Net Zero Wales & Regenerative Futures - HEFCW Funded event - Live Stream

Net Zero Wales & Regenerative Futures - HEFCW Funded event - Live Stream

Net Zero Wales and Regenerative Futures - HEFCW funded event by the Faculty of STEM at the Open University and the Open University in Wales

By Faculty of STEM and the Open University in Wales

Date and time

Mon, 11 Jul 2022 04:00 - Thu, 14 Jul 2022 05:00 PDT

Location

Online

About this event

Net Zero Wales and Regenerative Futures

11-14 July, online or at the Centre for Alternative Technology

What if the five ways of working* were fully embedded in all organisations and sectors in Wales?

Step into green time and space with The Open University in Wales to help us imagine a carbon positive, regenerative future in the beautiful Welsh countryside.

A four-day eco-sabbatical to listen, collaborate and co-create opportunities for integrating regenerative and carbon positive skills into key sectors. The first of a new series of innovative conversations on the future we long for.

Sustainability pioneers, practitioners and those with sustainability and net zero responsibilities within the workplace are invited to share their unique perspectives, listen, discuss and experience time in nature together in a series of conversations to explore the intersections in this essential, emergent field.

Join us in an open-spirited, enabling environment for the opportunity to reflect, refresh and reconnect to nature. Drop-in or stay for the whole four days. Leave feeling inspired and energised to transition your home, workplace, community, and economy to regenerative and carbon positive skills. Know you are part of a supportive community of practice and re-experience that you are part of nature!

What if …

… the *five ways of working (long-term thinking, prevention, involvement, collaboration and integration) optimise the future plans and activities of all organisations?

… cross-sector perspectives amplify our individual efforts to live regeneratively?

… regenerative systems produce abundance?

… education providers were visionary regenerative leaders?

… shared connections and networks enable rapid learning in skills for regenerative living?

Bring your curiosity, your experience, your expertise, your passion and your vision for a regenerative future, to build momentum together!

To be held at the Centre for Alternative Technology. Nestled in the stunning UNESCO Dyfi Biosphere in Mid Wales, The Centre for Alternative Technology (CAT) is a world-renowned eco-centre that demonstrates practical solutions for a sustainable future.

Programme Schedule

--Programme subject to change--

Monday 11 July - Net Zero Wales

Welcome to Net Zero Wales and Positive Futures

  • 1315-1330 Welcome: Dr Victoria Hands Director of Sustainability and Stephen Peake, Professor of Climate and Energy, The Open University
  • 1330-1415 Net Zero Wales: Kara Bennett, Net Zero Wales Programme Manager, OU in Wales.

Join us to explore the relevant legislation and guidance and how that can inform our actions at home, at work and in our communities.

  • 1430-1730 Workshop: Departmental Action Planning for Net Zero and sustainability.

Join Sheri-Leigh Miles from NETpositive Futures and Phoebe Machin Net Zero Engagement Manager, OU in Wales. Find out what the NETPositive Futures action planning tool offers and contribute to its development and application.

Tuesday 12 July Skills for Net Zero

Today we focus on imagining the skills required for a rapid and just transition to Net Zero.

  • 0930-10.00 Skills – the Open University approach: Stephen Peake, Professor of Climate and Energy, The Open University

What if education providers were visionary regenerative leaders? Join us to understand how to capitalise on the lessons from a disruptive innovation for social justice 50 years ago, can help shape the radical transformation needed to secure climate safety.

Wednesday 13 July The five ways of working

Today we explore the possibilities from adopting five ways of working: long-term, prevention, involvement, collaboration and integration. Drawn from the Well-being of Future Generations Act.

  • 1100-1230 Future Generations

What if the small nation of Wales inspires all countries to place the well-being of future generations at the heart of their of Government? Join Jane Davidson, Pro Vice-Chancellor Emeritus, UWTSD, Author of #futuregen: Lessons from a Small Country and former Minister for Environment, Sustainability and Housing in Wales to discuss Wales’ revolutionary approach.

  • 1330-1530 Workshop: Regenerative Futures

What if shared connections and networks enable rapid learning in skills for regenerative living? Join Andy Middleton of TYF Founder and Chief Exploration Officer to lead us on an exploration of the power of business to make a positive difference with inspirational examples.

