Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 27 Ebrill 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl oedd wedi bod ar y gweill gan GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • ein blaenoriaethau – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol;
  • ein seilwaith brechu – gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt – ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd;
  • sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth gyfredol am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd y Diweddariad i’n Strategaeth Genedlaethol ar 26 Chwefror 2021 i ystyried y cynnydd a rhoi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i’r dyfodol.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Cytunwyd ar ein rhestr flaenoriaeth o bobl i gael y brechlyn drwy gymeradwyo rhestr Cyd-bwyllgor annibynnol y DU. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Fel y nodir yn yr adran isod ar gynnydd, rydym wedi cwblhau cam cyntaf y rhaglen:

  • pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn
  • staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • y rhai sy’n 50 oed a hŷn
  • y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
  • y rhai sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes ac sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o glefyd difrifol a marwolaeth

Rydym yn awr yn ail gam y rhaglen. Yn amodol ar gyflenwad, ein nod yw cynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf. 

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael unrhyw un ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr yn brechu’r canlynol:

  • pawb rhwng 40 a 49 oed
  • pobl sy’n byw gydag unigolion a chanddynt systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau’n ddifrifol 
  • unrhyw un na chafodd ei frechu, am ba reswm bynnag, yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Mae gennym borth o 50% ar gyfer symud o un grŵp i'r nesaf. Mae rhai byrddau iechyd eisoes wedi brechu dros 50% o oedolion yn eu 40au yn eu hardal, felly maent bellach wedi dechrau gwahodd y grŵp oedran 30-39 oed. 

Mae ein rhaglen ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol ar gyfer amddiffyn pobl yn y tymor hirach felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd yr ail ddos.

Ble mae pobl yn cael eu brechu? 

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad a phob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 491 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 49 o ganolfannau brechu torfol
  • 372 o leoliadau practis cyffredinol
  • 12 o fferyllfeydd
  • 33 o leoliadau ysbyty
  • ac roedd 20 o dimau symudol

Cynnydd

Cyflawniad o ran marcwyr a cherrig milltir

Rydym wedi cwblhau cam cyntaf ein rhaglen, sy'n cynnwys 2 garreg filltir. 

Carreg filltir 1

Yn ein Strategaeth Frechu, fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

Cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1–4 erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny'n cynnwys pob preswylydd a phob aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; y rhai sy'n 70 oed a hŷn; ac unigolion sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Cadarnhawyd ar 12 Chwefror ein bod wedi cyflawni'r garreg filltir hon.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr i'w cyflawni fel rhan o'n taith tuag at gyflawni’r garreg filltir gyntaf erbyn canol mis Chwefror:  

  • marciwr 1: cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i bob aelod o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru erbyn 18 Ionawr
  • marciwr 2: cynnig y brechlyn i bob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal pobl hŷn erbyn diwedd mis Ionawr
  • marciwr 3: sicrhau bod 250 o bractisau meddygon teulu yn rhoi'r brechlyn erbyn diwedd mis Ionawr

Mae’r grwpiau cyntaf hyn yn awr yn cael cynnig eu hail ddos o’r brechlyn, sy’n bwysig i’w hamddiffyn yn y tymor hirach. Mae 87.9% o breswylwyr cartrefi gofal yn awr wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn, ac mae 90.4% o staff cartrefi gofal wedi cael o leiaf un dos.

Carreg filltir 2

Fe wnaethom ddweud y byddem, yn amodol ar gyflenwad, yn:

Cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau 1-9 erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny’n cynnwys pobl 50 oed a hŷn. 

Fe wnaethom gyflawni hyn ar 4 Ebrill.

Amlinellwyd hefyd gennym 3 marciwr yr oeddem yn disgwyl eu cyflawni yn ystod yr ail garreg filltir erbyn canol mis Ebrill:   

  • gweinyddu 1 miliwn dos o’r brechlyn erbyn 7 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 27 Chwefror
  • gweinyddu 1 miliwn dos cyntaf erbyn 14 Mawrth. Cyflawnwyd hyn cyn y dyddiad targed ar 9 Mawrth
  • gweinyddu 1.5 miliwn dos yn ystod yr ail garreg filltir. Cyflawnwyd hyn

I grynhoi:

  • mae pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael cynnig y brechlyn ac mae dros 90% ohonynt bellach wedi cael eu dos cyntaf
  • mae nifer y rhai sydd wedi cymryd y brechlyn yn uchel iawn – dros 95% mewn rhai grwpiau, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a'r rhai sy'n 75 oed a hŷn
  • hyd yma, mae 1,785,347 o bobl wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn yng Nghymru
  • mae 701,099 o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn. Gyda’i gilydd, mae mwy na 2.4 miliwn o frechlynnau wedi’u gweinyddu
  • rydym yn cynnal y gyfradd frechu orau ar gyfer dos cyntaf yn y DU, fel y mae’r siart cyfartaledd treigl 7 diwrnod a ganlyn yn ei ddangos. Hefyd, mae cyfran uwch o bobl yng Nghymru wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Mae 70% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf ac mae un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos
Image
Image showing different test results

 

Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Felly, nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu. 

Y marcwyr a’r cerrig milltir nesaf

Mae ail gam ein Rhaglen Frechu wedi dechrau a'n blaenoriaeth bresennol yw’r drydedd garreg filltir yn ein Strategaeth. 

Rydym wedi dweud mai ein nod, yn amodol ar gyflenwad, yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yn y 10 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mae pobl rhwng 40 a 49 oed yn cael eu galw am eu hapwyntiadau ledled Cymru, gyda rhai ardaloedd eisoes wedi cyrraedd y porth o 50%, sef y trothwy ar gyfer dechrau gwahodd y grŵp nesaf, y rhai rhwng 30 a 39 oed, i gael eu brechu.

Rhagor o wybodaeth

Mae trydydd adroddiad brechu manylach Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod cynnydd wedi bod ers mis Chwefror yn y gyfran o bobl sydd wedi’u brechu yn yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol a grwpiau ethnig a nodwyd. Mae bylchau anghydraddoldeb o ran darparu o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol ymysg oedolion hŷn yng Nghymru wedi lleihau ymhellach ers mis Mawrth ac, fel y nodir yn ein diweddariadau ar y strategaeth frechu, bydd y rhaglen frechu yn parhau i ganolbwyntio ar hyn.

Menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron. Mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn i fenywod beichiog yr un pryd â menywod nad ydynt yn feichiog, ar sail eu grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol. Erbyn hyn, mae tystiolaeth helaeth ar gael o’r defnydd o’r brechlynnau Pfizer a Moderna yn yr Unol Daleithiau ar ôl eu rhyddhau ar y farchnad, heb unrhyw signalau diogelwch hyd yma. Felly, y brechlynnau hyn yw’r rhai a ffefrir ar gyfer menywod beichiog. Dylai clinigwyr drafod risgiau a manteision brechu â’r fenyw, a dylid dweud wrthi am y dystiolaeth gyfyngedig, ond sy’n dod i’r amlwg, ynghylch diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd. Nid oes angen ichi wneud y penderfyniad ar eich pen eich hun, a byddem yn eich annog i’w drafod â’ch meddyg neu’ch bydwraig. Y cyngor i fenywod beichiog sydd wedi dechrau cael eu brechu gyda’r brechlyn AstraZeneca yw parhau â’u cwrs brechu gyda’r un brechlyn.

Mae pennod 14a y Llyfr Gwyrdd hefyd yn cadarnhau y gall menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd, sydd newydd roi geni, neu sy’n bwydo ar y fron gael eu brechu gydag unrhyw frechlyn, yn unol â’u grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol.

Mae oedolion sydd ag imiwnedd ataliedig yn ei chael yn anoddach i ymladd heintiau'n naturiol ac maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth yn dilyn haint COVID-19. Mae tystiolaeth gynyddol y gallai brechlynnau COVID-19 leihau'r siawns i rywun sydd wedi cael ei frechu drosglwyddo'r feirws. Bydd brechu cysylltiadau aelwydydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws i’r bobl hyn.  

O ganlyniad, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth. Mae Llywodraeth Cymru, fel gwledydd eraill y DU, wedi derbyn y cyngor hwn ac mae bellach ffurflen ar-lein ar gael i unigolion sy’n byw gyda rhywun ag imiwnedd ataliedig ei llenwi.

Y dystiolaeth ddiweddaraf o’r byd go iawn ar effeithiolrwydd brechu. Mae dwy astudiaeth ddiweddar (sydd heb eu hadolygu gan gymheiriaid eto) wedi canfod bod siawns pobl o gael eu heintio â COVID-19 wedi lleihau’n sylweddol ar ôl dos cyntaf o’r brechlyn AstraZeneca neu’r brechlyn Pfizer. Roedd y brechlynnau’n gweithio llawn cystal ymysg pobl dros 75 oed a’r rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, ag yr oeddent ymysg pobl eraill. Effeithiolrwydd brechlynnau - Nuffield Department of Medicine (ox.ac.uk)

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o’r rhai sy’n cymryd y brechlyn. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol ac rydym yn annog pawb i fanteisio arnynt pan ddaw eu tro. Bydd diogelwch pobl bob amser yn dod yn gyntaf. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus. Rydym yn ffyddiog yn ein brechlynnau ac yn sicr bod rhaid inni gynnal y momentwm. Rydym yn adolygu adroddiadau diogelwch brechlynnau yn barhaus ac yn ofalus ac mae'r rheoleiddiwr annibynnol, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddiogelwch.