Ymgeiswyr Preifat

Ymgeiswyr preifat yw ymgeiswyr sy'n dilyn cwrs astudio yn annibynnol ond sy'n sefyll arholiad ac/neu asesiad yn un o ganolfannau arholiadau cymeradwy CBAC (ysgol neu goleg). Mae ymgeiswyr preifat yn gyfrifol am wneud trefniadau priodol ag ysgol neu goleg sy'n barod i:

 

(a) cynnal yr arholiad yn y modd angenrheidiol;

(b) cynnal, goruchwylio, marcio a dilysu unrhyw unedau/cydrannau di-arholiad

 

Dylai ymgeiswyr preifat ddod o hyd i ysgol/coleg cyn iddyn nhw ddechrau ar eu hastudiaethau. Dim ond cofrestriadau gan ymgeiswyr sydd eisoes wedi dod i drefniant y gallwn ni eu derbyn.

 

Mae'r CGC wedi cyhoeddi rhestr o ganolfannau a fydd yn derbyn ymgeiswyr preifat ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch. Fodd bynnag, gallwch weithio gydag unrhyw ganolfan sy'n derbyn cofrestriadau ymgeiswyr preifat, nid oes rhaid iddynt fod ar y rhestr. Os ydych yn cael anhawster dod o hyd i ysgol/coleg yn eich ardal, byddem yn eich cynghori i gysylltu â'ch Awdurdod Addysg Lleol am gyngor.

 

Mae gwybodaeth bellach ynghylch gweithdrefnau ar gyfer ymgeiswyr preifat ar gael yn y llyfryn hwn.

 

Gall ymgeiswyr preifat gael mynediad at gyn-bapurau arholiad a chynlluniau marcio ar dudalen we pob cymhwyster. Os nad yw’r papur a’r cynllun marcio diweddaraf wedi’u cyhoeddi, cysylltwch â’ch canolfan gofrestru i ofyn a ydyn nhw’n gallu rhoi’r papur a’r cynllun marcio diweddaraf i chi er mwyn eich helpu i adolygu. Os nad yw eich canolfan gofrestru yn gallu rhoi’r papur i chi, anfonwch neges e-bost at ymgeiswyrpreifat@cbac.co.uk.

 


 

Cyfres Haf 2023

 

Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer holl gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch (ar wahân i ar wahân i gymwysterau Celf a Dylunio) a fydd yn cael eu hasesu yn ystod cyfres yr haf. Mae'r Wybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer pob cymhwyster i'w chael ar dudalen pwnc perthnasol y wefan.

 

Bwriad y Wybodaeth Ymlaen Llaw yw rhoi gwybod, cyn yr arholiadau, beth fydd ffocws cynnwys yr arholiadau, neu ran o'r arholiadau, fydd yn cael ei asesu yn 2022. Pwrpas gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt adolygu.

 


 

Cyfres Ionawr 2023

 

Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer y cymwysterau canlynol a fydd yn cael eu hasesu yn ystod cyfres Ionawr 2023:

Bwriad y wybodaeth ymlaen llaw yw rhoi gwybod, cyn yr arholiadau, beth fydd ffocws cynnwys yr arholiadau, neu ran o'r arholiadau, fydd yn cael ei asesu yn Ionawr 2023. Pwrpas gwybodaeth ymlaen llaw yw cefnogi'r myfyrwyr wrth iddynt adolygu.