Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Cyrsiau doethuriaeth ôl-raddedig

Beth sydd ar gael

Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig

Gallech gael benthyciad i helpu gyda chostau eich cwrs. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Gallwch fenthyca hyd at:

  • £28,395 os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst 2023 a 31 Gorffennaf 2024
  • £27,880 os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2023

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor. Bydd eich arian yn cael ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn o'ch cwrs.

Er enghraifft, os oeddech yn cael £28,395 ac yn astudio am 3 blynedd, byddech yn cael tua £9,465 y flwyddyn mewn 3 rhandaliad o tua £3,155 bob tymor.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais am eich Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig, hyd yn oed os yw'ch cwrs yn para mwy na blwyddyn. Os byddwch yn gwneud cais am eich benthyciad ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn derbyn yr uchafswm. Mae cyllid ar gyfer un flwyddyn academaidd wedi’i gapio ar £14,195 ar gyfer myfyrwyr cymwys sy’n dechrau cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2023.

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mlwyddyn un, byddech yn derbyn yr uchafswm:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£9,465

Blwyddyn 2

£9,465

Blwyddyn 3

£9,465

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mlwyddyn dau, ni fyddech yn derbyn yr uchafswm:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£0

Blwyddyn 2

£14,195

Blwyddyn 3

£14,195

Os gwnaethoch gais am eich cyllid ym mlwyddyn tri, ni fyddech yn derbyn yr uchafswm:

Blwyddyn eich cwrs Eich taliadau

Blwyddyn 1

£0

Blwyddyn 2

£0

Blwyddyn 3

£14,195

Fel rheol, bydd eich rhandaliadau terfynol ym mhob blwyddyn academaidd ychydig yn fwy na’ch rhandaliadau eraill.

Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyca, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help ychwanegol

Os ydych yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o Gymru ac os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor, Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

 

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl