Neidio i'r prif gynnwy

Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yng nghwricwlwm ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn amodol ar gael ei gymeradwyo'n derfynol gan y Senedd y mis nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu dysgu am amrywiaeth cymunedau, yn enwedig straeon pobl Dduon, Asiaidd a ethnig lleiafrifol, at ganllaw newydd Cwricwlwm Cymru, gan gyd-fynd â dechrau Mis Hanes Pobl Dduon.

Bydd y fframwaith newydd ar gyfer y Cwricwlwm yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen, yn dilyn blynyddoedd o waith gan athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn ei ddatblygu.

Bydd y Cwricwlwm yn cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Mae pob Maes yn cynnwys elfennau gorfodol o’r enw ‘Datganiadau o Beth sy’n Bwysig’, a ddisgrifir fel y ‘syniadau mawr’ ac egwyddorion allweddol ym mhob Maes.

Un o’r 27 Datganiad yw bod “Cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac wedi’u siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.” Bydd y Datganiad nawr yn cynnwys disgwyliad y gall dysgwyr “ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, o’r gorffennol a’r presennol. Mae'r straeon hyn yn amrywiol, yn rhychwantu gwahanol gymunedau ac, yn arbennig, straeon pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.”

Y llynedd, ffurfiwyd gweithgor, dan arweiniad yr Athro Charlotte Williams OBE, i wella addysgu am gymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, gan gynnwys datblygu deunyddiau addysgu a hyfforddiant newydd ar gyfer athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Mae gwaith y grŵp yn cael ei gefnogi gan £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae'n hanfodol bwysig bod ein system addysg yn galluogi ein pobl ifanc i ddeall a pharchu eu hanes, eu diwylliannau a'u traddodiadau eu hunain a rhai pobl ifanc eraill.

Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i gyfoethogi’r cwricwlwm newydd, ac felly’r addysgu yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn grymuso athrawon a lleoliadau addysg i gynllunio gwersi i ysbrydoli eu dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Os ydyn ni am symud ymlaen fel cymdeithas, rhaid i ni greu system addysg sy’n ehangu ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth am y diwylliannau niferus sydd wedi creu gorffennol a phresennol Cymru a’r byd.

Fframwaith Cwricwlwm newydd Cymru

  • Mae fframwaith Cwricwlwm newydd wedi cael ei ddatblygu gan ymarferwyr, ar gyfer ymarferwyr, yn seiliedig ar bedwar pwrpas, i ddatblygu dysgwyr sy’n ddinasyddion uchelgeisiol a medrus, mentrus a chreadigol, moesegol a gwybodus ac iach a hyderus.
  • Bydd gan athrawon fwy o hyblygrwydd i ddatblygu cwricwlwm yn eu hysgol sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr. Byddant yn gwneud hyn drwy ddefnyddio fframwaith cyffredin sy'n cynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad (Meysydd).
  • Mae'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn ymdrin â: Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles; a Chelfyddydau Mynegiannol.
  • Bydd ffiniau pwnc i bwnc traddodiadol yn cael eu dadansoddi yn y broses o gynllunio'r cwricwlwm, gan helpu dysgwyr i ystyried gwahanol gysyniadau a materion yn well yn y ffordd ehangaf bosibl.
  • Mae'r Meysydd yn cefnogi cynllunio trawsgwricwlaidd, felly gall dysgwyr ddefnyddio eu dysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd academaidd neu fywyd real.
  • Mae Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr asesu Cymru, yn datblygu cymwysterau i adlewyrchu'r Cwricwlwm i Gymru drwy ddull cydadeiladu.
  • Bydd y Cod Datganiadau Beth Sy’n Bwysig yn cwblhau ei ‘weithdrefn negyddol’ gerbron y Senedd ar 15 Tachwedd.