Copy
View this email in your browser
Neges gan yr
Is-ganghellor
A message from the Vice-Chancellor

Annwyl <<First Name>>,

Yr wythnos hon cefais groesawu llysgennad Fietnam, HE Nguyen Hoang Long, i Gymru cyn ei ymweliad â COP26. Mae hanes i ymfalchïo ynddo rhwng Cymru a Fietnam o weithio mewn partneriaeth a chydweithio â’n gilydd ym maes addysg uwch, ac a gafodd ei feithrin trwy raglen Cymru Fyd-eang ac ymdrechion ein prifysgol ni a phrifysgolion eraill.
 
Mae gwaith wedi digwydd ar lefel lywodraethol a sefydliadol, a - thrwy ein perthynas hirsefydlog a gwerthfawr iawn gyda'r Cyngor Prydeinig yn y ddwy wlad - rydym wedi gallu cysylltu â phartneriaid yn Fietnam i weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r heriau mawr yr ydym i gyd yn eu hwynebu yn y byd anrhagweladwy a chyfnewidiol sydd ohoni.
 
Yn fwyaf diweddar rydym wedi archwilio potensial digideiddio mewn addysg uwch a sut y bydd hynny yn effeithio ar sut rydym yn addysgu, yn dysgu ac yn rhyngweithio yn y dyfodol. Mae materion megis digideiddio a’r adferiad ôl-Covid yn cael effaith fyd-eang ac, o'r herwydd, dim ond trwy gydweithredu yn fyd-eang y gellir mynd i'r afael â’r materion hynny. Felly rydw i wrth fy modd ein bod ni yng Nghymru wedi gallu gweithio gyda'n partneriaid yn Fietnam wrth i ni ddod o hyd i ffyrdd i lywio'r llwybrau cymhleth sydd o'n blaenau. 
 
Rydym hefyd wedi gweithio gyda'n gilydd i annog ychwaneg o fyfyrwyr o Fietnam i astudio yng Nghymru. Ddwy flynedd yn ôl llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru a Fietnam ar gyfer cydweithredu â’n gilydd ym maes addysg uwch ac rydym bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gan fod y cynllun gweithredu sy'n amlinellu sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn y dyfodol newydd gael ei lofnodi gan y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles.
 
Gwnaethom hefyd drafod rôl ranbarthol flaenllaw Fietnam wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn dilyn hynny, aeth y llysgennad yn ei flaen ar ei daith i seremoni yn COP26 lle llofnododd prif weinidog Fietnam 26 cytundeb cydweithredu rhwng gweinidogaethau, sectorau a busnesau a oedd yn cynnwys gwella’r cydweithrediad ym maes addysg.
 
Yn COP26 hefyd mae nifer o ymchwilwyr o Fangor. Â’r’ Cenhedloedd Unedig yn dweud wrthym fod llai na 10 mlynedd yn weddill i ddelio â chynhesu byd-eang, rwyf ar ben fy nigon ac yn ymfalchïo’n fawr bod ein hacademyddion yn gallu gwrando ar y trafodaethau, rhannu dealltwriaeth a thrafod dulliau newydd o fynd i'r afael â chwestiynau allweddol yn ymwneud â’r hinsawdd gydag llunwyr polisi, diwydianwyr ac academyddion blaenllaw eraill.
 
Ym Mangor mae gennym o leiaf tair thema ymchwil ac effaith sy’n greiddiol i faes iechyd yr amgylchedd ac yn hanfodol i’r drafodaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd: Ym maes Gwyddorau’r Amgylchedd y themâu hynny yw tir, iechyd, y môr a physgodfeydd - ac ym maes Ynni a Chyfathrebu, newid cyflenwad a gwytnwch. 
 
O blith y themâu hynny, mae safbwyntiau'r gwyddonydd cadwraeth Julia Jones ar ddatgoedwigo a pham y bydd cytundeb yn COP26 yn ei chael hi'n anodd gwrthdroi colled coedwigoedd byd-eang erbyn 2030 wedi'i gyhoeddi yn The Conversation yr wythnos hon ac yn ddiau bydd ei gwaith yn cael ei ddarllen gan ddylanwadwyr ledled y byd. Gallwch chwithau ddarllen yr erthygl honno yma.

