Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Annwyl Gyfaill

Heddiw ddylai fod wedi bod y dydd Mercher olaf cyn i ysgolion Cymru gau am eu gwyliau Pasg. Eleni, fel y gwyddoch, nid yw hynny'n wir.  

Fodd bynnag, fel y byddwn yn ei wneud fel arfer ar ddiwedd y tymor, rwy'n ysgrifennu atoch i dynnu sylw at yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn ac edrych at yr hyn fydd yn digwydd ar ôl y Pasg.

Ond yn fwy nag erioed, rwyf am ddiolch i chi, eich staff, a'ch cymuned ysgol ehangach. Mae gweithwyr addysg a gofal plant proffesiynol wedi camu i’r adwy  gydag angerdd ac ymrwymiad - athrawon, ymarferwyr gofal plant, staff cymorth, darlithwyr, penaethiaid, staff yma yn fy adran yn y Llywodraeth, a'n cyfeillion a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol ac asiantaethau addysg ledled Cymru.

Diolch i ymdrechion aruthrol ein hathrawon, staff ysgol a darparwyr gofal plant, roedd mwy na 800 o ysgolion yn agored yn ystod yr wythnos gyntaf, gan alluogi rhieni mewn swyddi allweddol i barhau i wneud gwaith hanfodol.

Yr wythnos diwethaf gofynnais i'r proffesiwn addysg ymateb i'r her o weithio'n hyblyg dros y Pasg i gefnogi gwaith y Llywodraeth wrth fynd i'r afael â'r her bresennol.

Mae'n bleser gennyf ddweud bod penaethiaid, athrawon a staff cymorth ledled Cymru, ynghyd â gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn sicrhau y bydd darpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau ar gyfer plant gweithwyr critigol a phlant sy'n agored i niwed.

Drwy gydol y cyfnod hwn, bu'n bwysicach nag erioed i fod yn eglur, yn onest ac yn hyderus yn ein gweithredoedd fel Llywodraeth, ac fel system addysg sy'n rhoi buddiannau dysgwyr, a'r rhai sy'n eu cefnogi, yn gyntaf.

  • Rydym wedi ailgyfeirio ysgolion fel eu bod yn helpu i gefnogi plant gweithwyr hanfodol a'r plant sydd fwyaf agored i niwed
  • Rydym wedi darparu sicrwydd ar raddau TGAU a Safon Uwch eleni
  • Rydym wedi rhoi'r gorau i arolygiadau ysgolion
  • A ni yw'r unig genedl yn y DU i warantu prydau ysgol am ddim dros gyfnod y Pasg, gan ddarparu £7miliwn o gyllid newydd. Gwneir cyhoeddiad pellach yn y dyfodol agos am gynllun cenedlaethol ar gyfer gweddill y flwyddyn ysgol.

Mae'n amlwg na fydd ysgolion yn ail-agor ar ôl y Pasg. Bydd ysgolion a rhieni yn pryderu am effaith cau ysgolion ar addysgu a dysgu, a hefyd ar les emosiynol, corfforol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc.

Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym lwyfan dysgu ar-lein o safon fyd-eang unigryw ar gyfer ysgolion, Hwb, sy'n sicrhau y gall athrawon barhau i addysgu o bell ac yn darparu miloedd o adnoddau addysgol dwyieithog i fyfyrwyr. Os nad ydych yn defnyddio Hwb yn llawn ar gyfer eich ysgol, cysylltwch â'ch consortia a all eich cefnogi i ddefnyddio'r platfform.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda'r consortia ac amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y BBC ac S4C, i ddatblygu cynllun dilyniant dysgu, ac rwy'n gobeithio darparu mwy o fanylion ar ôl y Pasg.

Felly unwaith eto - i bawb sy'n gweithio ym myd addysg, diolch yn fawr iawn. Yr ydym, yn y mater hwn, i gyd gyda'n gilydd, ac i ddefnyddio ystrydeb arall, yr ydym yn gryfach gyda'n gilydd.

Yn gywir

Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education