Beth sydd ar gael
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar ôl 1 Medi 2019. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.
Gallech gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda chostau eich cwrs. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Dyma uchafswm y cyllid sydd ar gael:
- £18,770 ar gyfer 2023 i 2024
- £18,430 ar gyfer 2022 i 2023
Blwyddyn academaidd 2023 i 2024
Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael, ar sail enghreifftiau o incwm y cartref:
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
---|---|---|
£18,370 ac o dan | £11,885 | £6,885 |
£25,000 | £12,840 | £5,930 |
£35,000 | £14,282 | £4,488 |
£45,000 | £15,723 | £3,047 |
£59,200 a thro | £17,770 | £1,000 |
Blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael, ar sail enghreifftiau o incwm y cartref:
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£18,370 ac o dan | £11,545 | £6,885 |
£25,000 | £12,500 | £5,930 |
£35,000 | £13,942 | £4,488 |
£45,000 | £15,383 | £3,047 |
£59,200 a thro | £17,430 | £1,000 |
At ddibenion esboniadol yn unig y mae’r ffigurau yn y tablau.
Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, unwaith ar ddechrau pob tymor fel rheol. Os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob un o flynyddoedd eich cwrs.
Er enghraifft, pe baech yn cael £18,770 ac yn astudio am 2 flynedd, byddech yn cael oddeutu £9,385 bob blwyddyn mewn 3 rhandaliad o oddeutu £3,128 bob tymor. Fel rheol, bydd eich rhandaliadau terfynol ym mhob blwyddyn academaidd ychydig yn fwy na’ch rhandaliadau eraill.
Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyca, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.
Help ychwanegol
Os ydych yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o Gymru ac os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor, Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl