Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae staff cyflenwi'n rhan werthfawr o weithlu'r ysgol, a gan fod ysgolion ar gau ar hyn o bryd, rwy’n ymwybodol ei fod yn amser anodd ac ansicr i bawb sy'n gweithio yn y sector cyflenwi ar hyn o bryd.

Fel y gallwch werthfawrogi, mae hwn yn fater cymhleth sy'n symud yn gyflym ac mae cyngor yn newid bob dydd. Er bod polisi addysg wedi'i ddatganoli yng Nghymru, mae cyfraith cyflogaeth y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru ac felly gall cyngor ar y materion hyn ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn unig. Fodd bynnag, efallai y bydd y wybodaeth ganlynol yn rhoi rhywfaint o eglurhad o'r hyn a allai fod ar gael i gefnogi'r rhai yn y sector cyflenwi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Bydd cyngor i staff yn dibynnu ar y ffordd y cânt eu cyflogi a phwy yw'r cyflogwr. Gan fod staff cyflenwi naill ai'n gallu cael eu cyflogi gan Awdurdodau Lleol, asiantaethau cyflenwi neu'n uniongyrchol gan ysgolion, bydd unrhyw gyngor yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Dylech edrych ar delerau eich contract a thrafod hyn gyda'ch cyflogwr yn y lle cyntaf.

Os cyflogir staff cyflenwi gan yr Awdurdodau Lleol neu'r ysgol ar gontract hirdymor, disgwylir iddynt gael eu contractio ar yr un telerau ac amodau â staff parhaol. Dylid talu'r gweithwyr hyn yn unol â hynny. Ar gyfer y rhai sy'n cael eu cyflogi drwy asiantaeth gyflenwi, gall y contractau amrywio ac felly mae angen i'r staff hwn drafod telerau'r contract gyda'u hasiantaeth.

I'r rheini sy'n gweithio i Asiantaeth, mae gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fframwaith cenedlaethol ar waith ar gyfer athrawon cyflenwi yng Nghymru, sy'n anelu at sicrhau gwelliannau i gyflogau ac amodau gwaith athrawon cyflenwi. Mae'n ofynnol i asiantaethau ar y fframwaith gofrestru gyda chorff recriwtio proffesiynol cynrychioliadol a llofnodi Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'n Hegwyddorion Gwaith Teg. Ers i'r fframwaith ddechrau gweithredu ym mis Medi 2019, rydym wedi annog staff cyflenwi, awdurdodau lleol ac ysgolion i ymgysylltu ag asiantaethau ar y fframwaith yn unig. Dros yr wythnosau diwethaf, mae asiantaethau fframwaith wedi bod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'r GCC i ddeall pa gymorth sydd ar gael i'w staff. Cysylltwch â'ch asiantaeth i drafod hyn os oes gennych unrhyw bryderon.

Efallai eich bod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn ddiweddar wedi cyhoeddi cymorth i gyflogwyr o dan Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws. Rwy'n deall bod y cynllun hwn yn agored i bob busnes gyda chyflogeion Cynllun Talu wrth Ennill (PAYE) ac felly mae'n bosibl y bydd ar gael i staff cyflenwi asiantaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar gael, a chynghorir staff i drafod hyn gyda'u hasiantaeth.

Cyhoeddwyd mesurau ychwanegol hefyd i gefnogi'r rhai sy'n hunangyflogedig, er yn anaml iawn y bydd staff cyflenwi yn perthyn i'r categori hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar gael.

Os ydych yn ansicr o'ch statws cyflogaeth, gallwch ddod o hyd i gyngor ac arweiniad pellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i'r afael â llawer o'ch pryderon yn ein cwestiynau cyffredin sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd. Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor ar daliadau salwch statudol, sut i gael gafael ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol, a rhagor o wybodaeth am y cynlluniau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac yn diweddaru'r gweithlu addysg yng Nghymru pan fydd y sefyllfa'n newid.

Gobeithio y bydd y wybodaeth hon o ddefnydd i chi.

Yn gywir
Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education