Yn gynharach y mis hwn lansiwyd y fideo 'Dewch i brofi’r hud a’r lledrith’ ar y teledu, ar wefan y brifysgol ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Fel cyn-fyfyrwyr, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod gan y brifysgol gymaint i'w gynnig, nid yn unig i ddarpar fyfyrwyr, ond i bartneriaid, busnesau, rhoddwyr, cydweithredwyr a chyllidwyr. Mae arnom eisiau rhannu gwaith y brifysgol gyda'r grwpiau hyn mewn modd sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i arwain ym maes ymchwil, profiad myfyrwyr ac addysgu a dysgu trawsnewidiol.
Felly, am y tro cyntaf erioed, rydym wedi cynhyrchu ymgyrch hysbysebu newydd i Brifysgol Bangor sydd wedi ymddangos ar deledu daearol yng Nghymru (yn Gymraeg), ar HTV West a Central West (yn Saesneg) gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am frand y brifysgol. Caiff yr hysbyseb Saesneg ei leisio gan y naturiaethwr, y fforiwr a’r cyflwynydd teledu poblogaidd, a darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, Steve Backshall, gyda Nia Roberts, un o’r wynebau mwyaf adnabyddus ar S4C a chymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, yn lleisio'r hysbyseb Gymraeg. Mae'r project hwn yn ychwanegol at ein partneriaeth â drama S4C yr hydref hwn sy’n rhoi cyflwyniad byr i raglenni drama poblogaidd.
Mae’r hysbyseb yn dangos golygfeydd godidog trwy lens sinematig sydd wir yn dangos y gorau sydd gan ogledd Cymru i'w gynnig. Gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn ein gosod ar wahân i’n cystadleuwyr, gan adael argraff barhaol ar gynulleidfaoedd. Yn sicr, bu’n gryn hwb i weithgarwch diwrnodau agored yr hydref wrth i ddigwyddiad mis Tachwedd ddenu mwy o ddarpar fyfyrwyr i'r campws nag erioed o'r blaen.
Edrychaf ymlaen at rannu cam nesaf yr ymgyrch gyda chi pan gaiff ei lansio yn chwarter cyntaf 2022.
Dymuniadau gorau,
Yr Athro Iwan Davies
Is-ganghellor
Dear <<First Name>>,
Earlier this month we launched our 'Experience Magical Bangor' video on television, the University website and across our social media outlets.
As alumni, I'm sure that you would agree that the University has so much to offer, not only to prospective students, but partners, businesses, donors, collaborators, and funders. We want to share the work of the University with these groups in a manner that reflects our commitment to leading in research, student experience and transformative teaching and learning.
So, for the first time, we have produced a new Bangor University advertising campaign which has aired on terrestrial television in Wales (Welsh narrated), HTV West and Central West (English narrated) with the primary objective of raising awareness of the University brand. The English ad is voiced by the popular naturalist, explorer, television presenter and Bangor University honorary lecturer, Steve Backshall, with Nia Roberts, one of the best-known faces on S4C and Bangor University honorary fellow, voicing the Welsh ad. This project follows, and is in addition to, our partnership this autumn with S4C drama which sees a short introduction to popular drama programmes.
The adverts show our epic landscape captured through a cinematic lens that really shows off the best North Wales has to offer. This campaign will hopefully set us apart from our competitors, leaving a lasting impression on audiences. It certainly supported our autumn open day activity with November’s weekend event attracting more prospective students to campus than ever before in our history.
I look forward to sharing the next phase of the campaign with you when it is launched in the first quarter of 2022.
Best wishes,
Professor Iwan Davies
Vice-Chancellor
NEWYDDION O'R BRIFYSGOL
NEWS FROM THE UNIVERSITY
Alumni yn ennill wobr BAFTA Cymru
Alumni scoop BAFTA Cymru award
Mae crewyr ffilm am ddyn a gafwyd yn euog o blannu dyfais ffrwydrol ar safle cronfa ddŵr Tryweryn wedi dweud eu bod “ar ben eu digon” o fod wedi ennill gwobr BAFTA Cymru.
Cafodd The Welshman, rhaglen ddogfen am fywyd Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru, ei chreu gan ddau o raddedigion Prifysgol Bangor, y cyfarwyddwr Lindsay Walker a’r cynhyrchydd Enlli Fychan Owain. Enillodd y ffilm yn y categori Ffilm Fer.
The creators of a film about a man convicted for planting an explosive device on the site of the Tryweryn reservoir have said that they are “over the moon” to have picked up a BAFTA Cymru award.
The Welshman, a documentary about the life of Owain Williams, one of the founders of Mudiad Amddiffyn Cymru (the Movement for the Defence of Wales), was created by two Bangor graduates, director Lindsay Walker and producer Enlli Fychan Owain. The film won in the Short Film category.
University contributing to global research programme
Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor ymysg gwyddonwyr cefnfor a charbon glas o'r radd flaenaf sy'n cyfrannu at bartneriaeth gwerth miliynau o ddoleri a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng y grŵp yswiriant, Convex Group Limited (Convex), y Blue Marine Foundation (BLUE), elusen sydd wedi ymrwymo i adfer iechyd y cefnfor, a Phrifysgol Caerwysg.
Y rhaglen bum mlynedd uchelgeisiol hon yw'r ymgais fwyaf hyd yma i adeiladu gwell dealltwriaeth o briodweddau a galluoedd y cefnfor a'i silffoedd cyfandirol yng nghylchred garbon y ddaear. Mae'n cynrychioli ymdrech ar frys i arafu newid yn yr hinsawdd.
