Screen Reader Mode Icon

Am yr arolwg hwn

Gofynnir i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion Ifanc sy’n Ofalwyr lenwi’r arolwg hwn.

Mae gofalydd ifanc yn rhywun dan 18 sy’n helpu gofalu am rywun yn eu teulu, neu gyfaill, sy’n sâl/dost, anabl neu’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Mae oedolyn ifanc sy’n ofalydd yn rhywun 18 i 25 oed sy’n helpu gofalu am rywun yn eu teulu, neu gyfaill, sy’n sâl/dost, anabl neu’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Pwrpas yr arolwg hwn yw ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’ch anghenion, effaith coronafeirws arnoch chi a pha gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Defnyddir yr arolwg i’n helpu i ddylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau fel y llywodraeth, amlygu anghenion gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr, yn y cyfryngau ac ar gyfryngau cymdeithasol, a bydd yn ein helpu i feddwl am ffyrdd newydd o gefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr fel chi. Dylai gymryd llai na 10 munud i’w gwblhau.

Rydym yn gofyn cwestiynau am oed, ethnigrwydd, anabledd a lleoliad. Y rheswm am hynny yw er mwyn inni geisio deall a oes gan grwpiau penodol o bobl ifanc anghenion gwahanol a sut ellir eu helpu. Nid ydym yn casglu manylion personol fel rhan o’r arolwg hwn fyddai’n eich adnabod.

Nid ydym yn gofyn am eich enw. Nid oes y fath beth ag atebion cywir neu anghywir. Nid oes rhaid ichi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych eisiau eu hateb.

Ar ddiwedd yr arolwg, mae blwch lle y gallwch esbonio mwy am effaith coronafeirws arnoch chi, os ydych eisiau gwneud hynny.

Os hoffech gael gwybod am y cymorth sydd ar gael ichi trwy Rwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mae manylion cyswllt ar gael ar ein gwefan.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys manylion am fudiadau eraill ar draws gwledydd Prydain sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn hapus i barhau, gwasgwch ar nesaf isod. 

Diolch yn fawr.

T