  • 1600-1730 Eco-anxiety and Care Circle

Learn how to care for self and others in a time of climate and ecological crisis with our Care Circle host Chukumeka (Chukes) Maxwell. Practise having courageous conversations and find out what training is available to ensure we are all First Aid trained for physical and mental well-being.

Thursday 14 July Regenerative futures

Today we expand our focus beyond Net Zero to Regenerative Futures and ask you to imagine with us, a carbon positive, regenerative future.

  • 1330-1415 Regenerative futures start here and now……

What if regenerative systems produce abundance? Join Peter Harper and Professor Stephen Peake to explore the lessons learned from renewable energy pioneers and places like CAT and the emergence of regenerative futures

Please note a link will be sent out to all who have signed up 24 hours before the event commences.

Sero Net Cymru a Dyfodol Adfywiol - digwyddiad wedi'i Ariannu gan CCAUC - Ffrwd Fyw

Sero Net Cymru a Dyfodol Adfywiol - digwyddiad wedi'i Ariannu gan CCAUC gan Gyfadran STEM y Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Manylion y digwyddiad hwn

Sero Net Cymru a Dyfodol Adfywiol

11-14 Gorffennaf, ar-lein, neu yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen

Beth petai'r pum ffordd o weithio* wedi'u hymgorffori'n llwyr ym mhob sefydliad a sector yng Nghymru?

Camwch i amser a lle gwyrdd gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru, er mwyn ein helpu i ddychmygu dyfodol adfywiol, carbon bositif, yng nghefn gwlad hyfryd Cymru.

Cyfnod eco-sabothol dros bedwar diwrnod i wrando, cydweithio a chyd-greu cyfleoedd ar gyfer integreiddio sgiliau adfywiol a charbon bositif mewn sectorau allweddol. Y cyntaf mewn cyfres newydd o sgyrsiau arloesol yn trafod y dyfodol rydym yn dyheu amdano.

Mae arloeswyr cynaliadwyedd, ymarferwyr ac unigolion sydd â chyfrifoldebau cynaliadwyedd a sero net yn eu gweithle, yn cael eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau unigryw, gwrando, trafod a phrofi amser ym myd natur gyda'i gilydd, mewn cyfres o sgyrsiau er mwyn archwilio'r croestoriad yn y maes hanfodol, newydd hwn.

Ymunwch â ni mewn amgylchedd agored a fydd yn cynnig cyfle i fyfyrio, adfywio ac ailgysylltu a natur. Galwch heibio neu arhoswch am y pedwar diwrnod cyfan. Byddwch yn gadael wedi'ch ysbrydoli ac yn barod i drawsnewid eich cartref, gweithle, cymuned, ac economi gyda sgiliau adfywiol a charbon bositif. Gwybod eich bod yn rhan o gymuned gefnogol o ymarfer ac ail-brofi eich bod yn rhan o natur!

Beth petai…

... y pum ffordd o weithio (meddwl hirdymor, atal, cysylltiad, cydweithrediad ac integreiddiad) yn gwneud y mwyaf o weithgareddau a chynlluniau dyfodol pob sefydliad?

... safbwyntiau traws-sector yn ehangu ein hymdrechion unigol i fyw'n adfywiol?

... systemau adfywiol yn cynhyrchu digonedd?

... darparwyr addysg yn arweinwyr adfywiol gweledol?

... rhwydweithiau a chysylltiadau a rennir yn galluogi dysg gyflym o ran sgiliau i fyw'n adfywiol?

Dewch â'ch chwilfrydedd, eich profiad, eich arbenigedd, eich brwdfrydedd a'ch gweledigaeth am ddyfodol adfywiol, i adeiladu momentwm gyda'n gilydd!

