Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 16 Gorffennaf 2019, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn cyhoeddi fy mhenderfyniad i gadarnau Is-ddeddfau Gwialen a Lein (Eogiaid a Brithyllod y Môr) arfaethedig Cymru 2017 ac Is-ddeddfau Pysgota â Rhwydi Cymru (Eogiaid a Brithyllod y Môr) 2017, a elwir yn Is-ddeddfau 'Cymru Gyfan'. Pwrpas yr Is-ddeddfau hyn, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2020, yw i helpu i wyrdroi'r dirywiad yn y stoc eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru.

Ar 25 Hydref 2019, derbyniais Is-ddeddfau arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer  Gwialen a Lein (Eogiaid a Brithyllod y Môr) Afonydd Trawsffiniol (Cymru) 2017. Mae'r Is-ddeddfau Trawsffiniol hyn yn atgynhyrchu dull gweithredu Is-ddeddfau Cymru Gyfan, ar gyfer rhannau yr afon Dyfrdwy a'r Gwy sydd yng Nghymru.

Mae'n bwysig bod rhannau o'r afon Dyfrdwy a'r afon Gwy sydd yng Nghymru yn cael eu cynnwys o fewn yr un cyfyngiadau â'r afonydd sy'n cael eu cynnwys o fewn Is-ddeddfau Cymru Gyfan. Felly, rwyf yn cymeradwyo yr Is-ddeddfau Trawsffiniol yn swyddogol, drwy lofnodi eu Offerynnau Cadarnhau ar 29 Ionawr. Daw yr Is-ddeddfau i rym ar 31 Ionawr 2020.

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn llunio Is-ddeddfau cyfwerth ar gyfer rhannau yr afon Dyfrdwy a'r Gwy sydd yn Lloegr. Er mwyn egluro hyn i'r rhanddeiliaid, rwyf wedi gofyn i Weinidog cyfrifol Llywodraeth y DU geisio sicrhau y daw yr is-ddeddfau cyfatebol yn Lloegr i rym cyn gynted â phosibl wedi Is-ddeddfau Cymru.

O fewn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 16 Gorffennaf, gofynnais hefyd i Cyfoeth Naturiol Cymru drafod gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a chyflwyno Cynllun Gweithredu ar gyfer Eogiaid a Brithyllod y Môr.  Gallaf gadarnhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i drafod beth ddylid ei gynnwys yn y cynllun cyn ei rannu â rhanddeiliaid. Rwyf wedi derbyn y Cynllun Gweithredu a byddaf yn ei adolygu cyn ei gymeradwyo ac i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi’r ddogfen i bob rhanddeiliad yn ystod mis Chwefror.