Neidio i'r cynnwys

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw’r dull swyddogol gan Lywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n canfod ardaloedd sydd â’r crynoadau uchaf o fathau gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn gosod yr holl ardaloedd bach yng Nghymru mewn safleoedd rhwng 1 (mwyaf difreintiedig) a 1,909 (lleiaf difreintiedig). Mae’n dod o dan faner Ystadegau Gwladol, ac yn cael ei baratoi gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Mae ardaloedd bach yn cyfeirio at ddaearyddiaethau’r Cyfrifiad o'r enw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau).
Caiff y mynegai llawn ei ddiweddaru bob 4 i 5 mlynedd. Cafodd y mynegai diweddaraf ei gyhoeddi yn 2019. Gellir gweld y mynegai a safleoedd y meysydd ar y tab MALlC 2019.

Mae nifer o ddangosyddion yn bwydo fewn i MALlC. Caiff rhai o’r rhain eu diweddaru yn flynyddol (lle’n bosib), rhai yn achlysurol, rhai ar gyfer prif ddiweddariad MALlC yn unig a rhai pan fydd data’r cyfrifiad ar gael yn unig. Gallwch weld data’r dangosyddion ar lefelau daearyddol amrywiol yn y tab data dangosyddion.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am MALlC ar wefan Llywodraeth Cymru (gweler dolenni isod).

I rheini sydd â diddordeb penodol mewn mesurau amddifadedd ardal leol ledled Cymru a Lloegr, gweler yr allbwn 'Mynegeion Amddifadedd 2019: meysydd incwm a chyflogaeth wedi'u cyfuno ar gyfer Cymru a Lloegr' (o dan ddolenni isod).

Gwybodaeth geo-ofodol ar MALlC 2019 a MALlC 2014, gan gynnwys ffeiliau siâp, i'w gweld ar Fap Data Cymru (gweler y ddolen isod).

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, ebostiwch: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru