Cymerwch ran yn ein her newydd a chyffrous

Y mis Medi hwn, rydym yn eich herio i nofio, trochi neu blymio i'r dŵr 21 o weithiau i nodi 21 mlynedd o'n gwasanaeth sy'n achub bywydau!

Her rithwir yw Sblash 21, sy'n golygu y gallwch gymryd rhan yn unrhyw le, unrhyw bryd! P'un a fyddwch yn nofio, yn cael cawod oer, yn syrffio, neu'n eistedd mewn twba twym, byddwch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Gallwch gymryd rhan AM DDIM ond rydym yn eich annog i godi arian yn ystod eich her. Os byddwch yn codi £100, byddwch yn cael cap nofio pwrpasol Ambiwlans Awyr Cymru.


Sut y gallaf gymryd rhan?

Cwblhewch y ffurflen hon drwy Facebook i gofrestru i gymryd rhan – mae'n hawdd ac yn gyflym, a gallwch greu tudalen codi arian yn syth.

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch hefyd ymuno â Splash 21 – ein grŵp Facebook, lle y gallwch rannu sut y byddwch yn cwblhau'r her a chael diweddariadau gan gyfranogwyr eraill.

Cofrestrwch heddiw

Os nad oes gennych gyfrif Facebook, gallwch gymryd rhan o hyd.

Yn syml, gallwch greu tudalen Just Giving drwy'r ddolen hon i ddechrau eich her codi arian (byddwch yn dal i gael cap nofio os byddwch yn codi £100).


Diogelwch Dŵr

Rydym yn annog pob cyfranogwr i ymgyfarwyddo â chanllawiau ar ddiogelwch dŵr cyn cymryd rhan yn yr her.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar ddiogelwch ar gyfer gweithgareddau dŵr ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) yn ogystal â chanllawiau cyffredinol y sefydliad ar ddiogelwch dŵr yma.