 

Dymuniadau gorau,

Yr Athro Iwan Davies

Is-ganghellor
 

Dear <<First Name>>, 

I welcomed the Vietnamese ambassador, HE Nguyen Hoang Long, to Wales before his visit to COP26 this week. There is a proud history of partnership and collaboration in higher education between Wales and Vietnam which has been fostered through the Global Wales programme and the efforts of our University and others.

Work has been undertaken at both governmental and institutional level, and - through our long-standing and highly valued relationship with the British Council in both countries - we have been able to link with partners in Vietnam to work together to tackle the great challenges we all face in this unpredictable and fast-changing world.

Most recently we have explored the potential of digitisation in higher education and how it will impact upon how we teach, learn and interact in future. Issues such as digitisation and post-Covid recovery have global impact and, as such, can only be addressed through global collaboration. So I am delighted that we in Wales have been able to work with our partners in Vietnam as we find ways to navigate the complex paths that lie ahead.

We have also worked together to encourage more Vietnamese students to study in Wales. A Wales-Vietnam MOU for collaboration in higher education was signed two years ago and we have now reached a significant landmark as the action plan which outlines how we will work together in future has just been signed by the Education Minister, Jeremy Miles.

We also discussed Vietnam’s leading regional role on addressing climate change and the ambassador subsequently attended a ceremony at COP26 where the Vietnamese prime-minister signed 26 cooperation agreements between ministries, sectors, and businesses that included enhanced cooperation in education.

Also at COP26 are a number of Bangor researchers. With the UN telling us that we have less than 10 years to deal with global warming, I’m proud and delighted that our academics are able to listen to the negotiations, share insights and discuss novel approaches in tackling the vital climate questions with other leading academics, policymakers, and industrialists.

At Bangor we have at least three core environmental health research and impact themes critical to climate change: In Environmental Science - land and health and marine and fisheries - and in Energy and Communication, supply change and resilience.

Among these, the conservation scientist Julia Jones’s perspectives on deforestation and why agreement at COP26 will struggle to reverse global forest loss by 2030 has been published in The Conversation this week and will doubtless be read by influencers around the world, which you can read here.


Best wishes, 

Professor Iwan Davies 

Vice-Chancellor 

NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
NEWS FROM THE UNIVERSITY
Mae Telethon Cronfa Bangor yn ôl!
The Bangor Fund telethon is back!

Ar ôl seibiant oherwydd y pandemig, mae’n wych gallu paratoi ar gyfer ymgyrch Telethon Cronfa Bangor a gynhelir yn yr hydref.

Bydd tîm newydd o fyfyrwyr Bangor yn ffonio detholiad o'n cyn-fyfyrwyr gwych o'r 15fed o Dachwedd yn rhan o ymgyrch sy'n para pedair wythnos. Bydd y myfyrwyr yn sôn wrth y rhai y maen nhw'n siarad â nhw am y Brifysgol heddiw, yn gofyn iddyn nhw am eu hatgofion o Fangor, ac yn darganfod beth fuon nhw’n ei wneud ers graddio. Mae'n hyfryd clywed straeon ein cyn-fyfyrwyr a sut y gwnaeth y Brifysgol effeithio ar eu bywydau. Mi wnaiff y myfyriwr ofyn hefyd am rodd i Gronfa Bangor. Mae'r gronfa'n rhoi cefnogaeth eang i fyfyrwyr heddiw, gan gynnwys offer chwaraeon, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Cliciwch yma i wybod mwy am Gronfa Bangor.

After a pandemic-imposed break, we’re pleased to be preparing for the autumn Bangor Fund Telethon campaign.

A new team of Bangor students will be calling a selection of our wonderful alumni from the 15th of November for a campaign lasting four weeks. The students will be updating those they speak to on today's University, ask them about their memories of Bangor, and find out what they’ve been up to since graduation. We love to hear stories from our alumni and how the University has impacted their lives. The students will also ask for a gift to the Bangor Fund. The fund provides today's students with a wide range of support, including sports equipment, bursaries, and scholarships.