I'w gynnal yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen. Yng nghanol y Biosffer Dyfi UNESCO hardd yng nghanolbarth Cymru, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn ganolfan eco fyd-enwog sy'n arddangos datrysiadau ymarferol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Amserlen y Rhaglen

--Gall modiwlau newid--

Dydd Llun 11 Gorffennaf - Sero Net Cymru

Croeso i Sero Net Cymru a Dyfodol Cadarnhaol

• 1315-1330 Croeso: Dr Victoria Hands, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Stephen Peake, Athro Ynni a'r Hinsawdd, y Brifysgol Agored

• 1330-1415 Sero Net Cymru: Kara Bennet, Rheolwr Rhaglen Sero Net Cymru, y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Ymunwch â ni i archwilio'r canllawiau a deddfwriaeth berthnasol a sut all hynny lywio ein gweithredoedd gartref, yn y gwaith ac yn ein cymunedau.

• 1430-1730 Gweithdy: Cynllunio Camau Gweithredu Adrannol ar gyfer Sero Net a chynaliadwyedd.

Ymunwch â Sheri-Leigh Miles o NETpositive Futures a Phoebe Machin, Rheolwr Ymgysylltiad Sero Net, y Brifysgol Agored yng Nghymru. Dysgwch beth sydd gan offeryn cynllunio camau gweithredu NETPositive Futures i'w gynnig a'i gyfrannu i'w ddatblygiad a chymhwysiad.

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf Sgiliau ar gyfer Sero Net

Heddiw, byddwn yn canolbwyntio ar ddychmygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer trosglwyddiad cyflym a theg tuag at Sero Net.

• 0930-10.00 Sgiliau – dull y Brifysgol Agored: Stephen Peake, Athro Ynni a'r Hinsawdd, y Brifysgol Agored

Beth petai darparwyr addysg yn arweinwyr adfywiol gweledol? Ymunwch â ni i ddeall sut gallai manteisio ar wersi arloesedd aflonyddgar dros gyfiawnder cymdeithasol 50 mlynedd yn ôl, helpu i lywio'r trawsnewidiad radical sydd ei angen i sicrhau diogelwch yr hinsawdd

Dydd Mercher 13 Gorffennaf Y pum ffordd o weithio

Heddiw, rydym yn archwilio'r posibilrwydd o addasu'r pum ffordd o weithio: hirdymor, atal, cysylltiad, cydweithrediad ac integreiddiad. Wedi'i dynnu o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

• 1100-1230 Cenedlaethau’r Dyfodol

Beth petai cenedl fechan Cymru'n ysbrydoli'r holl wledydd i roi llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd eu Llywodraeth? Ymunwch â Jane Davidson, y Dirprwy Is-ganghellor Emeritws, Prifysgol De Cymru, Awdur #futuregen: Lessons from a Small Country, a Chyn-weinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Cymru, i drafod dull chwyldroadol Cymru.

• 1330-1530 Gweithdy: Dyfodol Adfywiol

Beth petai rhwydweithiau a chysylltiadau a rennir yn galluogi dysg gyflym o ran sgiliau i fyw'n adfywiol? Ymunwch ag Andy Middleton o TYF, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Archwilio, i'n harwain drwy archwiliad o bŵer busnes i wneud gwahaniaeth cadarnhaol gydag enghreifftiau ysbrydoledig.

• 1600-1730 Gorbryder eco a Chylch Cysur

Dysgwch sut i ofalu am eich hunan ac eraill yn ystod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol gyda'n gwesteiwr Cylch Cysur, Chukumeka (Chukes) Maxwell. Ewch ati i ymarfer sgyrsiau dewr a darganfyddwch pa hyfforddiant sydd ar gael i sicrhau ein bod i gyd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol.

Dydd Iau 14 Gorffennaf Dyfodol adfywiol

Heddiw, rydym yn ehangu ein ffocws y tu hwnt i Sero Net i Ddyfodol Adfywiol, ac rydym yn gofyn ichi ddychmygu dyfodol adfywiol, carbon bositif, gyda ni.

• 1330-1415 Mae dyfodol adfywiol yn dechrau yma, nawr...

Beth petai systemau adfywiol yn cynhyrchu digonedd? Ymunwch â Peter Harper a'r Athro Stephen Peake i archwilio'r gwersi a ddysgwyd gan arloeswyr ynni adnewyddadwy a lleoedd fel CAT a dyfodol adfywiol yn dod i'r amlwg

Noder, caiff dolen ei hanfon at bawb sydd wedi cofrestru 24 awr cyn i'r digwyddiad ddechrau.

Organised by

Sales Ended