Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Beth sydd ar gael

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.


Benthyciad Ffïoedd Dysgu

Gallech gael hyd at £9,250 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio. Nid yw’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref.

Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ei ad-dalu, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help gyda chostau byw

Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r man lle’r ydych yn byw ac yn astudio.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:

2024 i 2025

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,430 £6,885
£25,000 £4,385 £5,930
£35,000 £5,827 £4,488
£45,000 £7,268 £3,047
£59,200 a thro £9,315 £1,000
Cyfanswm £10,315

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £4,050 £8,100
£25,000 £5,203 £6,947
£35,000 £6,942 £5,208
£45,000 £8,681 £3,469
£59,200 a thro £11,150 £1,000
Cyfanswm £12,150

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £5,046 £10,124
£25,000 £6,527 £8,643
£35,000 £8,762 £6,408
£45,000 £10,966 £4,174
£59,200 a thro £14,170 £1,000
Cyfanswm £15,170

 

2023 i 2024

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,065 £6,885
£25,000 £4,020 £5,930
£35,000 £5,462 £4,488
£45,000 £6,903 £3,047
£59,200 a thro £8,950 £1,000
Cyfanswm £9,950

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,620 £8,100
£25,000 £4,773 £6,947
£35,000 £6,512 £5,208
£45,000 £8,251 £3,469
£59,200 a thro £10,720 £1,000
Cyfanswm £11,720

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £4,511 £10,124
£25,000 £5,992 £8,643
£35,000 £8,227 £6,408
£45,000 £10,461 £4,174
£59,200 a thro £13,635 £1,000
Cyfanswm £14,635

 

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl a fydd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.

Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael cyfradd is o Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth oherwydd bod tymor olaf eu cwrs yn fyrrach.

Os nad ydych mewn cysylltiad â’ch rhieni neu os ydych wedi derbyn gofal am gyfnod, mae’n bosibl na fydd angen i chi ddarparu manylion am incwm eich rhieni pan fyddwch yn gwneud cais. Ewch i'n tudalen ar gyfer Myfyrwyr Annibynnol i gael gwybod mwy.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl

 

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:

 

Os ydych yn astudio dramor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Grant Teithio.

 

Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.

 

Os yw eich cwrs yn hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod

Gallwch gael ychwanegiad at eich Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer pob wythnos er mwyn helpu gyda’ch costau byw:

  2024 i 2025 2023 i 2024
Yn byw gyda’ch rhieni £94 £93
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain £142 £141
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain £181 £179

I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn cael cyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref.

Byddwn yn dyfarnu’r swm ychwanegol o gyllid yn awtomatig yn seiliedig ar fanylion y cwrs a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg. Bydd eich hawl yn cynnwys y Benthyciad Cyrsiau Hir fel rhan o'ch cymorth costau byw wedi'i asesu ar sail incwm.