Click here for more information on The Bangor Fund.

Cadwch y Dyddiad Mewn Côf!
Tŷ'r Arglwyddi
Save the Date!

House of Lords

Cyffrous yw cael cyhoeddi y byddwn yn cynnal derbyniad arbennig ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn Nhŷ'r Arglwyddi, Llundain ddydd Llun, 4 Ebrill 2022 rhwng 6:30pm a 8:30pm.
 
Bydd rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i archebu'ch tocynnau ar gael yn fuan, ond yn y cyfamser gwnewch nodyn o’r dyddiad a mawr obeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni!

 

The University is planning to host a special reception for Bangor University alumni at the House of Lords, London on Monday, 4 April 2022 from 6:30pm-8:30pm.

Further details and information about how to book your tickets will be available soon, but in the meantime please save the date and we hope that you will be able to join us!

Dathlu 100 Mlynedd o Gerddoriaeth
Celebrating 100 Years of Music

Mae Prifysgol Bangor yn dathlu 100 Mlynedd o Gerddoriaeth trwy gyfres o ddanteithion cerddorol sy’n arddangos yr ystod eang o gerddoriaeth sydd wedi ei chlywed yn y Brifysgol dros ganrif. Bydd y dathliadau yn cynnwys cyngherddau, perfformiadau a dosbarthiadau meistr ac yn talu teyrnged i’r traddodiad hir o greu cerddoriaeth ym Mangor.

Bydd y rhaglen yn cynnwys perfformiadau gan ensemblau cerddorol proffesiynol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru, fydd ill dau yn perfformio gwaith gyda chysylltiad â Bangor yn eu perfformiadau.


Am ragor o wybodaeth ac am fanylion y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu hyd yn hyn, ewch i'r gwefan arbennig sy’n cynnwys siwrne trwy ganrif o ragoriaeth gerddorol. 

Bangor University is celebrating 100 Years of Music by hosting a series of musical treats to highlight the diversity of sounds over a century. The celebrations will include concerts, performances and masterclasses and pay tribute to the great tradition of music-making at Bangor.

The programme will include performances from professional music ensembles, including the BBC National Orchestra of Wales and the Welsh National Opera, who will both include works by composers associated with Bangor in their performances.


For more information and for details of scheduled events, visit the new dedicated website which includes a journey through a century of musical excellence.

 

Ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol
Inclusive Bangor Scholarships

Mae Ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol wedi eu dyfarnu i dri o raddedigion eithriadol Prifysgol Bangor yn 2021, sef Mae Bernard, Eddie Cox a Thea Moule.

Mae'r ysgoloriaethau (sy'n talu am hyd at £9,500 o ffioedd cwrs) yn cefnogi myfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau ym Mangor. Nod yr ysgoloriaethau yw tynnu sylw at amrywiaeth a chynwysoldeb ein poblogaeth o fyfyrwyr a dathlu hynny, er mwyn sicrhau bod llais a phrofiad myfyrwyr yn rhan o agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ac agenda Athena Swan y Brifysgol ac er mwyn cefnogi datblygiad gyrfa’r myfyrwyr hynny sy’n cyfrannu at y ddwy agenda bwysig hyn.


Darganfod mwy

Inclusive Bangor Scholarships have been awarded to three exceptional Bangor University 2021 graduates – Mae Bernard, Eddie Cox and Thea Moule.

The scholarships (which cover up to £9,500 of course fees) support students who are continuing their studies at Bangor. The aim of the scholarships is to highlight and celebrate the diversity and inclusivity of our student population, to ensure the student voice and experience is embedded in our EDI (Equality, Diversity and Inclusivity) and Athena Swan agendas and to support the career development of our students contributing to these important agendas.


Discover more

Grymuso Arloesi: Cefnogi'r busnes gwych nesaf yng Nghymru
Empower Innovation: Support the
next great Welsh business

Mae busnes yng ngogledd Cymru yn ffynnu. Mae rhai o’r cwmnïau mwyaf blaengar yn y DU bellach wedi gwneud eu cartref ym Mharc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), O Biotech i Seiberddiogelwch i Agritech a llawer mwy, mae llawer o'r cwmnïau hyn eisoes yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Bangor trwy leoliad gwaith a chyfleoedd gyrfa ac yn cael eu rhedeg gan gyn-fyfyrwyr Bangor fel chi. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i rymuso'r arloesedd hwnnw trwy ystyried cefnogi'r cwmnïau cyffrous hyn sy'n tyfu'n gyflym.

Mae Den y Dreigiau yn ddigwyddiad hybrid cyntaf o'i fath ar gyfer gogledd Cymru, sy'n dwyn ynghyd ystod o fusnesau blaengar i gyflwyno cefnogaeth, naill ai'n ariannol neu ar ffurf mentora, gan fuddsoddwyr. A allech chi fod â diddordeb mewn eu cefnogi i gyrraedd y lefel nesaf, neu ddim ond yn chwilfrydig i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd yn y rhanbarth? Ymunwch â ni yn M-SParc neu o ble bynnag yr ydych chi trwy glicio yma i archebu'ch tocyn am ddim!

Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi, i chi yn unig fel cyn-fyfyrwyr Bangor, lansiad rhwydwaith Angelion M-SParc! Cyn bo hir bydd y rhwydwaith yn byw ar yr app MySparc, gan ganiatáu I chi sgrolio trwy fusnesau yn eich meysydd diddordeb. Adeiladu eich rhwydwaith, tyfu eich portffolio a helpu i sicrhau canlyniadau i chi a'ch cleientiaid gyda MySparc.

Nid oes angen i chi fod yn filiwnydd i fuddsoddi trwy'r rhwydwaith Angelion, mae'r cyfle hwn i bawb. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch, heb unrhyw rwymedigaeth, yma.

Business in north Wales is booming. Some of the most cutting-edge companies in the UK have now made their home at Bangor University’s Menai Science Park (M-SParc), From Biotech to Cyber Security to Agritech and much more. Many of these companies are also already offering opportunities for Bangor University students and graduates via work placement and career opportunities! In fact, some of these businesses are run by Bangor Alumni like yourselves. We’re inviting you to join us in empowering that innovation by considering supporting these rapidly-growing and exciting companies.   

Den y Dreigiau is a first-of-its-kind hybrid event for north Wales, bringing together a range of cutting-edge businesses to pitch for support, either financial or in the form of mentoring, from investors. Could you be interested in supporting them to reach the next level, or just curious to learn more about what goes on in the region? Join us at M-SParc or virtually from wherever you are by clicking here to book your free ticket!  

Your chance to support the best of north Wales’ businesses doesn’t stop there though, as we’re excited to announce, exclusively to you as Bangor Alumni, the launch of the M-SParc Angel network! The network will soon live on the MySparc app, allowing you to scroll through businesses in your areas of interest. Build your network, grow your portfolio and help deliver results for you and your clients with MySparc.

You don’t need to be a millionaire to invest through the Angel network, this opportunity is for everyone. Find out more and sign up, with no obligation, here.

Cynllun i fyfyrwyr yn ennill gwobr mentergarwch trwy'r DU
Student scheme
wins UK
Enterprise Award

 

Mae rhaglen sy’n canolbwyntio ar roi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Bangor ddefnyddio dull aml-ddysgybledig ar fentergarwch a chreadigrwydd, gan gydweithio â diwydiant, wedi cael ei hadnabod ymysg y gorau yn y DU.

Mae rhaglen Mentergarwch Trwy Ddylunio wedi ei enwi’n enillydd y wobr catalydd mentergarwch yng ngwobrau’r National Enterprise Educator Awards 2021.

Cafodd y wobr ei chyflwyno am effaith gref y rhaglen ar fyfyrwyr a datblygiad rhanbarthol ers i’r cynllun ddechrau yn 2010, gyda 72% o’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn adnabod cynnydd yn eu sgiliau mentergarwch.

Darganfod mwy

A programme focused on giving Bangor University students an interdisciplinary approach to enterprise and creativity alongside industry has been recognised as one of the top initiatives in the UK.

Bangor’s Enterprise by Design programme has been named the winner of the enterprise catalyst award at the 2021 National Enterprise Educator Awards. 

