1.1 Cefndir

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein tirweddau ac yn gofnod gwerthfawr o newid cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae llawer ohonynt yn cynnig gwerth cadwraeth eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal â chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd. Fel ffynhonnell bleser a dysgu, a rhwydwaith gwerthfawr o fannau gwyrdd, mae gan ein parciau a’n gerddi hanesyddol gyfraniad pwysig i’w wneud wrth greu Cymru sy’n fwy iach a gwyrdd.

Mae parciau a gerddi hanesyddol yn adnodd bregus a chyfyngedig a gallant gael eu difrodi neu eu colli’n hawdd. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’u harwyddocâd ac annog y rhai sy’n gyfrifol am eu rheoli i’w trin fel lleoedd gwerthfawr ac unigryw. Diolch i’w gofal a’u hymrwymiad i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn, byddwn yn gallu mwynhau’r parciau a gerddi hanesyddol o ddiddordeb hanesyddol arbennig nawr ac yn y dyfodol.

Mae cofrestru’n nodi safleoedd sydd o ddiddordeb hanesyddol arbennig i Gymru. Lluniwyd y Gofrestr er mwyn cynorthwyo cadwraeth wybodus mewn parciau a gerddi hanesyddol gan berchenogion, awdurdodau cynllunio lleol, datblygwyr, cyrff statudol a phawb sy’n ymwneud â hwy. Mae Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i Weinidogion Cymru, drwy Cadw, lunio a chynnal cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru. Mae safleoedd ar y Gofrestr statudol yn parhau i fod yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o reoli datblygiad.

1.2 Amlder Diweddaru

Er bod y broses o ddynodi parciau a gerddi’n un barhaus, nid yw’r set ddata gyfredol wedi newid ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, er mwyn osgoi ailddefnyddio hen ddata, dylai defnyddwyr gael y fersiwn ddiweddaraf o dro i dro.

1.3 Darluniadau

Tynnwyd y darluniau GIS o'r mapiau sylfaen Arolwg Ordnans mwyaf cywir a oedd ar gael ar adeg eu creu. Ymhlith y ffynonellau ychwanegol i lywio'r darluniau mae ffotograffau hanesyddol o’r awyr a mapiau hanesyddol Landmark.

Mae’r saethau golygfa arwyddocaol yn cynrychioli cyfeiriad yn hytrach nag ehangder yr olygfa.

Mae’r saethau golygfa arwyddocaol yn cynrychioli cyfeiriad yn hytrach nag ehangder yr olygfa.

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data hwn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data’n addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data’n arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael ei ddehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data ei wirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -

Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored  http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae rhagor o wybodaeth am Barciau a Gerddi i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -

Deall parciau a gerddi hanesyddol cofrestredig | Cadw (llyw.cymru)

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -

Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru)

Cyngor Cyffredinol

Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle bo angen. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei gwirio o bryd i’w gilydd, fodd bynnag, os hoffech chi drafod y set ddata, cysylltwch â Gwasanaeth yr Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (3)

Lawrlwytho data gofodol
  • Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig: Gardd/Gardd Lysiau

    1.1 Cefndir

    Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein …

  • Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig: Olygfa Arwyddocaol

    1.1 Cefndir

    Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein …

  • Parciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig: Ardaloedd Gofrestredig

    1.1 Cefndir

    Mae parciau a gerddi hanesyddol yn rhan o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Maent yn cyfoethogi gwead a phatrwm ein …

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn