3:00 y.p. - 4:30 y.p., Dydd Mercher 8 Mehefin 2022
Dydd Mercher, 8fed Mehefin, 3:00yp-4:30yp
Ymunwch â ni yn y sesiwn ar-lein fyw hon sy’n canolbwyntio ar gyhoeddi academaidd a mynediad agored. Yn ystod y sesiwn hon, bydd Dr Charalampos Efstathopoulos (golygydd cyfnodolyn), Joey Soehardjojo (un o gyn-Gymrodyr Ôl-ddoethurol Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC), Dr Lizzie Brophy (Cyhoeddwr, WILEY) a Helen Sharp (Swyddog Cyhoeddi, Tîm Mynediad Agored Prifysgol Caerdydd) yn sôn am ysgrifennu erthygl a sut i’w chyhoeddi. Byddant hefyd yn rhoi gwybod sut i ddod o hyd i gyfnodolyn, yn esbonio’r broses adolygu gan gymheiriaid ac yn rhoi gwybodaeth am Fynediad Agored. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’r panel o arbenigwyr.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob myfyriwr sy’n cael ei ariannu gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn drwy Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/academic-publishing-and-open-access-for-pgrs-tickets-342592973807