Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-2023, sy'n nodi ein cynlluniau ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae'r Gyllideb Ddrafft yn nodi cynlluniau gwario strategol ar gyfer refeniw a chyfalaf, trethiant a benthyca; yn ogystal â chynigion cyllidebol manwl ar gyfer y portffolios yn 2022-2023 a chynlluniau gwario dangosol ar gyfer 2023-2024 a 2024-2025.

Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar y Gyllideb Ddrafft yn y Senedd ar 11 Ionawr 2022.

Mae'r dogfennau a gyhoeddwyd heddiw i gyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

Cynigion y Gyllideb Ddrafft

  • Dogfen Naratif y Gyllideb Ddrafft, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Integredig Strategol a Chynllun Gwella'r Gyllideb
  • Llinellau Gwariant y Gyllideb
  • Polisi Trethi Cymru: Adroddiad Rhagfyr 2021
  • Cyllideb Ddrafft 2022-23 – taflen

Ar gael hefyd mae'r dogfennau canlynol, sy'n rhan o'r gyfres o ddogfennau a gyhoeddwyd heddiw:

  • Adroddiad y Prif Economegydd
  • Dadansoddiad Dosbarthiadol o Wariant Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru
  • Golwg ar Drethi Cymru - Asesiad annibynnol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o’n cynnig trethiant
  • Y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru a'r Cynllun Cyllid Seilwaith cysylltiedig
  • Canllawiau cyflym i esbonio effaith newidiadau treth
  • Ymgynghoriad ar amrywiadau lleol i’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ail gartrefi
  • Amrywiadau lleol i’r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau
  • Dolen at adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar ei rhagolygon ar gyfer trethi datganoledig Cymru