Skip to content
cyt-logo-centre-eng

Arferion gwrth-hiliol ym maes diogelu plant

Nod yr adnoddau hyn yw hyrwyddo a chefnogi arferion gwrth-hiliol ym maes diogelu plant. 

Fel yn achos pob un o ddeunyddiau ‘gwirio eich ffordd o feddwl’, cafodd yr adnoddau hyn eu datblygu ar y cyd a’u hanelu at ofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. Maen nhw’n rhoi’r cyfle ichi ystyried eich ffordd o feddwl am hiliaeth, stereoteipiau a rhagdybiaethau hiliol, beth mae’n ei olygu i fod yn wrth-hiliol, ac i’ch helpu chi i feddwl am yr hyn y gallwch chi ei wneud i newid a hyrwyddo’r ffordd hon o feddwl.  

Cardiau ‘Ystyried eich ffordd o feddwl’

Beth yw eich dealltwriaeth o hiliaeth?

Sut mae hiliaeth yn effeithio’n uniongyrchol ar y plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd rydych chi’n eu cynorthwyo?

Beth yw ystyr bod yn wrth-hiliol?

Pa gamau gallwch chi ymrwymo iddyn nhw nawr? 

Crëwyd y set hon o gardiau A5 i’ch helpu i feddwl am hil, hiliaeth a gwrth-hiliaeth. Eu nod yw hyrwyddo ffordd o feddwl yn wrth-hiliol yn eich ymarfer ac sy’n rhoi’r adnoddau ichi ymateb mewn ffordd gefnogol a chymesur ac er lles gorau plant, pobl ifanc a theuluoedd. 

Arferion gwrth-hiliol ym maes diogelu plant

Beth yw eich dealltwriaeth o hiliaeth? Sut gallwch chi fynegi eich ymrwymiad personol i arferion gwrth-hiliol yn eich bywyd bob dydd? Mae’r fideo byr hwn yn eich gwahodd i ystyried eich barn a’ch rhagdybiaethau synnwyr cyffredin, ac i fyfyrio ar y pethau y gallwch chi eu gwneud i fod yn wrth-hiliol, a hynny o ran eich bywyd bob dydd a diogelu pobl ifanc. 

Canllawiau ychwanegol

 Am ragor o ddarllen ac arweiniad gallwch chi lawrlwytho’r adnodd ychwanegol hwn.

Ynglŷn â’r deunyddiau

Jahnine Davis o ymchwil Listen Up a Dr Sophie Hallett o Brifysgol Caerdydd ddatblygodd y deunyddiau hyn. Ariannwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru a chafodd gefnogaeth yr unigolion canlynol a oedd yn rhan o’n grŵp o randdeiliaid:

  • Abyd Quinn-Aziz: Cardiff University
  • Esyllt Crozier: Social Care Wales
  • Fateha Ahmed and Rocio Cifuentes: EYST
  • Millie Kerr: Brighton and Hove
  • Mutale and Sam Samsunear – Bawso
  • Sarah Austin: Social Services and Integration
  • Siobhan Parry: Platform
  • Rhiannon Jones and Trudy Aspinwall: TGP Cymru
  • Sam Clutton: Welsh Government