Bangor University researchers are among world-class ocean and blue carbon scientists contributing to a newly announced multi-million-dollar partnership between the insurance group, Convex Group Limited (Convex), the Blue Marine Foundation (BLUE), a charity dedicated to restoring the ocean to health, the University of Exeter.
The ambitious five-year programme is the largest attempt yet to build a greater understanding of the properties and capabilities of the ocean and its continental shelves in the earth’s carbon cycle. It represents an urgent effort to slow climate change.
Mae Prifysgol Bangor yn falch i adrodd bod y rhan fwyaf o gerbydau o fewn fflyd Gwasanaethau Eiddo a Champws y Brifysgol wedi cael eu newid i gerbydau drydan.
Gwnaed hyn yn bosibl drwy gais llwyddiannus gan y Gwasanaethau Campws am gyllid Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Talodd hyn am bedwar o’r cerbydau trydan. Yn ogystal, defnyddiwyd Cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i brynu chwe cherbyd ychwanegol.
Mae newid y fflyd i fod yn un trydan yn cyfrannu at uchelgais y Brifysgol i fod yn brifysgol gynaliadwy ac yn cyfrannu ymhellach at nod ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Bangor University is pleased to report that the majority of the University’s Property and Campus Services vehicles have been changed over to electric.
Four vehicles were funded by a successful bid for Circular Economy funding from Welsh Government made by the University’s Campus Services, who own most of the University’s Fleet. A further six electric vehicles were purchased with funding from the Higher Education Funding Council for Wales.
Changing the fleet over to electric contributes to the University’s ambitions to be a sustainable University and to contribute further to the goals and objectives of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015.
Cyn bo hir, bydd alumnus Emyr Wynne Jones yn dychwelyd i Fangor i berfformio yn y cyngerdd 'Gerontius’, a gynlluniwyd fel rhan o'r dathliadau #Cerddoriaeth100.
Yma, mae Emyr yn edrych yn ôl ar ei brofiadau cerddorol fel myfyriwr TAR ym Mangor ym 1978.
Bangor Alumnus, Emyr Wynne Jones, will soon return to Bangor to perform in the 'Gerontius’ concert, planned as part of the #Music100 celebrations.
Here, he reflects on his musical experiences as a PGCE student in Bangor in 1978.
Delweddu'r 'hunanbortreadau' sydd gennym yn ein meddyliau
Visualising mental 'self-portraits'
we hold in
our minds
Mae gwyddonwyr yn dangos y gall ein hunan-barch a’n credoau am ein personoliaethau effeithio ar ein 'hunluniau meddyliol'. Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Llundain yw'r cyntaf i ddatblygu dull o ddelweddu'r 'hunanbortreadau' meddyliol hyn sydd gennym ni yn ein meddyliau.
Scientists show that our ‘mental selfies’ can be affected by our beliefs about our personalities and our self-esteem. Psychologists at Bangor University and the University of London are the first to develop a method of visualising mental ‘self-portraits’ we hold in our minds.
Lansio podlediad Cymraeg newydd ym maes plentyndod ac ieuenctid
Welsh podcast
series about childhood and youth launched
Mae Prifysgol Bangor wedi rhyddhau’r bodlediad cyntaf mewn cyfres arloesol fydd yn trafod y maes plentyndod ac ieuenctid.
Yn dilyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r gyfres o bodlediadau o dan arweiniad yr Ysgol Gwyddorau Addysgol ym Mhrifysgol Bangor, yn cynnal trafodaeth ar y materion sydd yn effeithio ar blentyndod yng Nghymru heddiw. Bydd y gyfres yn ystyried materion cymdeithasol, seicolegol, addysgol, a chorfforol, gyda’r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc i fynd ymlaen i astudio'r maes mewn addysg uwch a darparu gweithlu dwyieithog y dyfodol ar gyfer y maes plant.
The first podcast in an innovative series which discusses childhood and youth has been released by Bangor University.
Following a grant from Coleg Cymraeg Cenedlaethol the podcast series led by the School of Educational Sciences at Bangor University, hosts various discussions on the issues affecting childhood in Wales today. The series considers social, psychological, educational, and physical issues, with the aim of engaging young people to go on to study the discipline in higher education and eventually be part of the bilingual workforce of the future.
Athro yn cael ei hanrhydeddu am ei cyfraniad i ymchwil seicoleg
Professor honoured for contribution to psychology
research
Mae’r Athro Michaela Swales o Ysgol y Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr ymchwil am ei cyfraniad arbennig at ymchwil ym maes DBT, Dialectical Behaviour Therapy neu Therapi Ymddygiad Dilechdidol.
Cafodd y wobr ei gyflwyno i Michaela, sy’n Gyfarwyddwr Rhaglen Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru, fel rhan o gynhadledd ar-lein y sefydliad International Society for Improvement and Teaching of DBT, sydd a’i phencadlys yn UDA.
Professor Michaela Swales from the School of Human and Behavioural Sciences at Bangor University has received a top research award for her outstanding contribution to research on DBT, Dialectical Behaviour Therapy.
The award, presented by the International Society for Improvement and Teaching of DBT, was presented to Michaela, who is Programme Director of the North Wales Clinical Psychology Programme, as part of the US- based organisation’s online conference.
Mae croeso i chi gysylltu gyda'r Brifysgol yn Gymraeg neu Saesneg
You are welcome to contact the University in Welsh or English
Prifysgol Bangor University, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565
Daw'r e-bost hwn dan delerau ac amodau ymwrthodiad
Prifysgol Bangor. Gellir darllen testun llawn yr ymwrthodiad yma
This email is subject to the terms and conditions of the Bangor University
email disclaimer. The full text of the disclaimer can be read here