The prize was awarded on the strength of the programme’s impact on both students and regional development since its inception in 2010, with 72 per cent of all students who have taken part in the programme identifying an increase in their entrepreneurial skills.

Discover more

Labordy Cenedlaethol ar gyfer Ymholltiad Niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol
National Lab
for Nuclear Fission
to fund
doctoral
researchers

 

Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi cyhoeddi eu bod am noddi dau fyfyriwr PhD yn y Brifysgol.

Hefyd, mae eu huwch arweinydd technegol, Dave Goddard, i fod yn athro gwadd mewn tanwydd niwclear yn y Brifysgol.

Yn ogystal, y mae’n cynyddu cyllid ar gyfer ymchwil a datblygiad niwclear ym Mhrifysgol Bangor o dan Raglen Cylchred Tanwydd Ddatblygedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
 

The UK’s National Nuclear Laboratory (NNL) is to sponsor two PhD students at Bangor University.

In addition, NNL’s senior technical lead, Dave Goddard, is to be a visiting professor of nuclear fuels at the University.

The NNL is also increasing funding for nuclear research and development at Bangor University under the Department for Business, Energy and Industrial Strategy’s Advanced Fuel Cycle Project. 

Discover more

Sefydliadau wedi ymuno i dargedu adferiad a thwf ar ôl
y pandemig
Institutional link to target recovery and growth
post-pandemic

Bydd Coleg Cambria a Phrifysgol Bangor yn gweithio’n agos i ddatblygu llwybrau strategol newydd a chefnogi cyflogwyr wrth iddynt ail-adeiladu yn dilyn cyfnod heriol i bob diwydiant. 

Gwnaeth Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria ac Iwan Davies, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, gyhoeddi’r bartneriaeth yn ystod agoriad ffurfiol adeilad Hafod ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam. Gwnaeth Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ymuno â’r digwyddiad.

Ymhlith y prosiectau cydweithredol a gynigwyd gan Cambria a Bangor mae ‘Ffatri Sgiliau’ yng Nglannau Dyfrdwy, gyda chefnogaeth cyllid cychwynnol gan Gronfa Adfer a Buddsoddi mewn Addysg Uwch gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Gyda'i gilydd byddant yn pontio’r bwlch rhwng addysg uwch ac addysg bellach ac yn ymgysylltu â sawl maes ar gyfer ymchwil, arloesi ac ymgysylltu busnes.


Darganfod mwy.

 

Coleg Cambria and Bangor University will be working closely to develop new strategic pathways and support employers as they build back after a challenging period for all industries. 

Cambria’s Chief Executive Yana Williams and Vice-Chancellor of Bangor University, Professor Iwan Davies, announced the partnership at the formal opening of the college’s Hafod building at Yale in Wrexham, where they were joined by Jeremy Miles MS, Minister for Education and Welsh Language.

Among the collaborative projects proposed by Cambria and Bangor is a ‘Skills Factory’ in Deeside, with initial funding support from the HEFCW (Higher Education Funding Council for Wales) HEIR fund.

Together they will bridge the gap between higher and further education and engage with multiple arenas on research, innovation and business engagement.


Discover more.

Gwelwch ein wefan am fwy o newyddion o'r Brifysgol.

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu unrhyw beth yr hoffech weld ei gynnwys yn rhifynnau'r dyfodol, cysylltwch ar alumni@bangor.ac.uk
See our website for more news from the University.

If you have any comments or anything that you would like to see featured in future editions, please get in touch at alumni@bangor.ac.uk


 
https://twitter.com/BangorUni
https://www.facebook.com/groups/bangoralumni
https://www.bangor.ac.uk/alumni
alumni@bangor.ac.uk
Diweddaru eich cyfeiriad e-bost / Update your email address

Mae croeso i chi gysylltu gyda'r Brifysgol yn Gymraeg neu Saesneg
You are welcome to contact the University in Welsh or English

Prifysgol Bangor University, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
Elusen Gofrestredig / Registered Charity No.  1141565
Daw'r e-bost hwn dan delerau ac amodau ymwrthodiad
Prifysgol Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwrthodiad yma
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here

Unsubscribe from alumni communications