dr De Vito:
‘Mae rhagargoeli yn gwella llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant drwy integreiddio safbwyntiau hirdymor a chefnogi llunwyr polisïau i gydnabod ansicrwydd ac ymdrin ag o, a deall canlyniadau hirdymor eu penderfyniadau.’
‘Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llwyfan trawsnewidiol y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arno. O dan y fframwaith deddfwriaethol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â bylchau llythrennedd presennol mewn dyfodoleg, datgloi mecanweithiau i oresgyn rhwystrau, ac ymgorffori dulliau hirdymor o feddwl yn sector cyhoeddus Cymru.’
Ariannwyd y prosiect ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac fe’i gyhnaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Gorllewin Lloegr, lle mae Dr De Vito yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Adnoddau Rheoli Ansawdd Aer.
Mae egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau bod meddwl hirdymor yn ganolog i’n gwaith. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus rhestredig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau. Mae ymchwil Dr De Vito yn dangos pwysigrwydd cysylltiad da rhwng arferion rhagargoeli a gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r ymchwil hon yn rhoi cipolwg heb ei ail i ni i’n helpu i symud ymlaen â’n gwaith dyfodoleg a rhagargoeli yma yn Llywodraeth Cymru. Gyda’r fframwaith a ddarperir gan y Ddeddf a chanfyddiadau’r ymchwil hon, rydym mewn sefyllfa unigryw i adeiladu ar argymhellion yr adroddiad i sicrhau bod gwaith parhaus yn cael ei anelu at y tymor hir.