Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar feirysau anadlol gan gynnwys COVID-19 i staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r cyngor ar gyfer staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac ysgolion arbennig ar gyfer rheoli feirysau anadlol, gan gynnwys COVID-19. Mae'r canllawiau wedi'u llywio gan gyngor iechyd y cyhoedd a chyngor clinigol sy'n ystyried yr amodau iechyd cyhoeddus presennol. 

Byddwn yn adolygu'r canllawiau hyn. 

I bwy y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

Mae'r canllawiau hyn yn disodli'r holl fersiynau blaenorol ac maent yn berthnasol i staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth, a staff sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig.

Staff sydd â symptomau haint ar y llwybr anadlol, gan gynnwys COVID-19

Cynghorir unrhyw aelod o staff sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth ac sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19, i aros gartref a rhoi gwybod i'w gyflogwr cyn gynted â phosibl. Gellir dod o hyd i gyngor pellach ar reoli symptomau yn y Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.

Pan fydd yn teimlo'n well a phan na fydd tymheredd uchel ganddo mwyach (os oedd ganddo un) a'i fod yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, efallai y bydd am drafod â'i gyflogwr sut y gall leihau unrhyw risg gan y gall rhai fod yn heintus o hyd. Gall hyn gynnwys cynnal asesiad risg os yw'r aelod o staff yn gweithio gyda chleifion y mae eu system imiwnedd yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol er iddynt gael eu brechu.

Dull profi

Nid yw profi staff symptomatig yn cael ei argymell fel mater o drefn. Bellach, mae mynediad at brofion am ddim yn canolbwyntio ar helpu i reoli cleifion yn glinigol a nodi unigolion agored i niwed a fyddai'n elwa o gael triniaeth wrthfeirol benodol ar gyfer COVID-19 neu'r ffliw. Gall profion hefyd gefnogi gwyliadwriaeth, gweithgarwch rheoli heintiau a'r gwaith o reoli digwyddiadau neu frigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig.

O dan yr amgylchiadau a grybwyllir uchod, lle gallai profi fod yn briodol, dylai staff sy'n profi'n bositif aros gartref tan na fydd ganddynt dymheredd uchel mwyach a than y byddant yn teimlo'n ddigon da i ddychwelyd i'r gwaith. Dylent drafod â’u cyflogwr ffyrdd o leihau'r risg ar ôl iddynt ddychwelyd yn unol â'r prosesau arferol a ddilynir ar ôl dychwelyd i'r gwaith.

Staff sy'n byw gyda rhywun sydd â symptomau feirws anadlol, gan gynnwys COVID-19

Pobl sy'n byw yn yr un cartref â rhywun sydd â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19, sydd â'r risg uchaf o gael eu heintio. Mae hyn oherwydd eu bod yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad agos am gyfnod estynedig. Mae pobl sydd wedi aros dros nos ar aelwyd rhywun â haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 tra'r oeddent yn heintus hefyd yn wynebu risg uwch.

Dylai staff sy'n gyswllt cartref neu'n gyswllt dros nos i rywun sydd â symptomau haint anadlol neu sydd wedi cael canlyniad prawf COVID-19 positif drafod ffyrdd o leihau'r risg o drosglwyddiad â'u rheolwr llinell.

Gallai hyn gynnwys ystyried:

Pan fyddant yn y gwaith, rhaid i staff barhau i gydymffurfio'n drwyadl â'r holl ragofalon atal a rheoli heintiau perthnasol. 

Os yw staff yn datblygu unrhyw symptomau, dylent ddilyn y cyngor i staff sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.

Os yw staff wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â haint anadlol ond nid ydynt yn byw gyda nhw, ac ni arhoson nhw yn eu cartref dros nos, mae llai o berygl iddynt gael eu heintio. Nid oes angen iddynt ddilyn yr holl gyngor uchod. Fodd bynnag, dylent roi sylw manwl i brif symptomau heintiau anadlol. Os bydd staff yn datblygu unrhyw symptomau, fe'u cynghorir i aros gartref a dilyn y cyngor a nodir uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllawiau ar gyfer pobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.

Atal a rheoli heintiau

Bydd yn hanfodol cadw at y canllawiau presennol o ran Mesurau atal a rheoli heintiau ar gyfer heintiau anadlol acíwt (ARI) gan gynnwys COVID-19 ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal - Cymru. Mae hyn yn cynnwys monitro ac adrodd ar achosion, arferion hylendid da a'r defnydd priodol o gyfarpar diogelu personol (PPE)

Dylai'r holl staff iechyd a gofal fod yn gyfarwydd ag egwyddorion rhagofalon rheoli heintiau safonol (SICP) a rhagofalon yn seiliedig ar drosglwyddiad (TBP) ar gyfer atal lledaeniad haint mewn lleoliadau iechyd a gofal a dylent weithredu mesurau atal a rheoli heintiau yn unol â Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol Cymru NIPCM - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru).

Cyfrifoldeb y bwrdd iechyd neu'r cyflogwr o hyd yw sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn cydymffurfio â chanllawiau atal a rheoli heintiau ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal.