top of page
carousel_Rhys.jpg

Yr Arglwydd Rhys

Dewch â’ch gwledd, eich medd a’ch sedd.

​

Drama, yn yr awyr agored, i’r teulu - comedi ddychanol llawn rhialtwch a thensiwn teuluol; colli ac ennill tir; barddoniaeth fydd neb yn deall… ond sdim ots am hynny achos MI FYDD YNA GADEIRIO!

​

Mae Mewn Cymeriad yn llwyfannu drama newydd sbon i’r teulu am un o arwyr y Deheubarth - Rhys ap Gruffydd. Honir taw Rhys ap Gruffydd, neu’r Arglwydd Rhys, adeiladodd y castell Cymreig cyntaf o gerrig yng Nghymru, ac yno, yn 1176, cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed. 
Tra’n cael lot fawr o hwyl, dyma gyfle i’r teulu cyfan ddysgu rhywfaint am un o arwyr y Deheubarth. Byddwn yn teithio rhai o’r cestyll ysblennydd, dan ofal Cadw, yn ystod mis Awst 2022. 

AWDUR A CHYFARWYDDWR

Janet Aethwy

CANEUON GAN

Aneirin Karadog a Mei Gwynedd

CAST

Cadi Beaufort
Dyfed Cynan
Sion Emyr 
Ffion Glyn

Lleoliadau'r daith 2022

Abaty Ystrad Fflur – Awst 3 6:30yh

Castell Biwmares – Awst 11 6:30yh

Castell Dinbych – Awst 12 6:30yh

Castell Cydweli – Awst 18 6:30yh

Castell Aberteifi – Awst 19 5:30yh

Castell Dinefwr – Awst 20 4:00yh

This production is in Welsh. Translation facilities will be available.

__logo_strip-01.png

Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefngoaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru

bottom of page