Swydd Wag -- Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Egwyddorion Recriwtio

Mae’r Rhaglen hon i Raddedigion ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan, wedi’i rheoli gan Academi Wales.  Gan fod Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru, fe fydd y broses yn cael ei weinyddu yn unol â Pholisïau Recriwtio a phrosesau Llywodraeth Cymru, ac wedi’i gynnal ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil

Manylion y swyddi

£30,600
22 mis
Amser llawn ond yn agored i ymgeiswyr sy’n dymuno gweithio’n rhan amser.

Bydd 18 swyddi mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Mae'r Rhaglen hon yn rhaglen "ranbarthol" i raddedigion. Bydd y swyddi ar gael yn y rhanbarthau isod a bydd disgwyl i raddedigion deithio i sefydliadau sy'n cymryd rhan mewn rhanbarth penodol. Bydd sefydliadau wedi'u lleoli hyd at awr i ffwrdd oddi wrth ei gilydd o fewn rhanbarth. Bydd cyflogaeth ar gontract cyfnod penodol am 22 mis gyda Llywodraeth Cymru ond bydd y rhan fwyaf o raddedigion yn cael eu rhoi ar unwaith mewn sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn eu dewis ranbarth. Bydd graddedigion yn treulio'r 22 mis naill ai mewn 2 neu 3 sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yn eu rhanbarth.

Bydd angen i chi nodi pa ranbarth/rhanbarthau yr ydych yn gwneud cais amdanynt fel rhan o'r broses ymgeisio. Ni fyddwch yn gallu diwygio'r rhanbarth/rhanbarthau unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais neu yn ystod y broses recriwtio.

Y rhanbarthau yw:

Gogledd – Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Gwynedd

Canolbarth a Gorllewin – Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

De Ddwyrain – Sir Fynwy, Bro Morgannwg, CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Casnewydd, Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent

Ein Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus

Ein Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus

Fel myfyriwr graddedig ar y rhaglen hon bydd gennych swydd go iawn yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru; yn astudio at gymhwyster Meistr wedi'i ariannu'n llawn; yn cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu am 22 mis; bydd gennych hyfforddwr a mentor gweithredol, a byddwch yn cychwyn ar yrfa yn y gwasanaeth cyhoeddus. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm o’r diwrnod cyntaf.  

Mae gweithio i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn wahanol i bob swydd arall yng Nghymru. Byddwch yn ennill profiad mewn nifer o sefydliadau a rolau. Mae hon yn rhaglen rheolaeth gyffredinol i raddedigion.

Beth mae'r rôl yn ei olygu?

  • Cymryd rhan mewn rhaglen arloesol i raddedigion sy’n cynnig cyfleoedd o’r radd flaenaf.
  • Swydd go iawn yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
  • Profiad mewn swyddi rheoli cyffredinol
  • Cyfle i weithredu ar eich liwt eich hun; rheoli prosiectau; cyflawni gwelliannau i wasanaethau a chynorthwyo i gyflawni canlyniadau allweddol ar gyfer dinasyddion Cymru
  • Datblygu eich gwybodaeth am wasanaeth cyhoeddus Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gwneud y gofynion deddfwriaethol yn bethau ‘go iawn’ yng Nghymru
  • Profiad mewn nifer o sefydliadau yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru

Dyma benodiad cyfnod penodol o 22 mis a fydd yn cychwyn ar 31 Ionawr 2022 ac yn dod i ben ar 31 Hydref 2023. Bydd symud i flwyddyn 2 yn amodol ar gwblhau blwyddyn 1 y rhaglen i raddedigion yn llwyddiannus a pherfformio’n foddhaol yn holl elfennau'r rhaglen. Un o ofynion y rhaglen i raddedigion yw bod y 22 mis llawn yn cael eu cwblhau ar y rhaglen. Byddwn yn annog graddedigion llwyddiannus i aros yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.  

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydym yn chwilio am unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru.  

 Mae gan wasanaeth cyhoeddus Cymru gyfres gyffredin o werthoedd sy’n sail i Raglen i Raddedigion: Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus

Fframwaith Ymddygiad Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gwerthoedd ac ymddygiad gwasanaeth cyhoeddus Cymru wrth galon y rhaglen i raddedigion a byddwn yn eich asesu yn erbyn y rhain yn ystod y broses ddethol. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â gwerthoedd ac ymddygiad gwasanaeth cyhoeddus Cymru cyn gynted â phosibl fel eich bod yn gwybod am beth y byddwn yn chwilio amdano, ac yna gallwch benderfynu a yw hon yn swydd sy’n addas ar eich cyfer chi.

