Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth inni symud o’r cam “cyfyngu” i’r cam “oedi” yn ein paratoadau ar gyfer COVID-19, mae’n hollbwysig bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn barod ar gyfer hynny. Rwyf wedi gwneud nifer o benderfyniadau heddiw i sicrhau camau gweithredu cynnar a phendant i barhau i ddarparu gofal a chymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Bydd y camau hyn hefyd yn sicrhau bod sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn cael cymorth i wneud paratoadau amserol ar gyfer y cynnydd disgwyliedig yn nifer yr achosion o COVID-19 sy’n cael eu cadarnhau. Rwy’n dewis gweithredu nawr cyn inni weld ymchwydd sylweddol yn y galw, er mwyn i’n gwasanaethau fod yn barod i weithredu. Mae’n debygol iawn y bydd angen lefelau uchel o ofal ar lawer o bobl yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rwyf wedi cymryd cyngor gan gydweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr Meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol er mwyn llywio fy mhenderfyniad i weithredu nawr i sicrhau y gellir gwneud ein paratoadau mewn ffordd drefnus a phwyllog. Felly, rwyf wedi cytuno ar fframwaith o gamau gweithredu y gall darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleol eu defnyddio i wneud penderfyniadau:

  1. Gohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a sicrhau bod apwyntiadau brys yn cael blaenoriaeth
  2. Gohirio derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys (gan sicrhau mynediad ar gyfer llawdriniaethau brys ac mewn argyfwng)
  3. Blaenoriaethu’r defnydd o Wasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys i ganolbwyntio ar ryddhau pobl o’r ysbyty ac ar ymatebion ambiwlans mewn argyfwng
  4. Cyflymu camau i ryddhau cleifion agored i niwed o ysbytai acíwt a chymunedol
  5. Llacio targedau a threfniadau monitro yn y system iechyd a gofal drwyddi draw
  6. Lleihau gofynion rheoleiddio ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal
  7. Cyflymu lleoliadau i gartrefi gofal drwy atal y protocol presennol sy’n rhoi’r hawl i ddewis cartref
  8. Caniatâd i ganslo digwyddiadau mewnol a phroffesiynol, gan gynnwys absenoldeb astudio, i ryddhau staff ar gyfer paratoadau
  9. Llacio trefniadau contractau a threfniadau monitro ar gyfer meddygfeydd ac ymarferwyr gofal sylfaenol
  10. Am y tro, peidio â darparu cymorth gan wasanaeth brys y GIG a gwirfoddolwyr iechyd mewn cynulliadau a digwyddiadau torfol.

Bydd y camau hyn yn caniatáu i wasanaethau a gwelyau gael eu hailddyrannu ac i staff gael eu hadleoli a’u hailhyfforddi mewn meysydd blaenoriaeth.

Bydd byrddau iechyd a darparwyr gofal iechyd yn dechrau cysylltu ag unrhyw un y mae’r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt dros y dyddiau nesaf wrth i’r camau hyn gael eu cyflwyno’n raddol. Wrth gwrs, bydd mynediad at driniaethau canser a thriniaethau hanfodol eraill, megis dialysis arennol er enghraifft, yn parhau.

Mae ein gwasanaeth ar-lein Galw Iechyd Cymru a’r rhif ffôn 111 wedi bod ar gael ac mae hynny wedi bod yn fodd i warchod y gwasanaethau hanfodol mewn gofal sylfaenol ac yn yr adrannau brys rhag galw gormodol.

Yr egwyddor allweddol yw cadw pobl yn ddiogel a chadw cleifion allan o leoliadau clinigol os nad oes angen brys iddynt fynd yno.

Bydd GIG Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddelio â'r feirws, yn enwedig yn achos rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw o ran triniaethau’r GIG yn golygu y gall y gwasanaeth fynd ati nawr i baratoi cyn i’r galw gyrraedd ei anterth, ac y bydd yn gallu gweithredu hyd eithaf ei allu wrth i'r achosion gynyddu. Bydd gan rai o'r mesurau oblygiadau i wasanaethau llywodraeth leol, a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ar y materion hyn.

Mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n galed i ofalu am y bobl hynny y cadarnhawyd bod y coronafeirws arnynt, ac yn dal ati hefyd i ddelio ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru. Mae ein staff rheng flaen yn gwneud gwaith gwych mewn amgylchiadau eithriadol o anodd wrth i gyfnod prysur y gaeaf ddirwyn tua’i derfyn. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu gwaith caled a'u dyfalbarhad. Gofalu am les pawb yng Nghymru wrth inni wynebu her y pandemig hwn yw fy mlaenoriaeth bennaf yn ystod y cyfnod anodd hwn.