Exploring experiences and challenges in Europe today

Registrations are closed

This event has now closed, for future WISERD events please see our website http://www.wiserd.ac.uk/training-events/

Exploring experiences and challenges in Europe today

English text appears below

By WISERD

Date and time

Wed, 28 Sep 2022 13:00 - Thu, 29 Sep 2022 14:45 GMT+1

Location

Pontio

Pontio Bangor LL57 2DG United Kingdom

About this event

Bydd y digwyddiad hwn yn dod â sefydliadau cymdeithas sifil Roma, Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd gydag academyddion, llunwyr polisïau, ac aelodau o'r gymuned i glywed a thrafod profiadau Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn Ewrop. Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu profiadau sefydliadau cymdeithas sifil Roma a bydd yn cynnwys arddangosfa sain/clywedol a ddyluniwyd i dynnu sylw at rai o'r lleisiau yr ydym wedi'u recordio yn ein hymchwil yn ogystal â dangos ffilm a chynnal dau ddiwrnod o drafodaethau.Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys prif areithiau, trafodaethau mewn grwpiau a gweithdai. Bydd hefyd yn myfyrio ar ddwy flynedd o ymchwil a ariannodd Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a archwiliodd Roma Tsiec a Groegaidd, a sefydliadau cymdeithas sifil Sipsiwn, Roma a Theithwyr y DU.Yn rhan o'r digwyddiad, cawn glywed gan Dr Adrian Marsh, a gan yr Athro Margaret Greenfields am adduned GTRSB i AU i oresgyn ffactorau sy’n rhwystro Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn ( Showmen) a phobl sy’n byw mewn cychod (Boaters) rhag cymryd rhan mewn Addysg Uwch.

Byddwn hefyd yn clywed yn uniongyrchol gan amrywiaeth o fudiadau cymdeithas sifil Roma Ewropeaidd a llunwyr polisïau sydd â'r dasg o gefnogi cymunedau GRTSB yng Nghymru mewn dwy drafodaeth mewn grwpiau. Yn ogystal, bydd Dr Adrian Marsh yn arwain gweithdy sy'n cynnwys sefydliadau cymdeithas sifil Roma, Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Ewrop, llunwyr polisïau ac academyddion.

Gallwch chi fynd i’r prif ddarlithoedd naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ymuno â nhw drwy zoom.

Mae'r sefydliadau cymdeithas sifil sy'n cymryd rhan yn cynnwys:

Romodrom (Gweriniaeth Tsiec), Ymddiriedolaeth Community Renewal (Yr Alban), Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Cymru), Teithio Ymlaen (Cymru), Canolfan St James (Lloegr), Slovo 21 (Y Weriniaeth Tsiec).

Os oes gennych gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â Martina Feilzer, m.feilzer@bangor.ac.uk, Dr Dana Brablecova, d.brablecova@bangor.ac.uk.

Dim ond y prif areithiau fydd ar gael i’w gweld ar-lein

Amserlen y Digwyddiad:

Mer 28 Medi 2022. Lleoliad: Pontio, PL2

  • 1pm: Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr WISERD: Yn agor y digwyddiad
  • 1.15-2.30pm: Prif Anerchiad: Dr Adrian Marsh ‘Sipsiwn, Roma, Teithwyr yn Ewrop fodern – o ‘Dir Sipsiwn’ i ‘Romanistan’
  • Egwyl bydd coffi a chacen ar gael
  • 3-4pm: Trafodaeth Ford Gron – Safbwyntiau ynghylch profiadau Sipsiwn, Roma, Teithwyr yn Ewrop fodern o Gymdeithasau Sifil y Weriniaeth Tsiec a’r Du
  • 4.10-5.15pm: Dangos rhaglen ddogfen 'Kuschtepe Blues'
  • 5.30pm: Derbyniad Gyda'r Nos

Dydd Iau, 29 Medi 2022. Lleoliad: Pontio, PL2 + Wheldon ystafell seminar 1-3

  • 10-11am Prif Anerchiad: Yr Athro Margaret Greenfields ‘Chwalu rhwystrau o ran cyfranogiad a chreu amgylchedd croesawgar ar gyfer Myfyrwyr Roma: yr Adduned Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl Cychod i AU (GTRSBintoHE Pledge)’. Lleoliad: Pontio PL2 ac ar Zoom
  • 11.10-12.30 Trafodaeth Ford Gron – Cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – polisïau, arferion a rhwystrau. Lleoliad: Wheldon 1
  • Cinio Bwffe
  • 1.15-2.45 Gweithdy dan arweiniad Dr Adrian Marsh ar ‘Ymchwil Romani, Straeon Teithwyr – canllaw maes ymarferol yr academydd ar gyfer gweithio gyda chymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr o ran ymchwil gyfoes ym maes y gwyddorau cymdeithasol, iechyd a dyniaethau’. Lleoliad: Wheldon ystafell seminar 1-3
  • 2.45 Diwedd
  • 5.30 - Dangosiad ffilm - LATCHO DROMA. Lleoliad: Sinema Pontio