Ein polisi yw hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein busnes gan gynnwys penodiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, priodas (gan gynnwys priodas gyfartal/o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred neu feichiogrwydd/mamolaeth.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.

Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr o ddewis, sefydliad lle mae pobl am weithio ac yn falch o weithio iddo. Am y rheswm hwn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Pwy sy’n gallu gwneud cais?

Mae’r rhaglen yn agored i chi os ydych yn bodloni ein gofynion hanfodol. Gallwch ymgeisio os ydych chi eisoes yn gweithio yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru neu os ydych eisiau ymuno. Nid oes terfyn oedran.

  • TGAU (neu gyfwerth) mewn Mathemateg ac Iaith Saesneg, gradd C neu uwch (neu gyfwerth)
  • Gradd 2.1 mewn unrhyw bwnc neu gymhwyster Level 7 neu Lefel 8 erbyn 30 Medi 2021
  • Yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
  • Efallai y bydd gofynion Iaith Gymraeg yn berthnasol i rai swyddi
  • Bodloni Gofynion Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil

Beth yw'r cymhwyster?

Byddwch yn astudio fel rhan o'r rhaglen tuag at radd Meistr wedi'i hariannu'n llawn mewn arweinyddiaeth gwasanaeth cyhoeddus.


Ein Proses Ddethol

Ein proses ddethol

Mae manylion llawn am y broses ddethol i'w cael yn ein Canllaw i Ymgeiswyr. Mae’n bwysig eich bod yn darllen hwn cyn dechrau gwneud eich cais. Mae’n cynnwys arweiniad ar eich cais, ac yn rhoi dyddiadau allweddol y broses ddethol, y bydd angen i chi fod yn bresennol ynddynt.

Bydd y broses yn cynnwys:

  • Asesiad o gymhwysedd i gymryd rhan yn y rhaglen i raddedigion
  • Cwblhau’r prawf cryfderau mewn sefyllfa ar-lein
  • Canolfan Asesu Rhithwir a Chyfweliad

Rhaid i chi gwblhau pob un o’r asesiadau hyn er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rhaglen.  Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch chi er mwyn gallu cwblhau'r broses asesu, bydd cyfle i chi nodi hynny wrth wneud y cais a byddwn ni’n gallu trefnu hynny

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ystyrir sgiliau iaith Gymraeg yn gaffaeliad i'r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau yn Saesneg.

Bydd rhai o'n swyddi yn gofyn am sgiliau iaith Gymraeg. Fodd bynnag, ar gyfer nifer o swyddi nid oes angen sgiliau iaith Gymraeg. Gofynnir i chi nodi lefel eich gallu yn y Gymraeg yn ystod y broses ymgeisio.

 

Sut i wneud cais

Dylai pob cais am y swydd hon gael ei wneud ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych chi anabledd a fyddai’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at AllWalesGrads@gov.wales i ofyn am becyn cais mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy’n gysylltiedig â nam er mwyn cyflwyno’ch cais.

 

I wneud cais, rhaid i chi gael cyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais’ isod a gofynnir i chi ‘Fewngofnodi’ os oes gennych gyfrif eisoes, neu ‘Cofrestru’ os nad oes gennych gyfrif yn barod. Dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i gofrestru. Byddwch angen cyfeiriad e-bost er mwyn gallu cofrestru. Pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ac wedi mewngofnodi, eir â chi at y ffurflen gais ar-lein, a bydd gofyn i chi ei llenwi’n llawn a’i chyflwyno cyn yr amser gofynnol ar y dyddiad cau.    

 

Os hoffech chi wneud cais am y swydd hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar ben y dudalen hon, i fynd â chi at fersiwn Cymraeg yr hysbyseb hwn, ac oddi yno gallwch ymgeisio yn Gymraeg.

 

Manylion cyswllt er mwyn cael rhagor o wybodaeth

Mae gwybodaeth gyffredinol am y rhaglen, gan gynnwys dogfen Cwestiynau Cyffredin, ar gael ar ein tudalen we Rhaglen i Raddedigion: Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan:

www.gov.wales/publicservicegraduates

www.llyw.cymru/graddedigiongwasanaethcyhoeddus

Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, cysylltwch ag Academi Wales ar AllWalesGrads@gov.wales


Dyddiad cau

16/07/21 16:00

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.