Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gan Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar gynnydd ar y FfDC, sydd wedi ei oedi oherwydd Covid-19.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Roedd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf i’w gyhoeddi yn ystod yr hydref.  Roeddwn wedi bwriadu cyflwyno’r FfDC drafft i’r Senedd ym mis Ebrill, fel y gallai’r Aelodau graffu ar y cynllun drafft a’n newidiadau arfaethedig.  Yn ystod yr haf roeddwn i ystyried argymhellion Aelodau’r Senedd ac ym mis Medi, roeddwn yn bwriadu cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. 

Oherwydd Covid-19, atal gweithgareddau arferol y Senedd a’r angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu ar frys sut yr oeddem ni fel cenedl yn ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus, nid oedd yn bosibl imi gyflwyno’r FfDC drafft i’r Senedd. 

Mae’r amgylchiadau eithriadol hyn wedi golygu bod oedi wrth graffu ar a chyhoeddi’r FfDC ond rwyf yn parhau yn ymroddedig i gyhoeddi’r cynllun datblygu cenedlaethol pwysig hwn.  Bydd yr FfDC, yn ogystal â Pholisi Cynllunio Cymru, yn pennu sut y gallai lleoedd fod yn fwy cynaliadwy a chydnerth.  Rwy’n credu’n gryf y bydd y system gynllunio yn ganolog i’r camau sydd angen inni eu cymryd yn ystod y cyfnod wedi Covid-19 i greu lleoedd gwell. 

Mae’r argyfwng wedi tynnu sylw mawr at bwysigrwydd y cymunedau yr ydym yn byw ynddynt a’r gwasanaethau a’r seilwaith hanfodol yr ydym yn dibynnu arnynt.  Mae mynediad at fannau gwyrdd, pwysigrwydd siopau lleol, dibyniaeth ar gysylltedd digidol, y gallu i weithio o gartref i’r rhai hynny sy’n gallu, ac i gerdded a beicio i’r gwaith i’r rhai sydd ddim yn gallu wedi gwneud inni i gyd ysytried y pethau sy’n werthfawr inni mewn gwirionedd ynghylch ble yr ydym yn byw.  Wrth inni ystyried y camau sydd angen inni eu cymryd i greu lleoedd mwy cydnerth, teg a chynaliadwy, byddaf yn parhau i ddadlau’n gryf i’r system gynllunio arwain y ffordd.   

Rwyf wedi cyhoeddi Adeiladu Lleoedd Gwell er mwyn dod o hyd i’r blaenoriaethau polisi mwyaf perthnasol o fewn Polisi Cynllunio Cymru a fydd yn helpu gydag adferiad wedi’r argyfwng Covid-19 ac o gymorth i gyflawni ein nod o greu y lleoedd cynaliadwy, cydnerth ac, yn y pen draw, gwell y mae pawb am fyw ynddynt.   

Mae’r FfDC yn ganolog i bennu ein gweledigaeth ar gyfer pob rhan o Gymru, a bydd yn cynnig sylfaen bwysig ar gyfer cynllunio rhanbarthol a lleol yn y dyfodol.  Rwy’n bwriadu gosod yr FfDC drafft gerbron y Senedd er mwyn craffu ar y newidiadau arfaethedig ym mis Medi, gan gyhoeddi’r FfDC ddechrau 2021.  Mae Covid-19 yn parhau i olygu bod amserlenni yn ansicr; byddaf yn paratoi amserlen wedi’i diweddaru ar gyfer cyflawni’r FfDC cyn gynted â phosibl.  Caiff rhagor o ddiweddariadau eu cyhoeddi yma a’u rhannu gyda’n rhanddeiliaid drwy Gylchlythyr FfDC.