This event will bring together Roma, Gypsy and Traveller civil society organisations from across Europe with academics, policy makers, and community members to hear about and discuss Roma, Gypsy and Traveller experiences in Europe. This event foregrounds the experiences of Roma civil society organisations and will include an audio-visual exhibition designed to highlight some of the voices we have captured in our research as well as a film screening and two days of discussions. Organised through keynotes, roundtables and workshops, the event will also reflect on two years of research funded by the Economic and Social Research Council WISERD Civil Society Research Centre that examined Czech and Greek Roma, and UK Gypsy, Roma and Traveller, civil society organisations. As part of the event, we will hear from Dr Adrian Marsh, and from Professor Margaret Greenfields about the GTRSBintoHE Pledge to overcome barriers to participation in Higher Education for Gypsies, Travellers, Roma, Showmen and Boaters.

We will also hear directly from a variety of European Roma civil society organisations and policy-makers tasked with supporting GRTSB communities in Wales in two roundtables. In addition, Dr Adrian Marsh will lead a workshop involving Roma, Gypsy and Traveller civil society organisations from across Europe, policy makers, and academics.

The keynote lectures can be accessed in person or via zoom.

Participating civil society organisations include:

Romodrom (Czech Republic), the Community Renewal Trust (Scotland), the Gypsy, Roma, and Traveller Social Work Association (Wales), Travelling Ahead (Wales), St James Centre (England), Slovo 21 (Czech Republic).

For questions about the event, please contact Martina Feilzer, m.feilzer@bangor.ac.uk or Dr Dana Brablecova, d.brablecova@bangor.ac.uk.

Only the keynote speeches will be available to view online.

Schedule of the Event:

Wed 28 September 2022. Location: Pontio, PL2

  • 1pm Ian Rees Jones, Director of WISERD: Opening of the event
  • 1.15-2.30pm Keynote: Dr Adrian Marsh ‘Gypsy, Roma, Travellers in modern Europe – from ‘Gypsyland’ to ‘Romanistan’?
  • Break with Coffee and Cake
  • 3-4pm Roundtable – Perspectives on Gypsy, Roma, Travellers experiences in modern Europe from Czech and UK Civil Society
  • 4.10-5.15pm: Screening of Documentary ‘Kuschtepe Blues’
  • 5.30pm Evening Reception

Thurs, 29 September 2022. Location: Pontio, PL2 + Wheldon Seminar Rooms 1-3

  • 10-11am Keynote: Professor Margaret Greenfields ‘Breaking barriers to participation and creating a welcoming environment for Roma Students: the GTRSBintoHE Pledge’. Location: Pontio PL2 and on Zoom
  • 11.10-12.30 Roundtable – Supporting Gypsy, Roma, Travellers communities – policies, practices, and barriers. Location: Wheldon 1
  • Buffet Lunch
  • 1.15-2.45 Workshop led by Dr Adrian Marsh on ‘Romani research, Travellers’ Tales – an academic’s practical field guide to working with Gypsy, Roma, Traveller communities in contemporary social science, health, and humanities research’. Location: Wheldon Seminar room 1-3
  • 2.45 Close
  • 5.30 – Film screening - LATCHO DROMA. Location: Pontio Cinema

Organised by

The Wales Institute of Social and Economic Research and Data (WISERD) is a national, interdisciplinary, social science research institute. We have been designated by the Welsh Government as a national research centre. Using innovative approaches, our research spans the fields of economics, sociology, geography and political science.

We are a collaborative venture between the universities of Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea – working together to improve the quality and quantity of social science research in Wales and beyond. Our research effects change by influencing the development of policy and practice across a range of sectors.

-------

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol cenedlaethol. Rydym wedi ein dynodi gan Lywodraeth Cymru’n ganolfan ymchwil genedlaethol. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, mae ein hymchwil yn cwmpasu economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth wleidyddol. 

Rydym yn gydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe - yn cydweithio i wella safon a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn effeithio ar newid drwy ddylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer ar draws ystod o sectorau.

Sales Ended