Digital transformation: Wales Data Nation Accelerator (WDNA)

Digital transformation: Wales Data Nation Accelerator (WDNA)

This event will run in a hybrid format welcoming delegates physically in person and virtually online.

By Cardiff University

Date and time

Thu, 26 May 2022 13:15 - 17:00 GMT+1

Location

4th Floor, The Centre for Student Life

Park Place Cardiff CF10 3AT United Kingdom

About this event

Digital transformation: Wales Data Nation Accelerator (WDNA) advancing new insight, foresight and intelligence from diverse data.

Discover how harnessing the power of data and AI can transform your organisation

In light of the rapid technological transformation and the increasingly widespread reach of data science and artificial intelligence (AI) in society, it is vital we work as a collective across private, public and third sector, as well as academia, to take coordinated actions to harness data and intelligence. The Wales Data Nation Accelerator’s (WDNA) mission is to help Wales become more resilient and prosperous, promoting economic and social transformation through support for innovation in data and AI, based on raising skills, collaborations and critical mass, whilst positioning Wales for long term success through greater insight, foresight and intelligence.

In January 2022, the WDNA pilot supported 22 ‘super sprint’ projects matching data scientists and AI researchers with partners in industry, public and third sector organisations to harness the potential from data. The 1-2 month short projects spanned a variety of sectors and tackled challenges ranging from carbon reduction through optimising energy usage, to better patient benefit through AI guided diagnosis and prognosis of post operative SEPSIS. The UK can lead the way in advances in AI and Data Science.

This showcase event will highlight outcomes of the WDNA pilot projects, share learnings and best practice and provide an overview for the ambitions of Wales going forward. You can learn more about the Wales Data Nation Accelerator here: https://www.cardiff.ac.uk/innovation/our-partnerships/data-nation-accelerator

Who should attend

Anyone with an interest in the digital transformation agenda and would like to learn more of the potential for AI and data science to disrupt and shape Wales future. Whether you’re a digital native, or keen to better understand the opportunities, this event will share knowledge on the current landscape, provide insight into best practice, and outline our future ambition for the WDNA and beyond.

Further details have now been sent over email to everyone who has registered.

The full agenda is below:

Agenda

1.15pm Registration opens, with an accompanying exhibition for delegates to network and engage with WDNA projects, team and the wider community with poster display for each project. Refreshments available.

The Minister will arrive at 1.30pm and be taken on a tour of the poster display prior to the welcome address by Prof Roger Whitaker.

2.00pm Welcome - Prof Roger Whitaker, Pro Vice Chancellor Research, Innovation and Enterprise, Cardiff University

2.05pm Ministerial address by Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change

2.15pm Wales Data Nation Accelerator: accelerating new insight, foresight and intelligence from diverse data – Prof Roger Whitaker, Pro Vice Chancellor Research, Innovation and Enterprise, Cardiff University

2.20pm Digital transformation - Steph Eden, Global R&T Cooperations and R&T Public, Funding, Airbus

2.25pm The importance of data and AI to Wales – Megan Perry, Head of Data and Digital, Dwr Cymru Welsh Water

2.30pm Delivering impact through collaboration - introduced by Kate Davies, Deputy Director, Programme Delivery, ONS. (Lightning pitches by 8 projects funded through the WDNA pilot)

3.30pm Q&A for panel (Chaired by Kate Davies, Deputy Director,ONS. The panel will include speakers and project leads)

3.55pm Digital future – what’s next for Wales & UK

• Colan Mehaffey, Head of Digital & Data Innovation, Cardiff Capital Region

• Andrew Banks, Lead Data Scientist, Office for National Statistics

4.05pm Thank you and summary

Exhibition open for delegates to network and engage with WDNA projects, team and the wider community. Refreshments & biscuits will be available.

5.00pm Event close

The Data Nation Accelerator is a pan-Wales initiative that is being developed to accelerate new insight, foresight and intelligence from diverse data assets for societal, health and economic impact. Through cocreation across business and other parties, the Wales Data Nation Accelerator seeks to fuel innovation in data and AI for new solutions, products and applications in key industrial clusters and public services, while also enriching the talent pool of skills in Wales for data science and AI. Being driven by the Universities of Cardiff, Swansea, Aberystwyth and Bangor, the programme is codeveloped with Welsh Government, industry, public and third sector.

Please note that when registering for this event, your data will be held in accordance with our privacy statement, which can be viewed here.

Simultaneous Translation

The event will be delivered in the medium of English. You are welcome to ask questions in the medium of Welsh in advance of the event for the Q&A session. If you intend to do this, please contact CluettK@cardiff.ac.uk before Thursday 12 May 2022 to request simultaneous translation. Please note that 10% or more of those planning to attend will need to request this provision in order for it to be sourced and will be subject to resource availability.

Accessibility

Please let us know if you have any accessibility requirements by contacting CluettK@cardiff.ac.uk by Thursday 12 May 2022.

Registration

We apologise that the entire registration page is not available in the medium of Welsh. Unfortunately, the platform we use does not offer this service.

*****

Mae’r digwyddiad yn un hybrid, i groesawu pobl wyneb yn wyneb yn bersonol ac yn rhithwir ar-lein.

Trawsnewid digidol: Mae Cyflymydd Cymru Data Nation (WDNA) yn hyrwyddo mewnwelediad a deallusrwydd newydd a’r gallu i ragweld yn seiliedig ar ddata amrywiol.

Darganfyddwch sut y gall harneisio pŵer data ac AI drawsnewid eich sefydliad

Yn sgîl y trawsnewid technolegol cyflym ac wrth i ddeallusrwydd artiffisial (AI) ddod yn fwy a mwy amlwg yn y gymdeithas, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ogystal â chyda’r byd academaidd, i gymryd camau unedig i harneisio data a deallusrwydd. Cenhadaeth Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru (WDNA) yw helpu Cymru i ddod yn fwy gwydn a llewyrchus, gan hyrwyddo trawsnewid economaidd a chymdeithasol. Bydd yn cefnogi arloesedd mewn data ac AI, yn seiliedig ar wella sgiliau, cydweithio a màs critigol, ac yn gosod Cymru mewn sefyllfa i lwyddo yn yr hirdymor drwy gael mwy o fewnwelediad a deallusrwydd a gallu rhagweld yn well.

Ym mis Ionawr 2022, cefnogodd cynllun peilot WDNA 22 o brosiectau 'swper sbrint' sy'n rhoi gwyddonwyr data ac ymchwilwyr AI mewn cyswllt â phartneriaid mewn sefydliadau yn y diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i harneisio'r potensial sydd gan ddata. Roedd y prosiectau byr a oedd yn rhedeg am un neu ddau fis yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau ac yn mynd i'r afael â heriau sy'n amrywio o leihau allyriadau carbon drwy wneud y defnydd gorau posibl o ynni, i roi mwy o fudd i gleifion drwy ddiagnosis dan arweiniad AI a phrognosis o SEPSIS ar ôl llawdriniaeth. Gall y DU arwain y ffordd o ran datblygiadau mewn AI a Gwyddor Data.

Bydd y digwyddiad arddangos hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau prosiectau peilot WDNA, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd a’r arferion gorau ac yn rhoi trosolwg o uchelgeisiau Cymru wrth symud ymlaen. Gallwch ddysgu mwy am Gyflymydd Cenedl Ddata Cymru yma.

Pwy ddylai fynd

Unrhyw un sydd â diddordeb yn yr agenda trawsnewid digidol ac sydd am ddysgu mwy am y potensial sydd gan AI a gwyddor data i newid a llunio dyfodol Cymru. Os ydych chi wedi’ch magu gyda thechnoleg o’ch cwmpas, neu'n awyddus i ddeall y cyfleoedd yn well, bydd y digwyddiad hwn yn rhannu gwybodaeth am y dirwedd bresennol, yn rhoi cipolwg ar yr arfer gorau, ac yn amlinellu ein huchelgais ar gyfer WDNA a thu hwnt yn y dyfodol.

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys agenda lawn a’r siaradwyr, yn cael eu rhannu â'r rhai sydd wedi cofrestru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Agenda

1.15pm Cofrestru’n agor, gydag arddangosfa i’r cynrychiolwyr ei mwynhau a bydd cyfle i ymgysylltu â phrosiectau WDNA, y tîm a’r gymuned ehangach, bydd yna arddangosfa bosteri ar gyfer pob prosiect. Lluniaeth ar gael.

Bydd y gweinidog yn cyrraedd am 1:30pm ac yn mynd i weld yr arddangosfa bosteri cyn yr anerchiad croeso gan yr Athro Roger Whitaker.

2.00pm Croeso gan yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Prifysgol Caerdydd

2.05pm Anerchiad y Gweinidog Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

2.15pm Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru: cyflymu’r broses o ddysgu, rhagweld a deall gwybodaeth o ddata amrywiol – yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, Prifysgol Caerdydd

2.20pm Trawsnewid Digidol - Steph Eden, Corfforaethau Ymchwil a Thechnoleg (R&T) Byd-eang ac R&T y Cyhoedd, Cyllid, Airbus

2.25pm Pwysigrwydd data a deallusrwydd artiffisial (AI) i Gymru – Megan Perry, Pennaeth Data a Digidol, Dŵr Cymru Welsh Water

2.30pm Cyflawni effaith drwy gydweithio - cyflwyniad gan Kate Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflawni Rhaglenni, SYG. (Cyflwyniad byr gan 8 prosiect sydd wedi cael cyllid trwy gynllun peilot WDNA)

3.30pm Sesiwn holi ac ateb gyda’r panel (yn cael ei chadeirio gan Kate Davies, Dirprwy Gadeirydd, SYG.) Bydd y panel yn cynnwys siaradwyr ac arweinwyr prosiect)

3.55pm Dyfodol Digidol - beth nesaf i Gymru a’r DU?

Colan Mehaffey, Pennaeth Arloesedd Digidol a Data, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Andrew Banks, Prif Wyddonydd Data, y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

4.05pm Diolch a chrynodeb

Arddangosfa’n agor i’r cynrychiolwyr rwydweithio ac ymgysylltu â phrosiectau WDNA, y tîm a’r gymuned ehangach. Bydd lluniaeth a bisgedi ar gael.

5.00pm Digwyddiad yn dod i ben

Mae'r Cyflymydd Cenedl Ddata yn fenter ar gyfer Cymru gyfan. Ei nod yw cyflymu’r broses o ddysgu, rhagweld a deall gwybodaeth gan asedau data amrywiol er mwyn cael effaith ar gymdeithas, iechyd a’r economi. Drwy gyd-greu ar draws busnesau a phartïon eraill, nod Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yw ysgogi arloesedd o ran data a deallusrwydd artiffisial er mwyn creu datrysiadau, cynnyrch a rhaglenni newydd mewn clystyrau diwydiannol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd am geisio cyfoethogi’r gronfa dalent o sgiliau yng Nghymru ym meysydd gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial. Mae'r rhaglen, sy'n cael ei rhedeg gan Brifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, wedi’i datblygu ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru, y diwydiant, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Wrth gofrestru, nodwch y bydd eich data’n cael ei gadw’n unol â’n Hysbysiad Diogelu Data, sydd ar gael yma.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Mae croeso i chi gyflwyno cwestiynau yn Gymraeg ymlaen llaw i’w gofyn yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, ebostiwch CluettK@caerdydd.ac.uk cyn Dydd Iau 12 Mai 2022 i ofyn am wasanaeth cyfieithu ar y pryd. Er mwyn i’r gwasanaeth hwn gael ei ddarparu, bydd angen i 10% neu fwy o’r rhai sydd am ddod i’r digwyddiad ofyn amdano. Hefyd, bydd angen i’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth fod ar gael ar y diwrnod.

Hygyrchedd

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd drwy ebostio CluettK@caerdydd.ac.uk erbyn Dydd Iau 12 Mai 2022.

Cofrestru

Ymddiheurwn nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus, nid yw hynny’n bosibl ar y platfform rydym yn ei ddefnyddio.

Organised by

Sales Ended